'Braint' i Marc Lloyd Williams chwarae eto i'w hen glwb - ac yntau'n 53 oed

- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-bêl-droediwr proffesiynol Marc Lloyd Williams wedi dweud ei bod yn "fraint" cael chwarae unwaith eto i'w hen glwb - ac yntau'n 53 oed a 10 mlynedd ers iddo gael strôc.
Ac wedi iddo gytuno i helpu clwb Llanberis dros y penwythnos, fe aeth gam ymhellach a sgorio gôl.
'Jiws', fel mae'n cael ei adnabod, yw'r prif sgoriwr yn holl hanes Uwch Gynghrair Cymru ac mae'n llais cyfarwydd fel sylwebydd ar BBC Radio Cymru.
Fe roddodd gorau i chwarae dros ddegawd yn ôl a CPD Llanberis, tîm y pentref ble cafodd ei fagu, oedd y clwb cyntaf a'r olaf iddo gynrychioli.
Ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf, dri mis wedi iddo redeg Marathon Llundain er mwyn codi arian i'r Gymdeithas Strôc, fe chwaraeodd iddyn nhw eto gan sgorio un o'r goliau mewn buddugoliaeth 8-0 dros Dref Amlwch yng Nghwpan Cymru.
'Anoddach troi a chyflymu'
Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd Marc, sydd wedi ennill y Gwpan yn ystod ei yrfa: "Roedd 'na bach o cobwebs wrth ailgychwyn ond wrth i bethau fynd ymlaen, ro'n i'n teimlo'n well.
"Y gwahaniaeth ydy'r symudiadau. Mae o'n iawn rhedeg yn syth wrth ymarfer am farathon ond pan ti isio troi a rhedeg yn gyflymach wedyn mae'n dechrau mynd yn anoddach
"O'n i'n diodde' ddoe ac ar ôl y gêm ond neshi fwynhau wrth gwrs ac roedd hi'n braf creu'r gôl gynta' a sgorio'r drydedd a'r peth pwysica' oedd bod y clwb wedi mynd drwodd i rownd nesaf Cwpan Cymru."

Marc (chwith) yn chwarae i Fangor yn 1998 - chwaraeodd hefyd i dimau fel Stockport, Southport, TNS, Halifax ac Aberystwyth
Yn ddiweddar fe aeth Marc i ymarfer gyda'r clwb pan roedd o'n aros gyda'i chwaer a'i fam yn y pentref. Cytunodd i arwyddo er mwyn bod ar gael i helpu allan os oedd y clwb yn brin o chwaraewyr.
Fe ddigwyddodd hynny dros y penwythnos ac mae'n dweud ei fod ar gael i chwarae eto yn y dyfodol os nad oes carfan lawn ganddyn nhw.
"Mae'n fis Awst a dwi'n siŵr bod 'na dipyn o'r chwaraewr ar eu gwyliau neu methu cael amser off gwaith," meddai.
"Hogia' ifanc sy'n dod drwodd tisho chwarae'n wythnosol ac mae'n fraint bod fi'n gallu chwarae i'r clwb unwaith eto a gobeithio defnyddio fy mhrofiad i'r bechgyn ifanc wrth iddyn nhw fynd drwy'r un system a neshi rhai blynyddoedd yn ôl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr

- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2024
