Clip o'r archif: T. Llew Jones yn trafod ei waith fel nofelydd
Mae 11 Hydref yn ddiwrnod T Llew Jones yng Nghymru.
Dros ddegawdau mae miloedd o blant wedi ymgolli'n llwyr yn ei nofelau anturus.
Fe gyhoeddodd yr awdur a'r Prifardd o Bentre-cwrt, Ceredigion dros 50 o lyfrau gyda'r rhan fwyaf o'r rheiny ar gyfer plant a phobl ifanc.
Hyd heddiw mae cymeriadau fel Twm Sion Cati, Barti Ddu, ac Harri Morgan yn rhan o ddychymyg darllenwyr ifanc, diolch i greadigrwydd T. Llew Jones.
Athro oedd wrth ei waith pob dydd ond roedd hefyd yn chwaraewr gwyddbwyll arbennig.
Bu farw yn 93 oed yn 2009, ond mae ei nofelau yn parhau i fod yn boblogaidd.
I ddathlu Diwrnod T. Llew Jones, dyma glip o'r archif ohono yn cael ei holi ar raglen Heddiw nôl yn 1966 gan Mary Middleton am ysgrifennu nofelau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.