Cyfrif Reform lleol wedi beirniadu gweinidog am drafod trasiedi deuluol

Mae Siân Gwenllian yn AS Plaid Cymru yn etholaeth Gwynedd Maldwyn
- Cyhoeddwyd
Mae tudalen Facebook Reform ar gyfer etholaeth yn y Senedd wedi beirniadu gweinidog Plaid Cymru am drafod trasiedi deuluol mewn cyfweliad â newyddiadurwraig.
Ymbellhaodd dau AS Reform o'r etholaeth o'r sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, a gyhuddodd Siân Gwenllian o ddefnyddio ei phrofiad "er budd gwleidyddol".
Magodd y gweinidog cabinet dros lywodraeth leol, tai a chynllunio bedwar o blant fel rhiant sengl ar ôl i'w gŵr, Dafydd, farw o ganser yn 1999.
Mae Plaid Cymru wedi disgrifio'r sylw, sydd bellach wedi ei ddileu, fel un "ffiaidd" tra bod James Evans, AS o Reform, yn dweud ei fod yn "hollol annerbyniol".
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK: "Nid cyfrif swyddfa pencadlys Llundain na grŵp y Senedd yw hwn."
Yr AS Reform James Evans i adael Senedd Cymru yn 2030
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf
Plaid Cymru'n amddiffyn pleidleisio gyda Reform ar ôl beirniadu Llafur am wneud
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf
Dan Thomas: 'Byddwn i'n ystyried rhodd gan droseddwr pe bai angen diogelwch'
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
Fe wnaeth cydweithiwr Mr Evans, Iain McIntosh AS, hefyd ymbellhau ei hun o'r sylw a wnaed gan Reform UK Brycheiniog Tawe Nedd ar Facebook, a dywedodd ei fod wedi gofyn iddo gael ei ddileu.
Nid yw'n glir pwy sy'n rhedeg y cyfrif. Dywedodd Mr Evans nad oedd yn siŵr pwy oedd yn rhedeg y dudalen a'i fod yn ymchwilio i'r mater.
Mae Mr Evans a Mr McIntosh ill dau yn ASau Reform sy'n cynrychioli ardal Brycheiniog Tawe Nedd.

Mae'r neges ar Facebook wedi'i dileu erbyn hyn
Wrth drafod marwolaeth ei gŵr mewn erthygl ar gyfer Walesonline, dywedodd Siân Gwenllian: "Roedd yn gyfnod anodd iawn i mi ond dysgodd gymaint i mi amdanaf fy hun.
"Dysgodd i mi gael empathi, ac fe dyfodd hynny yn aruthrol yn ystod y cyfnod hwnnw.
"Gallaf deimlo empathi â llawer o bobl mewn sefyllfaoedd bregus ond dysgodd i mi hefyd, 'os gallaf wneud hynny, gallaf wneud unrhyw beth'."
Cyhoeddwyd yr erthygl ar gyfrif Facebook Walesonline, a oedd yn tynnu sylw at y drasiedi yn y pennawd.
Yn yr adran sylwadau o dan yr erthygl, dywedodd cyfrif cangen Reform: "Rydym i gyd wedi cael trasiedïau teuluol, ond nid ydym yn ei ddefnyddio fel cerdyn er budd gwleidyddol."
'Gwneud i eraill deimlo'n llai unig'
Fe wnaeth hynny ysgogi AS Plaid Cymru, Beca Brown, i ateb: "Am sylw ffiaidd.
"Mae gwleidyddion ym mhob plaid - gan gynnwys eich plaid eich hun - sydd â phrofiadau personol sy'n adlewyrchu profiadau eu hetholwyr.
"Mae rhannu'r profiadau hynny'n gyhoeddus yn gwneud i eraill sydd wedi dioddef yn yr un modd deimlo'n llai unig, a gall ddod â phobl ynghyd a thaflu goleuni ar ddioddefaint eraill."

Mae James Evans bellach yn AS Reform ar ôl cael ei ethol yn wreiddiol fel AS Ceidwadol
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru wrth BBC Cymru: "Rhaid i dudalen Reform UK Brycheiniog Tawe Nedd fyfyrio ar eu sylw ffiaidd - ac fel yr AS Reform lleol, dylai James Evans gondemnio datganiad mor ffiaidd."
Dywedodd Mr Evans wrth BBC Cymru: "Mae'r sylwadau hyn yn gwbl annerbyniol."
Ychwanegodd nad oedd ef na chadeirydd ei gangen wedi bod yn ymwybodol bod y sylw wedi'i gyhoeddi, a'i fod ef a'r gangen yn lleol yn "ymbellhau'n llwyr oddi arnynt".
"Mae gennym gadeirydd cangen newydd. Dydyn ni ddim yn gwbl ymwybodol pwy yw gweinyddwr y dudalen," meddai.
"Pe baem yn gwybod pwy oedd gweinyddwr y dudalen, byddai'r sylwadau hyn yn cael eu dileu, ac rydym yn ymchwilio i'r mater.
"Mae gwleidyddion yn gywir i dynnu sylw at brofiadau personol ac nid yw'n iawn bod y sylw hwn wedi'i wneud am gyd-aelod o'r Senedd."
Dywedodd Iain McIntosh, sydd hefyd yn AS Reform dros yr un etholaeth, wrth BBC Cymru ei fod hefyd yn ymbellhau oddi wrth y sylw.
"Rwyf wedi gofyn i'r gweinyddwyr dynnu'r neges," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.