Chwaer fach yn cwblhau Her y Tri Chopa i roi gobaith i'w brawd mawr

Rhiannedd ar Yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd
Wythnos ar ôl dringo Yr Wyddfa, Cader Idris a Phen y Fan mewn 24 awr er mwyn codi arian at adferiad ei brawd, mae Rhiannedd Davies yn pendroni "pa fynydd i ddringo nesaf i Ows".
Fe gyflawnodd Rhiannedd her Tri Chopa Cymru yn ystod penwythnos olaf Medi yng nghwmni ei thad a'i ffrind Matilda, a gyda sêl bendith ei brawd mawr Owain, sy'n derbyn gofal yng Nghanolfan Adferiad Niwrolegol Caer ar hyn o bryd.
Ym mis Mai 2025 bu Owain mewn gwrthdrawiad difrifol a achosodd anaf i'w ymennydd sydd wedi newid ei fywyd.
Dros flwyddyn yn ddiweddarach, mae Owain yn parhau i wella, ac mae ei deulu yn llawn edmygedd ohono.

Roedd Owain yn fynyddwr brwd cyn y gwrthdrawiad
"Mae Ows yn 'neud yn ofnadwy o dda, mae o'n codi gwên bob diwrnod pryd 'dan ni'n siarad efo fo, ac mae o jest yn hapus," eglurodd Rhiannedd.
Ychwanegodd: "Cyn y ddamwain roedd Owain yn licio dringo ac yn mynd bob penwythnos, felly dwi wedi gwneud hyn achos oedd Owain yn hoffi cerdded; ro'n i'n gwybod y basa fo'n prowd ohona i, a dwi isio rhoi'r gobaith i Owain y bydd o'n mynd yn ôl i'r mynyddoedd hefyd."
Adferiad Owain
Mae Owain, Rhiannedd a'i theulu wedi wynebu 18 mis caled iawn.
Yn dilyn y gwrthdrawiad, fe gafodd Owain, a oedd yn 23 mlwydd oed ar y pryd, ei hedfan i ysbyty Stoke a'i roi mewn coma am dros dri mis er mwyn ei sefydlogi, cyn derbyn sawl llawdriniaeth.
Erbyn hyn mae Owain "yn gwneud yn dda iawn" fel dywed ei fam, Beverley.
"Ar y funud mae Owain yn nonverbal ond mae o'n dalld pan 'dan ni'n siarad - mae o'n gwenu, codi ei fawd, neu yn 'sgwennu ar y word to speech machine sydd ganddo fo ar ei iPad i ni glywed be' mae o isio deud."

Owain, Rhiannedd a'u mam Beverley
Ac yntau hefyd yn addasu i ddefnyddio yr ochr ddi-anaf o'i ymennydd, dyw Owain heb ddechrau cerdded eto, ond mae'r enillion bychain bob dydd yn rhoi nerth a gobaith iddo yntau a'i deulu.
"Mae Owain yn meddwl fod o dal ddim yn 'neud yn dda ac yn gwylltio efo fo ei hun ac yn gofyn 'Pam dwi'm yn gallu 'neud hyn? Pam dydi fy llaw i ddim yn symud?'
"Ond fel rydan ni'n ei atgoffa fo, roedd Owain yn cwffio am ei fywyd am yr wyth mis cyntaf ar ôl y ddamwain.
"Dwi'n deutha fo ei fod o wedi 'neud yn amazing i gyrraedd lle mae o rŵan. I allu cyfathrebu efo fo, ei weld o'n gwenu a fo yn 'nabod ni - mae o'n amazing," eglurodd Beverley.
Ac mae Beverley yn llawn balchder o'i merch Rhiannedd hefyd yn ei hymdrech fawr i gefnogi Owain.
"Pan 'nath Owain glywed fod hi wedi gweud Tri Chopa Chymru roedd o'n wên o glust i glust, yn codi ei fawd ac yn dweud fod o'n prowd ohoni."

Owain yn y mynyddoedd
'Bod yn gryf i Ows'
Rhiannedd sy'n sôn am sut mae hi wedi dygymod â thaith adferiad Owain, a chanfod cryfder hefyd:
"Oedd be' ddigwyddodd i Owain yn galad arna ni gyd ac oeddan ni byth yn meddwl y basa rhywbeth fel'ma yn digwydd, ddaru ein bywyda' ni newid dros nos.
"Ond wnes i benderfynu fasa Owain ddim isio fi grio, na bod yn drist am hyn. Fasa Owain isio fi neud petha', cael hwyl a bod yn hapus."
"Fe wnes i benderfynu os nad ydy Owain yn gallu gwneud be' mae o'n garu ar hyn o bryd yna mae'n rhaid i fi wneud hynny drosto fo."

Rhiannedd ac Owain yn mynydda
Sut brofiad oedd cyflawni her Tri Chopa Cymru?
"Roedd o'n anodd paratoi lot o flaen llaw efo'r holl waith ysgol, ond ar y diwrnod 'nathon ni gychwyn i fyny'r Wyddfa am bedwar y bore, cyrraedd y top erbyn saith.
"Oedd o'n biwtiffyl i wylio'r wawr. Aethon ni i Gader Idris wedyn. Oedd hwnna yn heriol iawn ac mi wnaeth Melangell, fy chwaer fawr ymuno â ni hefyd.
"Yna ymlaen i gopa Pen y Fan i orffen yr her. Roedd o'n anodd ond aethon ni drwyddo fo, ac ro'n i'n chwysu wrth fynd i fyny Cader Idris!"

A hithau'n cyfaddef nad yw'n gystal cerddwr â'i brawd, a benderfynodd unwaith i ddringo Yr Wyddfa bump o weithiau mewn diwrnod, mae hi wedi rhyfeddu Owain wrth gyflawni'r fath gamp.
Eglurodd Rhiannedd: "Dwi wedi gweld Owain ar Facetime ers gwneud yr her ac oedd o'n gwenu ac yn chwerthin achos doedd o ddim yn meddwl bo' fi am allu' neud ffasiwn beth.
"Neshi yrru toman o lunia neis iddo fo er mwyn ei brofi fo'n anghywir. Dydi o erioed wedi 'neud Pen y Fan, felly dwi wedi dweud wrth Ows, y tro nesa dwi'n 'neud Tri Chopa Cymru, ti'n ei wneud o hefo fi."

Rhiannedd ac Owain yn eu cartref ym Mlaenau Ffestiniog
Yr anrheg Nadolig orau bosib i Rhiannedd, ei chwaer Melangell, a'u mam Beverley fyddai cael Owain adref o'r ysbyty am ychydig ddyddiau dros y Nadolig.
Eglurodd Beverley: "Mae Rhiannedd wedi hel yr arian yma 'wan achos mae'n trio cael Owain yma dros y gwylia' Dolig am gwpwl o ddyddiau achos dydi o heb fod adra ers y ddamwain.
"Bydd yr arian i gyd yn mynd at be' fydd Ows angen adra'. Ein dewis ni ydy ei gael o adra 'Dolig, felly does yna ddim grantiau i'n helpu ni ar hyn o bryd.
"Mi rydan ni wedi prynu stair lift yn barod, ac mae'r gwasanaeth Occupational Therapy yn galw heibio wythnos nesa' i wneud asesiadau a'n cynghori ni ar y camau nesaf."
Ychwanegodd Rhiannedd: "Mi fasa ei gael o adra dros 'Dolig yn ei wneud o'n 'Ddolig sbeshal iawn; mae'r mynyddoedd a'r Moelwynion yn aros amdano fo."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
