Athro wedi taro disgybl ac yfed alcohol ar daith tramor - gwrandawiad

Roedd Shôn Rowcliffe yn athro cyflenwi yn Ysgol Bro Preseli
- Cyhoeddwyd
Mae athro cyflenwi yn Ysgol Bro Preseli, Crymych wedi cael ei gyhuddo o daro disgybl tra ar daith ysgol yn Ffrainc.
Clywodd gwrandawiad disgyblu Cyngor y Gweithlu Addysg fod Shôn Rowcliffe wedi'i wahardd o weithio yn yr ysgol wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i'w ymddygiad yn ystod y daith yn 2024.
Roedd criw o chwaraewyr pêl-droed o flynyddoedd saith ac wyth, 12 a 13 oed, yn rhan o daith i Ffrainc i chwarae mewn cystadleuaeth gydag ysgol sydd wedi ei gefeillio â Bro Preseli.
Mae Mr Rowcliffe wedi'i gyhuddo o fod dan ddylanwad alcohol, taro disgybl ar draws ei frest, rhegi a chodi ei fys canol.
Mae Mr Rowcliffe hefyd yn cael ei gyhuddo o ofyn i'r disgybl gadw'r digwyddiad yn gyfrinach.
Mae Shôn Rowcliffe yn gwadu tri chyhuddiad yn ei erbyn
Gwadu taro disgybl ar ei frest
Roedd Mr Rowcliffe ar daith gydag aelod arall o staff, Martin Edwards.
Yn ystod y gwrandawiad ddydd Mawrth, clywodd y panel disgyblu nad oedd Mr Rowcliffe yn derbyn iddo fod o dan ddylanwad alcohol, nac yn derbyn iddo daro disgybl ar ei frest.
Mae hefyd yn gwadu iddo ofyn i'r disgybl gadw'r digwyddiad yn gyfrinach.
Ond dywedodd cynrychiolydd Mr Rowcliffe ei fod yn derbyn iddo regi, defnyddio iaith gref ac iddo godi ei fys canol.
Mynnodd Barry Gawthorpe, ar ran Mr Rowcliffe, nad yw'n derbyn bod ei weithredoedd o ganlyniad i or-yfed alcohol.
'Person cydwybodol a gweithgar'
Yn dilyn y daith yn 2024, fe wnaeth Martin Edwards - yr unig athro arall oedd ar y daith - ddatgan ei bryderon am ddigwyddiad ar nos Sadwrn 11 Mai.
Bu'n rhaid i Mr Rowcliffe adael yr ysgol wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.
Dywedodd pennaeth Ysgol Bro Preseli, Rhonwen Morris, fod cyfres o gyfarfodydd wedi eu cynnal a bod Mr Rowcliffe wedi mynychu pob un yr oedd disgwyl iddo eu mynychu.
Ychwanegodd Mrs Morris bod Mr Rowcliffe wedi ei gyflogi fel athro cyflenwi dyddiol gan yr ysgol yn sgil absenoldeb aelod o staff.
Dywedodd ei fod yn "helpu gyda'r adran addysg gorfforol" a'i fod yn hyfforddi timau pêl-droed a rygbi yr ysgol.
Cyn y digwyddiad dywedodd "nad oedd gen i unrhyw bryder ynglŷn â Shôn Rowcliffe".
Dywedodd ei fod yn "berson cydwybodol", yn "weithgar ac yn barod i droi ei law at unrhyw beth".
Ychwanegodd fod yr ysgol wedi rhoi hyfforddiant i'r athrawon cyn iddyn nhw arwain nifer o fechgyn i Ffrainc, a'i bod yn "hyderus fel ysgol fod pob dim wedi cael ei baratoi".
'Agitated achos bod y gêm yn hwyr'
Wrth roi tystiolaeth dywedodd Martin Edwards iddo gwrdd â Mr Rowcliffe am y tro cyntaf pan ymunodd â'r ysgol ym mis Ionawr 2024.
Dywedodd fod Mr Rowcliffe wedi rhoi "lot o amser i drefnu pob math o bêl-droed i bob math o blant" yr ysgol, a'i fod wedi edrych ymlaen at y daith.
Dywedodd ei fod o a Mr Rowcliffe wedi cael cyfarfod gyda Rhonwen Morris cyn y daith i drafod disgwyliadau.
Aeth yn ei flaen i sôn am noson y digwyddiad yn Ffrainc, gan ddweud bod Mr Rowcliffe yn "agitated achos bod y gêm awr yr hwyrach" na'r disgwyl, ac nad oedd yn hapus am hynny.
Wedi'r gêm aeth pawb yn ôl i'r llety, meddai, yna i'r neuadd i gael bwyd.
'Rhegi ac yn embarrassing'
Dywedodd fod Mr Rowcliffe "dal ddim yn hapus ac aeth i'r dafarn" gyda rhai o'r hyfforddwyr eraill.
Ychwanegodd fod rhai disgyblion wedi mynd lawr i'r dafarn i weld os oedd Mr Rowcliffe yno.
Dychwelodd y bechgyn gyda Mr Rowcliffe, a oedd "wedi meddwi", meddai Mr Edwards, "yn rhegi atof ac yn embarrassing i'r bobl".
Ychwanegodd na welodd Mr Rowcliffe yn yfed alcohol gan nad oedd yn y dafarn.
Dywedodd rhai o'r bechgyn wrtho fod Mr Rowcliffe "wedi taro disgybl ar y frest" a bod marc llaw amlwg yno.
Dywedodd iddo geisio siarad â Mr Rowcliffe wedi'r digwyddiad a'r bore canlynol, ond ei fod "naill ai ddim yn cofio beth ddigwyddodd, neu ddim eisiau trafod".
Fe ddywedodd wrtho y byddai'n rhaid iddo ddatgan y digwyddiad i'r pennaeth.
Mae Shôn Rowcliffe yn gwadu tri o'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r gwrandawiad yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.