Dyn, 25, wedi marw a thri wedi eu harestio yn dilyn digwyddiad yn ardal y Sioe Fawr

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn "argyfwng meddygol" ar faes gwersylla Fferm Penmaenau, Llanelwedd nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 25 oed wedi marw a thri dyn wedi cael eu harestio yn dilyn "adroddiad o argyfwng meddygol" mewn safle gwersylla yn ardal y Sioe Frenhinol.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Fferm Penmaenau yn Llanelwedd tua 22:30 nos Sadwrn.
Dywed y llu bod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle "er gwaethaf ymdrechion gorau parageddygon".
Mae tri dyn yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â chyffuriau.
Ychwanegodd yr heddlu bod swyddogion yn dal yn y safle tra bod ymholiadau'n parhau.
'Marwolaeth heb esboniad ar hyn o bryd'
Mae teulu'r dyn a fu farw wedi cael gwybod, ac yn cael cefnogaeth swyddogion arbenigol.
"Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac mae ein meddyliau gyda theulu'r dyn ifanc ar yr adeg anodd yma," dywedodd yr Uwcharolygydd Steve Davies.
"Hoffwn roi sicrwydd i'r cyhoedd bod hwn yn ddigwyddiad unigol, ac mae'r farwolaeth yn cael ei thrin ar hyn o bryd fel un heb esboniad.
"Does dim tystiolaeth bod unrhyw risg yn parhau i'r cyhoedd yn ehangach mewn cysylltiad â'r digwyddiad trist yma."

Mae rheolwyr y gwersyllfa wedi estyn cydymdeimlad gydag anwyliaid y dyn a fu farw, ac yn cydweithio gydag ymchwiliad yr heddlu
Mewn datganiad dywedodd rheolwyr cwmni Penmaenau Farm Camping: "Gyda thristwch yr ydym yn cadarnhau bod unigolyn yn anffodus wedi marw ddoe yn dilyn argyfwng feddygol ar y safle.
"Dymuna'r teulu Penmaenau estyn ein cydymdeimladau dwys i deulu'r unigolyn, ffrindiau ac anwyliaid ar yr adeg hynod anodd yma.
"Hoffwn roi sicrwydd i'r holl wersyllwyr ac ymwelwyr mai argyfwng feddygol oedd hon. Doedd wnelo ymosodiad na digwyddiad treisgar ddim â'r digwyddiad trasig yma."
Mae'r cwmni'n gweithio gyda'r heddlu mewn cysylltiad â'r achos, fel y mae trefnwyr y Sioe Fawr, sydd hefyd wedi cydymdeimlo ag anwyliaid y dyn a fu farw ac "yn tristáu'n ddwfn yn sgil y newyddion trasig yma".
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru bod diogelwch a lles pawb sy'n dod i'r sioe yn flaenoriaeth.
Mae'r Gymdeithas ymhlith aelodau Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt "sydd â mesurau helaeth mewn lle, gan gynnwys gwasanaethau lles a chefnogaeth, darpariaeth feddygol a chamau diogelwch".
Ychwanegodd eu bod "eisiau i bawb sy'n dod deimlo bod yna gefnogaeth ac i gael amser diogel a dymunol".

Mae'r Gweinidog Gwytnwch Gwledig, Llyr Gruffydd wedi estyn ei gydymdeimladau wedi'r farwolaeth wrth annerch cynhadledd newyddion ar faes y Sioe
Mewn cynhadledd newyddion ar faes y Sioe Frenhinol brynhawn Sul dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd: "Hoffwn estyn cydymdeimlad i deulu a ffrindiau y gŵr sydd wedi marw neithiwr.
"Mae'n bwysig cofio fod ymholiadau yr heddlu yn parhau [a] rhoi amser i'r heddlu wneud eu gwaith a pheidio dyfalu beth sydd wedi digwydd.
"Fel rhiant i blant sydd yn aros mewn gwahanol feysydd yn y sioe yr wythnos yma mae yn ein atgoffa am y dyletswydd sydd arnom i ofalu ar ôl ein gilydd ac i feddwl am ein gilydd."
'Peidiwch byth â bod yn rhy ofn i ofyn am help'
Dywed Cyngor Sir Powys mewn datganiad eu bod "yn cefnogi'r heddlu a phartneriaid eraill" wrth i ymholiadau barhau, ac yn blaenoriaethu "lles trigolion, ymwelwyr a phawb yn yr ardal yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol.
"Mae hwn yn ddigwyddiad eithriadol o drist, ac mae ein meddyliau gyda theulu'r dyn ifanc yma, ffrindiau a phawb sydd wedi eu heffeithio," meddai'r Cynghorydd Richard Church, yr aelod o gabinet y cyngor sy'n arwain ar faterion diogelwch ac yn aelod o'r bartneriaeth Powys Fwy Diogel.
"Rydym eisiau i bawb sy'n ymweld â'r ardal i fwynhau eu hunain, ond os gwelwch yn dda gwnewch hynny'n ddiogel, gofalwch am eich hunain a pheidiwch byth â bod yn rhy ofn i ofyn am help os oes ei angen."
Gan fynegi tristwch ynghylch y farwolaeth a chydymdeimlad i'w deulu, mae AS Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, y Democrat Rhyddfrydol David Chadwick wedi estyn "diolch i'r gwasanaethau brys a phawb a roddodd gymorth i'r ymateb".
Mae hefyd yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i helpu'r heddlu gyda'u hymchwiliad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.