Tiwns Cymru: 'Dwi isio dangos i bobl beth ydy cerddoriaeth Gymraeg'

- Cyhoeddwyd
Mae Gruff Davies yn caru cerddoriaeth Gymraeg. Ac mae o eisiau i chi wneud hefyd.
Dyna pam y penderfynodd ddechrau cyfrif Tiwns Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae'n rhannu un gân Gymraeg bob dydd.
Ac yn ôl y ffaith fod pobl yn dechrau ei 'nabod fel 'Gruff Tiwns', mae gan y cyfrif ddipyn o ddilyniant, er mai dim ond ers mis Mehefin mae o wrthi.
Playlist 74 awr o ganeuon Cymraeg
"'Nes i sylwi, does yna bron ddim ffordd o hybu cerddoriaeth Gymraeg ar TikTok," eglurodd. "Dwi wastad 'di lyfio cerddoriaeth Gymraeg, ac o'n i isio dangos i bawb 'dyma be'n dwi'n ei licio'.
"O'n i hefyd isio dangos i bobl oed fi be' ydy cerddoriaeth Gymraeg. Mae tua 90% o'n ffrindiau ysgol i ddim yn licio cerddoriaeth Gymraeg, a dwi'n deud wrthyn nhw ''Dach chi jest ddim wedi ffeindio'r band neu genre cywir!'."
Mae Gruff Davies yn dewis cân Gymraeg i'w rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol bob dydd.
Ac ar dudalen Tiwns Cymru, rydych chi'n siŵr o ddod o hyd i gân neu artist rydych chi'n ei fwynhau, meddai, wrth i Gruff rannu caneuon o wahanol fathau a degawdau. Mae hyn yn adlewyrchu ei chwaeth gerddorol ei hun, sydd yn deillio o'r amrywiaeth o gerddoriaeth roedd yn ei chlywed yn ei gartref wrth dyfu i fyny:
"Dwi'n licio bach o bob dim. Gan Mam, dwi wedi cael ei chaneuon hi, fel Bryn Fôn, Dafydd Iwan, Eden, wedyn bandiau roc gan Dad, fel Big Leaves a'r Cyrff. A dwi wedi amsugno popeth, a dewis be' dwi'n ei licio.
"Mae'n neis cael yr amrywiaeth wrth wrando ar fy playlist – sydd rhyw 74 awr, i gyd yn gerddoriaeth Gymraeg! Un eiliad alla i gael Endaf Emlyn, munud nesa' Lafant, munud nesa', Maffia Mistar Huws.
"Ond fy hoff genre swn i'n deud ydy roc, fel Big Leaves – nhw ydy fy hoff fand, ac wedi bod ers blynyddoedd."
Technoleg hen a newydd
Felly gyda gymaint o ganeuon Cymraeg yn bodoli, sut mae Gruff yn mynd ati i ddewis pa gan i sôn amdani bob dydd?
"Dwi'n trio gwneud artist gwahanol bob diwrnod, eu cyflwyno nhw, y gân, a'r cefndir. Dwi'n mynd drwy'n playlist i a gweld pwy dwi heb 'neud, ond weithiau mae o jyst yn fi yn deffro efo cân yn styc yn fy mhen, felly pam ddim sôn am yr artist yna?!
"A dwi'n mynd ar ôl straeon. 'Nes i Gwenwyn gan Alffa, achos mae o'n fy atgoffa i o fod yn y car efo 'nhad yn gwrando ar y gân efo'r volume i fyny. 'Nes i Nia Ben Aur achos dwi'n caru theatr a 'nes i [sioe gerdd yr Urdd] Calon dros yr haf."
Caniatáu cynnwys TikTok?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan TikTok. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis TikTok, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Gobaith Gruff ydy fod pobl yn gwrando ar gân y dydd, ac wedyn yn mynd i wrando ar ganeuon eraill yr artist hwnnw. A gyda thechnoleg y dyddiau yma, mae gwrando ar, a dod o hyd i gerddoriaeth sy'n newydd i chi yn haws nag erioed – er fod 'hen' dechnoleg crynoddisgiau dal yn apelio i Gruff...
"Dwi'n ddigon ffodus fod Mam a Dad wedi cadw'r chwaraewr CD. Mae gan Dad ddwy silff fawr o CDs, a bob hyn a hyn dwi'n mynd draw ac yn cymryd un neu ddau a'u cuddio nhw yn fy mhentwr fy hun! Mae gen i restr hir o CDs dwi wedi bod yn eu casglu ers rhyw flwyddyn rŵan.
"Ond dwi'n ddigon lwcus efo Spotify ac Apple Music a phethau felly; 'da ni'n gallu gwrando arnyn nhw unrhyw bryd, unrhyw fan. Dwi wastad efo clustffonau 'mlaen – wastad efo cân yn fy mhen ac yn fy nghlustiau."
Dysgu ac addysgu
Mae Gruff yn cyfaddef ei hun fod Tiwns Cymru wedi 'cymryd drosodd ei fywyd', ac er ei fod wedi bod yn ffan o gerddoriaeth Gymraeg erioed, mae bendant wedi dysgu llawer wrth dwrio i chwilio am y gân nesa'.
"Un o'n hoff rannau i ydy sbio drwy'r hanes i ffeindio ffeithiau bach do'n i ddim yn eu gwybod, a'u rhannu efo'r gynulleidfa. Do'n i'm yn gwybod fod Cleif Harpwood yn Edward H. Dafis – oh my gosh! A do'n i ddim yn gwybod fod Ifan Davies yn chwarae i'r Eira.
"Fy mhrif nod i ydy addysgu am y sîn gerddoriaeth Gymraeg, felly dwi hefyd yn sôn am y gigs dwi'n mynd iddyn nhw. Dwi wastad yn chwilio am fwy o gigs. Y broblem ydy, dwi'n 17 felly alla i ddim jyst mynd i Glwb Ifor... mae Cordia yno yn fuan a 'swn i'n caru mynd. Mater o aros ychydig o fisoedd, a wedyn ga' i!"

Gruff yn gwylio Lafant mewn gig diweddar. Ei hoff gân ar hyn o bryd, meddai, ydy Hyfryd gan Lafant
Felly, ynghyd â Cordia, pwy arall sy'n rhyddhau cerddoriaeth newydd ar hyn o bryd mae Gruff yn ffan ohonyn nhw?
"Mae Lafant yn wych. Nes i wylio nhw'n Steddfod, ac o'dda nhw yn y tri ucha' o'r perfformiadau 'nes i eu gweld. Elis Derby - dwi'n ei garu o ar y funud - a Martha Elen dwi hefyd yn licio.
"Ac wrth gwrs Gwilym, Fleur de Lys, Bwncath, Ciwb... Dwi'n rili'n caru be' mae Ciwb yn neud, yn rhoi ail-fywyd i hen ganeuon. Rhai o'r caneuon 'swn i byth wedi gwrando arnyn nhw cyn iddyn nhw eu cyflwyno nhw. Dwi'n meddwl bod be' maen nhw'n ei 'neud yn sbesial iawn."
'Wastad am garu cerddoriaeth Gymraeg'
Bellach mae gan Tiwns Cymru dros 1,000 o ddilynwyr ar Instagram, a rhyw 800 ar TikTok, gyda Gruff wedi synnu fod y prosiect wedi mynd mor fawr, mor gyflym. Ond wrth gwrs, mae wrth ei fodd fod ganddo gynulleidfa i rannu ei gariad tuag at gerddoriaeth Gymraeg gyda nhw.
"Pan o'n i'n mynd rownd Maes y Steddfod yn trio recordio, 'nes i glywed rhywun yn gweiddi 'Tiwns Cymru, dwi'n caru fideos chdi!"! Mae'n rili neis ac yn swreal i gael y gefnogaeth 'na, ac mae o'n dangos i mi mod i'n gwneud y peth iawn.
"Dwi'n cael pobl yn deud wrtha i, wyt ti am redeg allan? Na byth. Mae cerddoriaeth Gymraeg wastad yn dod allan – rili, mae o pa mor hir alla i gadw fo i fynd.
"Fydda i wastad yn caru cerddoriaeth Gymraeg – 'swn i methu dychmygu peidio – ac mi fydda i wastad eisiau ei rannu efo pobl!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd10 Hydref

- Cyhoeddwyd12 Awst
