Disgyblion o Fôn yn rhan hanfodol o ymdrech achub ar y môr

Roedd Grug (chwith) ac Ania (dde) ar y traeth yn dathlu pen-blwydd Efa (canol) pan welon nhw badlfyrddiwr yn mynd i drafferth yn ystod storm
- Cyhoeddwyd
Mae criw o ddisgyblion ysgol ar Ynys Môn wedi sôn am eu profiad o gysylltu â'r gwasanaethau brys pan welon nhw berson mewn trafferth ar y môr.
Cafodd criw RNLI Moelfre eu galw i glogwyni ger Cemaes nos Fercher, 27 Mai ar ôl i ddynes ar badlfwrdd fynd i drafferthion gyda'i chi ynghanol storm.
Roedd Ania, Efa, Grug, Ellis a Logan - disgyblion yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch - ar y traeth y diwrnod hwnnw ac wedi rhybuddio gwylwyr y glannau am y digwyddiad.
Yn ôl Vince Jones o'r criw RNLI ym Moelfre: "Mae'n wych gweld y gymuned leol ac yn enwedig y genhedlaeth iau yn meddwl am ddiogelwch eraill."
Ellis fu'n disgrifio sut y buodd o a phedwar disgybl arall yn rhan hanfodol o ymdrech achub ar y môr
Roedd hi'n ddiwrnod braf a phoeth yng Nghemaes pan benderfynodd y padlfyrddiwr fynd i'r dŵr.
"Roedden ni wedi penderfynu dathlu pen-blwydd Efa ar y traeth oherwydd y tywydd da, felly roedden ni'n chwarae yn y tywod pan 'naeth o droi'n rili drwg yn reit sydyn," meddai Grug, 13.
Wrth i'r storm gyrraedd dyma'r grŵp yn sylweddoli ar ddynes ar badlfwrdd yn cael trafferth cyrraedd y traeth.
"Roedd hi'n dechrau symud tuag at y creigiau ac roedd y storm jyst yn gwaethygu a doedd na'm ffordd iddi hi gael allan o 'na," meddai Ellis, 14.
Dechreuodd y grŵp gwestiynu a oedd angen help ar y fenyw a'i chi.
"Roedden ni'n cwestiynu a ydyn ni'n mynd i fynd mewn i'r dŵr i helpu hi," meddai Logan, 13.
"Roedden ni'n teimlo'n drist ac yn rili poeni amdani."

Ellis (chwith) gyda chefnogaeth Logan (dde) benderfynodd ffonio 999
Sylweddolodd y grŵp bod y ddynes wedi ffeindio ei ffordd i garreg wrth y clogwyn a dringo arni.
Dywedodd Ellis: "'Naeth ni gyd redeg i ben arall y traeth i weld os oedd rhywun yn y creigiau, a welais y ddynes yna heb y padlfwrdd - roedd hi'n sbïo lawr i'r môr i ble roedd o.
"Yna dywedodd person mewn car bod nhw wedi gweld yr un peth a bod ganddi gi, ac felly o'n i'n teimlo ei bod hi mewn trafferth."
Ychwanegodd Ania: "Oedden ni jyst yn meddwl gan fod hi wedi bod yn eistedd yna am hir ac roedd y tywydd yn mynd yn waeth a bod angen help arni."
Penderfynodd y grŵp ffonio mam Efa i wirio a oedd eu teimlad bod angen cysylltu gyda gwylwyr y glannau yn gywir.
"Oedden ni'n drysu wrth benderfynu os oedden ni am ffonio neu ddim, ac roedd y storm wedi gwneud i ni deimlo'n ofn," meddai Efa.
Wedi'r sgwrs gyda mam Efa, fe wnaeth Ellis ffonio'r RNLI.
Dywedodd Ellis: "O'n i'n ofnus am ffonio'r coastguard rhag ofn iddi [y ddynes] ddod allan ar ben ei hunain, ond o'n i'n sicr ar ôl 'chydig fy mod i wedi gwneud y peth cywir.
"O'n i'n poeni mwy amdani hi na'r sefyllfa."
'Da ni'n dibynnu ar bobl yn cysylltu'
Roedd Vince Jones yn un o saith aelod o griw RNLI Moelfre oedd yn gweithio'r noson honno pan ddaeth galwad Ellis.
"Daeth yr alwad 'chydig cyn iddi nosi i ddweud bod padlfyrddiwr wedi'i ddal wrth ymyl y clogwyni," meddai.
"Doedd yr amodau ddim yn dda o gwbl - y gwaethaf dwi wedi gweld mewn dros 20 mlynedd o weithio ym Moelfre."
Gyda help y grŵp ar y traeth, daeth y criw bad achub o hyd i'r ddynes a'i chi, ond gan ei bod hi mewn dŵr bas roedd yn rhaid lansio cwch llai er mwyn ei chyrraedd.
"Fe wnaethon nhw'r peth iawn drwy ein galw ni yn gynnar," meddai Mr Jones.
Roedd gan y ddynes problem gyda'i phadlfwrdd - roedd yn colli gwynt yn araf, oedd yn golygu ei bod yn cael trafferth dal ei phwysau.
"'Da ni'n dibynnu ar bobl, fel y grŵp ifanc yma, yn cysylltu efo ni i rybuddio bod rhywun mewn perygl," ychwanegodd Mr Jones.

Roedd Vince Jones yn un o saith o griw RNLI Moelfre oedd wedi ymateb i alwad Ellis
Erbyn i'r criw achub gyrraedd y ddynes a'i chi, roedden nhw'n dioddef yn yr oerfel ar ôl bod yn sownd yn y creigiau ynghanol y storm am gyfnod mor hir, ond doedd hi ddim wedi cael ei hanafu.
Cafodd y ddau eu tywys i'r lan at dîm gwylwyr y glannau oedd yno i helpu.
Roedd y grŵp o ddisgyblion hefyd ar y traeth ar ôl aros er mwyn helpu'r criw achub i ganfod y ddynes.
Dywedodd Ellis: "Daeth y tîm RNLI draw atom ni i ddweud diolch.
"Fe wnaethon nhw ddweud bod y paddleboard wedi popio ac felly bod o'n alwad dda, a galla'r sefyllfa wedi bod yn wael iawn."
Ychwanegodd Grug: "Roedd o'n dda gweld y ddynes yn dod i'r lan, ond 'naethon ni ddim siarad gyda hi yn bersonol achos roedd hi wedi cael bach o sioc, felly roedd hi am fynd yn syth."
Mae'r grŵp yn annog unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg iddyn nhw, beth bynnag eu hoedran, i ffonio am gymorth.
Dywedodd Ellis: "Go with your gut feeling fydda fy neges i, ac i wneud o cyn gynted â phosib, achos gyda'r tywydd yna gallai hi wedi bod mewn llawer mwy o drafferth os bydden ni wedi aros."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.