Yr AS Reform James Evans i adael Senedd Cymru yn 2030

James Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae James Evans bellach yn AS Reform ar ôl cael ei ethol yn wreiddiol fel AS Ceidwadol

  • Cyhoeddwyd

Mae AS Reform Brycheiniog Tawe Nedd, James Evans, yn dweud na fydd yn ymgeisydd yn etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2030.

Dywedodd nad oedd yn bwriadu bod yn AS am fwy na dau dymor beth bynnag ond mae'r amodau presennol "lle mae ymosodiadau ar wleidyddion drwy'r amser" hefyd yn ffactor.

Cafodd ei ethol ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wedi iddo gipio sedd Brycheiniog a Maesyfed yn etholiad 2021 ond fe gollodd chwip y blaid ym mis Ionawr ar ôl dweud ei fod yn ystyried ymuno â Reform.

Ymunodd â'r blaid honno yn fuan wedi hynny gan ennill sedd gyntaf etholaeth newydd Brycheiniog Tawe Nedd yn etholiad mis Mai.

Daeth ei gyhoeddiad wrth gael ei holi ar raglen Radio Wales Breakfast o faes y Sioe Fawr, sy'n cael ei noddi eleni gan Sir Frycheiniog - yr ardal ble y cafodd ei fagu ar fferm deuluol.

"Mae yna lawer o bethau i mi gyflawni, llawer o bethau rwy' eisiau eu gwneud...," dywedodd.

"Bydd yn gyfnod hir o ffarwelio ond byddai'n cynrychioli fy etholaeth hyd at fy nyddiau olaf yn y Senedd."

Mewn ymateb i gwestiwn pam ei fod yn cefnu ar wleidyddiaeth ag yntau'n ddyn ifanc, atebodd: "Rwy'n credu'n gryf y gall rhai pobl aros mewn gwleidyddiaeth am rhy hir.

"Roedd wastad yn fwriad gen i i sefyll am ddau dymor yn unig.

"Mae gen i wraig. Hoffwn i ddechrau teulu, a gyda'r amgylchedd wleidyddol ar y funud, dydw i ddim eisiau magu plant, fel cynrychiolydd gwleidyddol, lle mae ymosodiadau ar wleidyddion o hyd.

"Rydym yn cael ein gweld fel rhywbeth cyhoeddus y gellir ymosod arno - yn amlwg mae hynny'n estyn i ein bywyd teuluol a dydw i ddim eisiau magu plant yn yr amgylchedd yna."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig