Chwe chwaraewr sydd eto i ennill cap yng ngharfan Cymru at gemau'r haf

Steve Tandy ydy prif hyfforddwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi cyhoeddi carfan estynedig sy'n cynnwys 48 chwaraewr ar gyfer gemau rhyngwladol yr haf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.
Ni fydd y chwaraewyr sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gymru ar gael ar gyfer y gêm gynhesu gyntaf yn erbyn y Barbarians.
Bydd y Cymry'n wynebu'r Barbariaid yn Twickenham ar 27 Mehefin, cyn chwarae ym Mhencampwyr y Cenhedloedd yn erbyn Ffiji, yr Ariannin a phencampwyr y byd De Affrica.
Fe fydd y gemau yma yn cael eu chwarae ar ddyddiau Sadwrn - 4, 11 ac 18 Gorffennaf.
Mae'r rhestr yn cynnwys chwe chwaraewyr sydd eto i ennill cap - Rhys Barratt, Kane James, Harrison Keddie, Ben Warren, Ryan Woodman a Bryn Bradley.

Mae Rhys Barratt ymysg y rhai allai ennill eu capiau cyntaf
Y garfan yn llawn
Blaenwyr:
Rhys Barratt (Caerdydd), Rhys Carre (Saracens), Nicky Smith (Leicester), Gareth Thomas (Gweilch), Liam Belcher (Cardiff), Ryan Elias (Scarlets), Dewi Lake (Gweilch) Evan Lloyd (Caerdydd), Keiron Assiratti (Caerdydd), Dillon Lewis (Dreigiau), Sam Wainwright (Caerdydd), Ben Warren (Gweilch), Adam Beard (Montpellier), Ben Carter (Dreigiau), Dafydd Jenkins (Exeter), Freddie Thomas (Gloucester), Teddy Williams (Caerdydd), James Botham (Caerdydd), Olly Cracknell (Leicester), Kane James (Exeter), Harrison Keddie (Dreigiau), Alex Mann (Caerdydd), Jac Morgan (Gweilch), Taine Plumtree (Scarlets), Tommy Reffell (Leicester), Aaron Wainwright (Dreigiau), Ryan Woodman (Dreigiau).
Olwyr:
Ellis Bevan (Caerdydd), Kieran Hardy (Gweilch), Reuben Morgan-Williams (Gweilch), Tomos Williams (Gloucester), Sam Costelow (Scarlets), Dan Edwards (Gweilch), Jarrod Evans (Harlequins), Bryn Bradley (Harlequins), Joe Hawkins (Scarlets), Louie Hennessey (Bath), Eddie James (Scarlets), Max Llewellyn (Gloucester), Joe Roberts (Scarlets) Ben Thomas (Caerdydd), Josh Adams (Caerdydd), Mason Grady (Caerdydd), Gabriel Hamer-Webb (Leicester), Ellis Mee (Scarlets), Blair Murray (Scarlets), Louis Rees-Zammit (Bristol), Tom Rogers (Scarlets).
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.