Nifer o gartrefi wedi'u dinistrio'n llwyr yn dilyn tân yn y de

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i dân mewn byngalo yng Nghefn-y-pant, Trecelyn am 16:00 ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o gartrefi wedi'u dinistrio'n llwyr yn dilyn tân yn Sir Caerffili.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i dân mewn byngalo teras yng Nghefn-y-pant, Trecelyn am 16:00 ddydd Mercher.
Mae pum byngalo wedi'u heffeithio gan y tân, medden nhw, gyda delweddau yn dangos o leiaf pedwar adeilad wedi'u dinistrio'n llwyr.
Mae cyngor i drigolion lleol i gau eu drysau a ffenestri oherwydd y mwg, gyda'r gwasanaeth tân hefyd yn annog pobl i osgoi teithio i'r ardal.

Does neb wedi cael eu hanafu er i'r gwasanaeth ambiwlans yrru ddau ambiwlans i'r lleoliad.
Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod yn ymchwilio i achos y tân.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.