Pryder y bydd mwy o lifogydd os yw ffrwydradau chwarel yn parhau

Cafodd tua 15 o gartrefi eu heffeithio gan y llifogydd ar 30 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n byw mewn cartrefi a wynebodd lifogydd yn dilyn ffrwydrad mewn chwarel yn "bryderus" y gallai ddigwydd eto'n fuan.
Cafodd 15 eiddo ar Heol Berry yng Ngwaelod-y-garth eu heffeithio a bu rhaid i nifer adael eu cartrefi yn dilyn y digwyddiad yn ôl ym mis Gorffennaf.
Fe wnaeth y ffrwydrad, oedd wedi'i gynllunio ymlaen llaw, arwain at gerrig yn disgyn a dŵr yn llifo i lawr ochr y mynydd.
Aeth dŵr i mewn i gartref Kevin Duncan sydd bellach yn rhan o'r grŵp Stronger Together Lesser Garth.
"Allwch chi ddychmygu faint o bryder mae hyn wedi ei achosi? Mae pawb yn orbryderus," meddai.
Pan ofynnodd BBC Cymru i Breedon Group - sy'n berchen ar Chwarel Ffynnon Taf - a oedd ffrwydradau yn ailddechrau fis yma, dywedon nhw eu bod wedi cyfarfod â thrigolion a rhanddeiliaid eraill ac y byddan nhw'n "parhau i gydweithio'n uniongyrchol â'r rhanddeiliaid hynny wrth i ni fwrw ymlaen â'r camau nesaf".

Yn ôl Mr Duncan fe ddywedodd y cwmni wrtho y byddai unhryw ffrwyrdradau yn y dyfodol yn digwydd mewn rhan is sydd beth pellter i ffwrdd o'r chwarel.
Daeth ymchwiliad cychwynnol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) i'r casgliad bod y llifogydd ym mis Gorffennaf yn "ddigwyddiad unigol" ac nad oedd twneli na mannau tanddaearol wedi'u "peryglu".
Ond fe gafodd rhai cartrefi droedfeddi o ddŵr a ddinistriodd lawer o'u heiddo.
Mae nifer o'r bobl sydd wedi cael eu heffeithio wedi cael eu symud i lety dros dro.
Dywedodd Kevin Duncan - sy'n disgwyl bod allan o'i gartref am hyd at flwyddyn tra bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud - fod y rhai a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd yn bryderus iawn.
Dyw Mr Duncan methu credu eu bod nhw'n ystyried ailddechrau'r ffrwydradau.
"Dim ond un darn sydd ei angen i ddechrau dymchwel," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn deall bod angen i'r busnes barhau i weithredu, ond ei fod yn gofyn am oedi yn y gwaith ffrwydro.
"Dydyn ni ddim yn gofyn iddyn nhw beidio â chymryd creigiau o'r mynydd. Rydyn ni'n deall bod angen creigiau arnyn nhw.
"Be' ni'n dweud yw: oedwch y gwaith ffrwydro.
"Gadewch i berson annibynnol y mae'r gymuned yn ymddiried ynddo fynd i mewn ac egluro wrthym beth sy'n digwydd."
Gwagio cartrefi oherwydd llifogydd ar ôl 'digwyddiad' mewn chwarel
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
Mae'r cynghorydd Andrea Gibson, sy'n cynrychioli'r ardal, am i'r cwmni gael ei orfodi i oedi unrhyw waith ffrwydro ac i geisio ailadeiladu ymddiriedaeth gyda'r gymuned.
"Mae llawer o bobl wedi'u hysgwyd yn llwyr ac yn fregus yn feddyliol oherwydd hyn," meddai.
Fe gafodd llawer o bobl eu heffeithio "gan gynnwys plant", meddai.
Ychwanegodd: "Rydw i wedi gofyn i'r cyngor roi ataliad dros dro ar y gwaith ffrwydro tan fod holl ganfyddiadau adroddiad yr HSE ar gael ac wedi'u cyhoeddi."
Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn "parhau i gefnogi adferiad Gwaelod-y-garth" yn dilyn y llifogydd drwy gynorthwyo trigolion ynghyd â gwaith glanhau, diogelwch ac amgylcheddol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.