Dim ymchwiliad cyhoeddus i Barc Cenedlaethol Glyndŵr am y tro

moel famauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r parc cenedlaethol newydd wedi'i leoli yn ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ni fydd y llywodraeth yn bwrw ymlaen ag ymchwiliad cyhoeddus i Barc Cenedlaethol Glyndŵr am y tro.

Gall Llywodraeth Cymru gyflawni eu hamcanion amgylcheddol heb y gost o sefydlu'r parc, meddai'r gweinidog cabinet dros effeithiolrwydd llywodraeth a'r cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies.

Dywedodd felly ei fod yn "gwyro o blaid peidio â chynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus".

Bydd peidio â bwrw ymlaen ag ymchwiliad lleol cyhoeddus yn golygu nad yw parc cenedlaethol newydd yn cael ei sefydlu.

Mae'r llywodraeth nawr yn gwahodd sylwadau pellach dros y pedair wythnos nesaf, gan addo penderfyniad terfynol cyn y Nadolig.

Mae polisi dros barciau cenedlaethol yn gyfrifoldeb i'r gweinidog dros wydnwch gwledig, Llŷr Gruffydd, ond fe fyddai'r parc yn ei etholaeth ac anogodd ef bobl i wrthwynebu'r cynllun cyn i Blaid Cymru ddod i rym ym mis Mai.

Felly trosglwyddwyd y penderfyniad i'r gweinidog dros effeithiolrwydd llywodraeth a'r cyfansoddiad.

Dywedodd Dafydd Trystan Davies, gan gyfeirio at y pum awdurdod lleol yn ardal y Parc Cenedlaethol arfaethedig, "fy marn dros dro yw bod gwerth mewn parhau i gadw ffocws cryf ar alluogi'r dynodiadau a'r partneriaethau presennol hynny i gyflawni ar gyfer natur, hinsawdd, treftadaeth ddiwylliannol, hamdden a chymunedau lleol, tra'n parhau i fynd ar drywydd yr amcanion a nodwyd drwy broses ddynodi Glyndŵr drwy fecanweithiau eraill."

"Er enghraifft, rydym yn cymryd camau ymarferol i adfer natur ac adeiladu gwytnwch hinsawdd ar draws y gogledd-ddwyrain.

"Drwy raglen genedlaethol mawndir Llywodraeth Cymru, cyflawnwyd gwaith adfer sylweddol o fewn tirwedd genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, gan gynnwys safle rhostir Llandegla sydd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gan ddod â thua 120 hectar o fawndir i gyflwr mwy ffafriol ac adferol dros y pedair blynedd diwethaf."

Llyn EfyrnwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Llyn Efyrnwy ym Mhowys wedi dod o fewn ffiniau'r parc

Byddai'r parc cenedlaethol newydd wedi'i leoli yn ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ac wedi ei enwi ar ôl Owain Glyndŵr.

Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amcangyfrif costau sefydlu o tua £11.6 miliwn.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad ddydd Mawrth, dywedodd Adrian Mason AS ar ran Reform: "Rwy'n cymeradwyo eich cydnabyddiaeth bod gormod o gwestiynau heb eu hateb yn parhau i fodoli i gadarnhau'r gorchymyn dynodi neu i gynnal ymchwiliad cyhoeddus ar hyn o bryd".

Fe wnaeth y llywodraeth Lafur flaenorol gyhoeddi fis Mawrth y byddai'n cynnal ymchwiliad cyhoeddus ar ôl i gynghorau lleol godi pryderon am gyllid a rheolau cynllunio o fewn y parc.

Roedd creu parc – y pedwerydd yng Nghymru – yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur yn 2021.

Dywedodd Vikki Howells ar ran y blaid Lafur bod y penderfyniad yn "siomedig" a "gwan" sy'n dangos, meddai, "diffyg uchelgais gan y llywodraeth hon o Blaid Cymru ac, yn ail, rhaniad ar ochr y llywodraeth o ran materion amgylcheddol".

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, ei fod yn croesawu cyhoeddiad y gweinidog, er ei fod yn cefnogi'r egwyddor o gael parc cenedlaethol yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

"Doeddwn i ddim yn edmygydd o'r cynigion a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru... Rwyf bob amser wedi credu, pe bai modd sefydlu parc cenedlaethol, y dylid fod wedi'i sefydlu ar hyd ffiniau'r ardal bresennol o harddwch naturiol eithriadol ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy," meddai Millar.

Dywedodd y Campaign for National Parks bod Llywodraeth Cymru wedi "methu â dangos yr arweinyddiaeth sydd ei hangen i roi parciau cenedlaethol wrth wraidd natur, yr hinsawdd a'u hagenda gwydnwch gwledig".

Dafydd Trystan DaviesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Does dim amheuaeth bod y cynnig wedi ennyn teimladau cryf o blaid ac yn erbyn y dynodiad" meddai Dafydd Trystan Davies

Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal proses swyddogol rhwng 2022 a 2025 i ystyried a oedd yr ardal arfaethedig yn gymwys i fod yn barc cenedlaethol.

Ym mis Ionawr 2026, pleidleisiodd bwrdd y sefydliad i gefnogi'r cynigion a chyhoeddi gorchymyn i greu Parc Cenedlaethol Glyndŵr, ond roedd angen y llywodraeth i gadarnhau'r gorchymyn dynodi er mwyn iddo ddod i rym.

Cyflwynwyd gwrthwynebiadau gan bob un o'r pum awdurdod lleol yn ardal arfaethedig y parc cenedlaethol.

Moel FamauFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Parc Cenedlaethol Glyndŵr wedi cynnwys Bryniau Clwyd a chopaon fel Moel Famau, ger yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Mewn ymgysylltiad cyhoeddus cychwynnol yn 2023 roedd 51% o'r rhai gafodd eu holi o blaid parc newydd, gyda 42% yn ei erbyn.

Roedd y rhai a oedd yn gwrthwynebu parc newydd yn poeni am yr effeithiau ar y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal.

Roedd y pryderon yn cynnwys cynnydd posib yn nifer yr ymwelwyr, effaith ar brisiau tai a newidiadau posib i reolau cynllunio.

Ar yr ochr arall, dywedodd y rhai oedd o blaid cael parc newydd y gallai'r parc amddiffyn ardaloedd gwledig rhag cal eu gorddatblygu, a byddai'n rhoi cydnabyddiaeth i'r ardal.

Mae gan Gymru dri pharc cenedlaethol - Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.

Mae'r parciau hyn yn denu mwy na 12 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, sy'n gwario mwy na £1bn, yn ôl Parciau Cenedlaethol y DU.

Mae gan bob un ei awdurdod ei hun, gyda'r pŵer i wneud penderfyniadau cynllunio.

Leanne Robinson a Julie Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cymysg oedd yr ymateb i'r cyhoeddiad ymhlith rhai perchnogion busnes yn Llangollen

Aeth BBC Cymru i Langollen i gael blas o'r ymateb yn lleol, a theg dweud mai cymysg oedd y farn ar y cyfan.

Dywedodd Leanne Robinson, perchennog busnes yn y dref ei bod hi, o safbwynt ei chwmni, yn gweld y manteision posib y byddai creu parc yn eu cael.

"Os ydi hynny yn dod â mwy o dwristiaeth ac yn denu mwy o bobl, yna mae hynny yn naturiol am fod o fudd i fusnesau lleol," meddai.

"Fel gyda'r rhan fwyaf o bethau, mae 'na agweddau da a rhai drwg, ond yn siarad ar ran y busnes yn unig - dwi'n meddwl byddai'r dref yn elwa o'r cynllun."

Ond roedd Julie Davies, sydd hefyd yn berchen ar fusnes yn y dref, yn falch o weld y cyhoeddiad ddydd Mawrth.

"Rydyn ni'n ei chael hi'n anodd ymdopi gyda nifer y twristiaid yn y dref fel mae hi - toiledau, parcio, llety, cynllunio... mae'n ardal hyfryd ond 'dan ni methu ymdopi.

"'Dan ni'n colli cwsmeriaid gan eu bod nhw methu parcio yma, 'dan ni eisoes yn gadael i bobl ddefnyddio ein toiledau - o ble mae'r arian yn mynd i ddod?"

Ychwanegodd y cynghorydd lleol Trevor Bates ei fod yn deall y dadleuon ar y ddwy ochr.

"Mae 'na fanteision fel mwy o ymwelwyr yn yr ardal a'r effaith gallai hynny ei gael ar fusnesau... ond fel rhywun sydd yn byw yma ac wedi ei fagu yma, dwi'n deall y pryderon am draffig, ffyrdd a seilwaith cyffredinol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.