O Ferthyr i Istanbul: Jamie Bevan yn cwblhau taith gerdded 3,000 milltir

Jamie Bevan o flaen Mosg Glas Istanbul yn Nhwrci ar ddiwedd bron i bum mis o gerddedFfynhonnell y llun, Jamie Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Jamie Bevan o flaen Mosg Glas Istanbul yn Nhwrci ar ddiwedd bron i bum mis o gerdded

GanAlun Gaffey
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r ymgyrchydd ac un o hoelion wyth Merthyr Tudful, Jamie Bevan, wedi cyrraedd pen ei daith ar draws Ewrop i godi arian at addysg Gymraeg yn ei gymuned leol.

Cyrhaeddodd Jamie ddinas Istanbul ar ddydd Llun, gan ddiweddu taith o 3,000 o filltiroedd a gymerodd bron i bum mis.

Gan ddechrau o'i dref enedigol ym Merthyr Tudful, mae Jamie wedi croesi 11 o wledydd er mwyn codi arian a thynnu sylw at waith Cylch Meithrin y Gurnos - darpariaeth blynyddoedd cynnar Cymraeg sy'n agos iawn at ei galon.

I Jamie mae'r ymgyrch hon yn rhan o'i ymroddiad oesol i hyrwyddo'r iaith yn y Cymoedd.

Pan gychwynnodd ar y daith, esboniodd natur bersonol a symbolaidd y siwrnai:

"Mae hyn yn achos sy'n agos i fy nghalon. Mae fy nheulu'n siarad Cymraeg, mae fy ffrindiau'n siarad Cymraeg. Rwy'n canu ac yn chwarae cerddoriaeth yn Gymraeg, mae'n rhan fawr o fy mywyd. Rwy'n caru Merthyr. Rwy'n caru'r iaith Gymraeg. Pa achos gwell i godi ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg na cherdded i Istanbul?"

Jamie yn ystod dyddiau cynnar ei daithFfynhonnell y llun, Jamie Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Jamie yn ystod dyddiau cynnar ei daith

Pam Istanbul?

"Fe allwn ddweud fy mod newydd ei ddewis oddi ar fap oherwydd ei fod yn lle egsotig ac yn ddigon pell i'w wneud yn her gwerth chweil.

"Ond, mewn byd sydd angen heddwch a sefydlogrwydd mwy nag erioed, nid yw'r arwyddocâd o Istanbul fel y porth o Ewrop i Asia yn cael ei wastraffu arnai."

Disgrifiad,

Taith Jamie Bevan o Ferthyr Tudful i Istanbul

'Teimlad o ryddhad'

"Mae diwedd y daith wedi dod yn eitha' cyflym. Mae'r dyddiau ola' 'ma wedi dod yn sydyn reit ar ôl yr holl fisoedd.

"Mi allai ddweud bo 'na deimlad o ryddhad bod yr holl beth yn dod i ben achos mae wedi bod bron yn bum mis. Byddai'n falch iawn o allu dod adref a gweld fy nheulu, gweld y plant, gweld fy ffrindiau.

"Dwi'n gyffrous iawn am fynd yn ôl adre ac am fynd yn ôl i'r pethau arferol dwi'n eu gwneud fel cael coffi yn gynnar iawn yn y bore a cherdded ar hyd Afon Taf. Dyma'r pethau dwi'n meddwl amdanyn nhw wrth i mi gerdded dydd ar ôl dydd, yr oriau hir ar fy mhen fy hun.

"Ond hefyd, wrth ddweud hynny, pan fydd diwedd y daith yn dod mae 'na bryder am sut ydwi'n mynd i deimlo... ydw i'n mynd i allu setlo eto?

"Bydd yn dipyn o her i ymgyfarwyddo gyda bywyd arferol eto achos mae wedi bod yn amser hir.

"Mae wedi bod yn brofiad hollol wefreiddiol. Dwi mor ddiolchgar am y cyfle i allu gwneud hyn.

"Fi'n deall nad pawb sydd yn gallu ymgymryd â rhywbeth fel hyn, a dwi jysd wrth fy modd bo' fi wedi cael y cyfle ac wrth fy modd bo fi wedi gallu neud e, achos mi oedd 'na gyfnodau lle do'n i ddim cweit yn siŵr!"

Bu Jamie'n gwersylla mewn caeau a choedwigoedd drwy gydol y daithFfynhonnell y llun, Jamie Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Bu Jamie'n gwersylla mewn caeau a choedwigoedd drwy gydol y daith

Bleiddiaid, cogydd Michelin Star a baeddod gwyllt

Nid yw taith o'r fath heb ei brofiadau eithafol. O eiliadau hudolus i sefyllfaoedd dychrynllyd a salwch, mae Jamie wedi profi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau amlwg dros y pedwar mis a hanner diwethaf.

"Roedd gorwedd yn y babell yn gwrando ar fleiddiaid o'm cwmpas i yn y goedwig yn y nos yn brofiad ysgytwol ac anhygoel, hefyd jysd i allu bod yna a phrofi hynna. Yn arswydus ar un llaw ond ar y llaw arall yn hollol hollol wych o brofiad.

"Uchafbwynt arall oedd cael fy mwydo gan Bernard Benoit yn Ffrainc... Michelin Star Chef oedd wedi fy ngwahodd i eistedd lawr yn ei fwyty a fy mwydo i gyda rhai o'r bwydydd gorau dwi erioed wedi eu blasu.

"Roedd hynny'n real boost i sut o'n i'n teimlo ar y pryd. O'n i wedi blino, o'n i bach yn isel... wedyn wnaeth hynny ddigwydd ac oedd y caredigrwydd 'na a'r ffordd mae pobl yn gallu ymddwyn tuag atoch chi yn codi chi reit lan eto. "

Jamie'n tynnu ei lun gyda chyfeillion newydd yn SerbiaFfynhonnell y llun, Jamie Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Jamie'n tynnu ei lun gyda chyfeillion newydd yn Serbia

Ond daeth heriau mawr hefyd, gan gynnwys cysgu ymhlith anifeiliaid gwyllt a mynd yn sâl cannoedd o filltiroedd o gartref:

"Ar wahân i ddelio gyda bod yn flinedig iawn ac yn hiraethus iawn am weld y teulu a ffrindiau a fy nghartref... roedd y baeddod gwyllt yn heriol pan oedden nhw o gwmpas fy mhabell i yn y nos yng nghoedwig yr Ardennes yn Ffrainc.

"Yn Novi Sad [yn Serbia] o'n i'n dost am tua wythnos.

"Roedd rhaid i mi ffeindio meddyg a ges i antibiotics ar gyfer rhyw fath o infection o'n i 'di pigo lan o'r broblem sbwriel sydd ganddyn nhw yn rhai o'r ardaloedd yna.

"O'n i wedi anadlu rhywbeth i mewn oedd wedi fy ngwneud i'n dost iawn.

"Mae bod yn dost yn amhleserus ta beth, ond i fod yn dost mor bell o gartref a ddim yn siŵr ble o' chi'n mynd i aros a sut oeddech chi'n mynd i ddelio gydag e - roedd hynny'n eitha heriol."

Jamie'n cerdded trwy SerbiaFfynhonnell y llun, Jamie Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Fe gymrodd y daith bron i bum mis i'w chwblhau, gan groesi 11 o wledydd

Er gwaethaf y rhwystrau iaith a'r pellteroedd, haelioni'r bobl leol a adawodd y marc mwyaf ar Jamie:

"O ran cwrdd â chymeriadau a phobl ar hyd y ffordd... mae 'na llawer llawer gormod i bigo un neu ddau. Be allai ddweud yw bod 99% o'r bobl dwi wedi siarad gyda nhw wedi bod yn hynod o garedig.

"Maen nhw wedi dangos diddordeb yn yr hyn dwi'n trio ei wneud. Fi 'di gallu rhannu ychydig o ddiwylliant a'r iaith Gymraeg gyda nhw a maen nhw wedi rhannu eu diwylliant a'i iaith nhw gyda fi.

"Weithie chi'n cwrdd â phobl a s'dim iaith yn gyffredin ganddoch chi."

Jamie tu allan i gaffi yn yr AlmaenFfynhonnell y llun, Jamie Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Jamie tu allan i gaffi yn yr Almaen

Codi arian at addysg Gymraeg

Y targed gwreiddiol pan adawodd Jamie Merthyr oedd i godi £3,000. Ond diolch i haelioni cefnogwyr gartref ac ar hyd y ffordd, mae'r cyfanswm bellach wedi torri pob disgwyliad.

"Ni wedi llwyddo i godi dros £16,000 hyd yn hyn. Rydyn ni wrth ein boddau gyda hwnna.

"Dwi'n meddwl bod e mor bwysig bod y cylchoedd meithrin lleol 'ma yn cael y gefnogaeth maen nhw'n ei haeddu.

"Maen nhw angen y gefnogaeth 'ma. Mae hawl gyda phob plentyn yng Nghymru i gael mynediad at addysg Gymraeg o'r blynyddoedd cynnar ymlaen, yn eu cymuned eu hunain heb orfod teithio cannoedd a channoedd o filltiroedd dros y flwyddyn i gyrraedd addysg Gymraeg.

"Mae o'n achos sy'n agos i 'nghalon a dwi'n hynod falch bo' fi wedi gallu gwneud rhywbeth mor gadarnhaol tuag at Cylch Meithrin Gurnos ac addysg Gymraeg ym Merthyr Tudful."

"Be dwi 'di ddysgu am y byd? Be dwi 'di ddysgu ydi... weithie mae hi'n braf eistedd yn gwneud dim byd, ac mae hi'n iawn gwneud hynny hefyd!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig