Dirwy o £500k i gwmni cebab am werthu cig oen oedd yn bennaf yn groen a braster

Llun o 2 o gyfarwyddwyr cwmni Kismet Kebabs ltdFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Panayiotis Vasilis Michael, chwith, a Djemal Enver, ar y dde - cyfarwyddwyr Kismet Kebabs Ltd

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni sy'n gwneud cebab ar gyfer siopau têc awê a bwytai wedi cael dirwy o £500,000 am werthu 'cig oen' oedd 'yn bennaf yn groen ac yn fraster'.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod cynhyrchion cig oen Kismet Kebabs Ltd, sydd wedi'i leoli yn Essex, yn cynnwys ychydig iawn o gig oen go iawn, ond yn hytrach yn gymysgedd o fraster, croen, cig amrywiol a chynnyrch cig gafodd ei adfer yn fecanyddol.

Gorchmynnwyd hefyd i Kismet dalu £259,298 mewn costau, gyda'r barnwr yn dweud bod y cwmni wedi ymddwyn "yn anonest iawn" dros gyfnod hir o amser.

Dywedodd Lee Reynolds, a oedd yn erlyn ar ran Cyngor Abertawe, wrth y llys fod y cwmni wedi "camarwain cyfanwerthwyr, manwerthwyr a chwsmeriaid."

Llun o'r cynnyrch anifail oedd yn cael ei ddefnyddio fel 'cig' gan y cwmniFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys mai ychydig iawn o gig oen go iawn oedd yn cael ei gynnwys, ond yn hytrach yn gymysgedd o fraster, croen, cig amrywiol a chynnyrch cig gafodd ei adfer yn fecanyddol.

Dywedodd Reynolds fod Kismet wedi cynhyrchu a chyflenwi cebabs i siopau têc awê a bwytai gyda labelau oedd yn nodi maint penodol o gig penodol, er bod y cwmni'n gwybod bod yr wybodaeth yna'n anghywir, gan gamarwain a thwyllo cwsmeriaid.

"Roedd llawer o'r hyn a ddisgrifiwyd fel cig oen mewn gwirionedd yn groen ac yn fraster," meddai.

"Roedd y cwmni yn rheolaidd, ac yn fwriadol, yn prynu gafr, braster oen, croen, cig dafad a chig defaid, ac ar ôl ei brosesu yn eu ffatri, yn ei werthu fel cig oen.

"Yn ogystal, gwerthwyd cynnyrch eraill fel cynhyrchion o gig penodol pan oedd yr eitem yn cynnwys cig o rywogaeth wahanol," ychwanegodd.

Clywodd y llys fod tîm safonau masnach Cyngor Abertawe, diwedd 2020 ac yn gynnar yn 2021, wedi cymryd rhan mewn ymarfer samplu rhanbarthol i wirio'r rhywogaethau cig a'r disgrifiadau a roddwyd ar gig cebab mewn siopau cebab a bwytai lleol.

Llun o gig doner wedi ei baratoi ac wedi ei bacio mewn plastig. Ffynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr fod y cwmni wedi bod yn anonest dros gyfnod hir.

Cafodd nifer o samplau eu cymryd ar draws y ddinas a'r sir, gyda'r canlyniadau'n dangos nad oedd cebabs gan Kismet yn cyfateb i'r cynnwys cig oedd yn cael ei ddatgan ar label y cynnyrch.

Yn ôl canlyniadau profion labordy ar samplau pellach gan gyfanwerthwyr, roedd cynnwys y cig yn "gwahaniaethu'n sylweddol" o'r hyn a nodwyd ar y labelau.

Yna gwnaeth y cyngor ymholiadau gyda'r Uned Droseddau Bwyd Genedlaethol a'r Asiantaeth Safonau Bwyd.

Dywedodd Reynolds fod wedi dod i'r amlwg fod cyngor Essex wedi cael "hanes hir" o ymwneud â Kismet drwy'r hyn a elwir yn Bartneriaeth Awdurdod Cynradd.

Wrth ymdrin â'r cwmni, roedd yr awdurdod lleol wedi bod yn derbyn cwynion gan gynghorau ledled Lloegr am faterion yn ymwneud â labelu a chynnwys cig.

Mewn un enghraifft, roedd cig doner oen a honnodd gynnwys 87% o gig oen, dim ond yn cynnwys 51% o gig a 40% yn fraster.

Clywodd y llys fod y cyngor wedi dod â'u cytundeb â Kismet i ben oherwydd "diffyg gweithredu" a "materion labelu difrifol a materion yn ymwneud â iechyd y cyhoedd" ar ôl archwilio'r ffatri.

Dywedodd Reynolds fod tîm dan arweiniad safonau masnach Cyngor Abertawe wedi ymweld â ffatri Kismet yn Chelmsford ar 20 Mai 2021 gan godi "llawer o bryderon" ynghylch cynhyrchu, pecynnu a labelu'r bwyd.

Label ar fraster wedi ei rewi yn y ffatriFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod y cwmni wedi prynu llawer o fraster anifail

Dywedodd Reynolds fod anfonebau'n dangos mai ychydig iawn o gig oen oedd yn cael ei brynu gan y cwmni, ac yn hytrach ei fod yn prynu "cyfaint mawr o groen, braster, gafr" yn ogystal â "chynnyrch 'cig' o radd is nad yw'n gallu cael ei alw'n gig yn ôl y diffiniad cyfreithiol".

Roedd y cwmni hefyd yn cynhyrchu cig oedd yn cael ei wneud yn fecanyddol, a oedd yn cynnwys yn bennaf "trim gwddf, trim cig dafad, dŵr a rhew", ac roedd hyn wedyn yn cael ei gyfri a'i ddatgan fel cynnwys cig go iawn ar eu cynnyrch.

Dywedodd fod y cwmni wedi cymryd rhan mewn "cynllwyn oedd wedi ei drefnu yn anghyfreithlon" ac wedi "camarwain cyfanwerthwyr, manwerthwyr a chwsmeriaid".

Ychwanegodd Reynolds fod y canllawiau dedfrydu ar gyfer troseddau yn ymwneud â chwmni o faint Kismet yn darparu ystod o ddirwyon rhwng £15m a £24m, yr hyn a alwodd yn "gwbl anymarferol".

Roedd Kismet Kebabs Ltd, o Chelmsford, eisoes wedi pledio'n euog i un cyhuddiad o dwyll drwy gamliwio pan ddychwelodd yr achos i'r llys ar gyfer dedfrydu.

Dywedodd Stuart Jessop, ar ran y cwmni, fod Kismet wedi'i sefydlu yn 2008 ac wedi cael ei redeg yn llwyddiannus am flynyddoedd lawer heb broblem, gan ddarparu cynnyrch da i gwsmeriaid ledled y wlad.

Llun o gig amrwd yn cael ei baratoi a'i storio mewn containers o ddur a'r offer yn y ffatri Ffynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Mi wnaeth cyngor Abertawe ymweld â ffatri cwmni Kismet yn Chelmsford yn 2021.

Dywedodd ei fod wedi cydnabod, ar adeg y troseddau, fod y cwmni wedi "colli ffocws", ond ers hynny, roedd newidiadau sylweddol wedi'u gwneud.

Ychwanegodd fod y cwmni wedi gwneud "ychydig iawn o elw ariannol" ac na fyddai'n "fudd i neb" i osod dirwy a fyddai'n arwain at y cwmni yn mynd allan o fusnes.

Dywedodd y Barnwr Huw Rees fod y gweithgarwch twyllodrus wedi bod yn "endemic" yn y cwmni ar adeg y troseddau a'u bod wedi "camarwain yn anonest" dros gyfnod hir.

Mi wnaeth gydnabod y camau sylweddol a wnaeth y cwmni yn ystod y blynyddoedd ers y troseddu, ac meddai mai achos oedd hwn lle'r oedd yn anodd penderfynu faint o niwed a wnaed gan y cwmni.

Rhoddwyd pedair blynedd i'r cwmni i dalu'r dirwyon.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.