Teyrnged i ddyn, 25, fu farw yn ardal y Sioe Fawr

- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi rhoi teyrnged i ddyn 25 oed a fu farw yn ardal y Sioe Fawr yn Llanelwedd nos Sadwrn.
Roedd Dewi Aeron Evans o Lanfihangel Glyn Myfyr ger Corwen.
Wrth roi teyrnged, dywedodd ei deulu ei fod yn "fab, brawd ac ŵyr annwyl a hoffus" a bod ei farwolaeth yn "golled enfawr i'r teulu a'r gymuned yn Uwchaled".
"Byddai'r teulu a'r gymuned yn gwerthfawrogi preifatrwydd ar yr amser anodd yma."
Dros y penwythnos, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod dyn wedi marw ar Fferm Penmaenau yn Llanelwedd "er gwaethaf ymdrechion parafeddygon".
Cafodd tri dyn eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chyffuriau.
Ychwanegodd yr heddlu bod ymholiadau ynghylch y digwyddiad yn parhau.
Mae "pawb yn teimlo'r golled" yn yr ardal, meddai Gwennol Ellis
Dywedodd y Cynghorydd Gwennol Ellis o ward Uwchaled fod 'na "dristwch mawr yn yr ardal ar ôl clywed am y golled erchyll, a ma' pawb yn Uwchaled yn teimlo'r golled yma ac yn cydymdeimlo'n fawr iawn 'efo'r teulu."
"Mewn ardal wledig, amaethyddol fel hyn, ma' pawb yn nabod ei gilydd a ma'r teulu yn amaethwyr."
Ychwanegodd bod aelodau'r teulu yn "adnabyddus iawn yn yr ardal yma".
"Pan ma' rhywbeth fel hyn yn digwydd mewn ardal wledig, glos fel hyn, ma' pawb yn teimlo'r golled ac yn cydymdeimlo'n fawr 'efo'r teulu.
"Dwi'n gobeithio bydd y don o gariad sy'n cael ei anfon at y teulu yn fodd o'u cynnal nhw trwy'r brofedigaeth erchyll yma."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
