
Roedd hi'n ddiweddglo torcalonnus i Gymru gyda dwy g么l gan Iran yn ystod y naw munud ychwanegol.
Roedd hi'n ddechrau ddigon bywiog i Gymru rhwng ambell gyfnod anniben yn Doha, ond o'r dechrau, roedd Iran yn edrych yn beryglus.
Roedd y ddau d卯m yn gwybod mai buddugoliaeth oedd yr unig opsiwn, a fe wnaethon nhw ddechrau gymaint yn fwy addawol nag yn eu gemau agoriadol ddydd Llun.
Ond dal eu gafael wnaeth Iran ac roedd yna siom wrth i'r golwr Wayne Hennessey gael ei hel o'r cae sy'n golygu na fydd ar gael ar gyfer g锚m olaf Cymru yn y gr诺p yn erbyn Lloegr nos Fawrth.
Rhwng yr ychydig o flerwch ar ddechrau'r g锚m, roedd effaith Kieffer Moore i'w weld yn syth wrth iddo benio p锚l hir i lawr i Harry Wilson i ganfod Neco Williams.
Roedd ergyd gan Williams o fewn dwy funud, ond roedd hi'n rhy uchel.
Fe ddechreuodd Iran ddangos eu hangerdd gyda sawl pas slic yn dechrau bygwth chwaraewyr Cymru.
Daeth sawl fflach o ymosod gan Azmoun ac roedd Cymru'n ffodus i glirio ac atal unrhyw gyfle.

Kieffer Moore yn anelu am gefn y rhwyd ond yn methu
Fe ddaeth symudiad ardderchog gan Kieffer Moore pan lwyddodd Cymru i gadw'r meddiant am y tro cyntaf. Daeth y b锚l i'r cwrt o'r dde gan Connor Roberts, ond fe aeth ergyd Moore yn syth at y golwr.
Yna, fe gafodd Iran gyfle am ergyd ac fe gyrhaeddodd y b锚l gefn y rhwyd. Ond, ocheniad o ryddhad i Gymru - roedd 'na gamsefyll.
Fe ddaeth ambell gyfle i rwydo trwy giciau rhydd i'r ddau d卯m, ond dim un yn llwyddo.

Roedd y g锚m yn ddi-sg么r hyd y naw munud olaf, pan ddaeth dwy g么l i Iran
Fe ddechreuodd diffyg disgyblaeth greu problemau i Gymru, gyda sawl pas ddigon gwan yn golygu bod Iran yn gallu manteisio ar gyfleoedd.
Roedd Cymru'n dal i chwilio am y g么l gyntaf gydag ergyd gan Harry Wilson oddi ar Kieffer Moore a chic rydd hefyd. Ond y naill ymgais na'r llall yn llwyddiannus.
Gyda phedair munud ychwanegol ar y cloc, parhau wnaeth y fflachiadau o ymosod a sawl ymgais am ergyd gan Iran ond doedd dim newid i'r sgorfwrdd.
Daeth cerdyn melyn cyntaf y g锚m i Joe Rodon, gan gloi hanner cyntaf llawn tensiwn.

Daeth cerdyn melyn i Joe Rodon funudau cyn diwedd yr hanner cyntaf - cosb cyntaf y g锚m
Doedd dim newidiadau i'r t卯m wrth iddyn nhw ddychwelyd i'r cae ar ddechrau'r ail hanner, ac roedd pasio Cymru'n dal yn llac.
Gydag Iran yn edrych yn beryglus eto, fe ddaeth dwy ymgais am ergyd ond rheiny'n taro'r postyn ddwywaith - unwaith ar y dde ac eto ar y chwith - cyn i Hennessey gael gafael yn y b锚l. Dihangfa arall i Gymru.
Fe wnaeth Kieffer Moore amddiffyn ergyd o ochr y cwrt gan gapten Iran, Hajsafi, ac roedd cyfle i Rob Page wneud ambell newid i d卯m Cymru.
Fe ddaeth Brennan Johnson a Daniel James ymlaen yn lle Connor Roberts a Harry Wilson
Ond roedd Cymru'n dal i'w chael hi'n anodd i gadw meddiant ac roedd y Crysau Cochion dan fygythiad.

Fe serennodd chwaraewr gorau Iran - Sardar Azmoun - sawl gwaith gyda'i ymosodiadau peryglus
Gyda bron i 70 munud ar y cloc, fe adawodd Sardar Azmoun y cae i Iran, ac roedd amddiffynwyr Cymru yn si诺r o fod yn falch o weld hynny.
Parhau wnaeth anlwc llwyr Iran gydag ergyd ar 么l ergyd yn agos ond aflwyddiannus - ond roedd Wayne Hennessey'n haeddu clod am ei waith arbed hefyd.
Gyda thua phymtheg munud ar 么l ar y cloc, roedd yna groeso mawr i Joe Allen i'r cae, wedi'r ansicrwydd ar ddechrau'r twrnament yn sgil anaf i'w linyn y gar fis Medi.
Roedd yna ambell newid i Iran hefyd - Ali Gholizadeh yn gadael i Alireza Jahanbakhsh, Mehdi Torabi ymlaen yn lle Ehsan Hajsafi a Rouzbeh Cheshmi ymlaen yn lle Ahmad Nourollahi.
Daeth fflach o obaith i Gymru gyda chic hosan gan Ramsey yn y cwrt, ond i Moore ei rheoli a chanfod Ben Davies a ergydiodd y b锚l dros y trawst.

Cafodd Hennessey gerdyn coch am ruthro o'r g么l wrth i Taremi anelu i ergydio
Fe ddaeth cerdyn coch Hennessey wedi iddo ruthro o'r g么l wrth i Taremi redeg i geisio ergydio. Cerdyn melyn gafodd ei dangos iddo yn wreiddiol nes i gip ar y VAR arwain at gosb lymach. Bu'n rhaid aberthu Ramsey er mwyn i Danny Ward allu cymryd lle Hennesey rhwng y pyst.
Roedd y b锚l yn tasgu rhwng chwaraewyr Iran ond yr ergyd yn mynd heibio'r rhwyd. Roedd Cymru'n ei chael hi'n anodd rheoli momentwm y g锚m.

Tensiwn a thorcalon i gefnogwyr Cymru
Gyda naw munud o amser ychwanegol ar y cloc fe geisiodd y Wal Goch i godi ysbryd y chwaraewyr.
Ond roedd Iran yn dal i bwyso, er i Daniel James ennill cic rydd ar yr asgell chwith. Ond fe aeth y b锚l i mewn gan Ben Davies yn rhy hawdd i Hosseini yn y g么l, ac roedd Iran yn syth yn 么l i fyny'r cae i chwilio am gyfleoedd.
Ac fe ddaeth eu cyfle - g么l gan Rouzbeh Cheshmi, a darodd chwip o ergyd i'r gornel isaf. Doedd dim gobaith gan Danny Ward.
Ac fe ddaeth un arall i dorri calonnau'r Cymry gyda Ramin Rezaeian yn codi'r b锚l dros Ward.
Gyda'r sg么r terfynol yn 0-2 i Iran mae gobeithion Cymru yn eu Cwpan y Byd cyntaf mewn 64 mlynedd yn pylu.
Oes siawns gan Gymru?
Ni fyddai ennill ddydd Gwener wedi sicrhau lle Cymru yn y rownd nesaf, ond yn dilyn y golled, mae'r darlun yn glir.
Bydd angen i garfan Rob Page guro Lloegr ddydd Mawrth, o bosib o sawl g么l, i gael unrhyw obaith o gyrraedd rownd yr 16 olaf.
Fe fydd Lloegr yn chwarae UDA nos Wener, ac ar 么l y g锚m honno, fe fyddwn ni'n gwybod yn union beth yw'r dasg i Gymru os am ymestyn eu cyfnod yn Qatar.
Mae'r holl ymateb a'r trafod o Qatar a Chymru yma.


Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2022

- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2022
