Rhybudd melyn am law ledled Cymru a channoedd heb drydan

Llangrannog Ffynhonnell y llun, Tafell a Tân
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwyty yn Llangrannog wedi gorfod cau dros dro ar ôl i wyntoedd chwythu tywod ar draws blaen yr adeilad

GanGwen Aeron
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o gartrefi heb drydan wrth i Storm Boelo ddod â glaw trwm a thywydd garw i Gymru.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd rhwng 11:00 a 23:00 ddydd Sadwrn, gyda glaw trwm yn debygol o achosi llifogydd ac amharu ar deithiau.

Er mai gogledd Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban sydd fwyaf tebygol o deimlo effaith Storm Boelo, gallai'r tywydd garw effeithio ar rannau o Gymru.

Mae'r rhybudd yn golygu y gallai dŵr gronni ar ffyrdd, gan wneud teithiau'n hirach, ac mae posibilrwydd y bydd gwasanaethau trenau a bysiau yn cael eu tarfu. Gallai rhai cartrefi a busnesau hefyd ddioddef llifogydd.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn cynghori pobl i wirio rhagolygon lleol a gwybodaeth am deithiau cyn cychwyn, yn ogystal â pharatoi ar gyfer y posibilrwydd o doriadau trydan.

Effaith Storm Austen

Ddydd Gwener, cafodd miloedd o gartrefi yng Nghymru eu heffeithio gan doriadau trydan wrth i wyntoedd cryfion Storm Austen daro'r wlad.

Dywedodd y Grid Cenedlaethol, dolen allanol nos Wener fod peirianwyr wedi adfer cyflenwad trydan i fwy na 60,000 o gartrefi ers dechrau'r storm.

Yn ystod dydd Gwener, roedd dros 3,000 o gartrefi heb drydan yn ne a gorllewin Cymru ar un adeg, yn ôl y Grid Cenedlaethol. Roedd problemau hefyd mewn rhannau o'r gogledd, gan gynnwys ardaloedd Beddgelert, Glyn Ceiriog, Gwespyr, y Fflint a Chilcain.

Erbyn nos Sadwrn, roedd tua 700 o gartrefi yn ne a gorllewin Cymru heb drydan yn ystod Storm Boelo. Roedd yr ardaloedd a gafodd eu heffeithio waethaf yn cynnwys Llandogo, Sanclêr a Chastell-nedd.

Yn ôl SP Energy Networks, roedd toriadau trydan hefyd mewn nifer o ardaloedd yng nghanolbarth a gogledd Cymru, gan gynnwys Y Borth, Abersoch, Blaenau Ffestiniog, Rhuthun, Biwmares a Llanwnda.

Un o ganlyniadau'r tywydd garw oedd penderfyniad trefnwyr Marathon Eryri i ganslo ras eleni, a oedd i fod i gael ei chynnal ddydd Sadwrn

Dywedodd y trefnwyr fod asesiad o'r cwrs wedi dangos nad oedd yn ddiogel, oherwydd gwyntoedd cryfion, coed ar y ffyrdd a llifogydd ar hyd y llwybrau.

Roedd y penderfyniad wedi'i wneud ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr diogelwch a chael cyngor gan wahanol ffynonellau.

Dywedodd y trefnwyr fod rhagolygon y tywydd ar gyfer dydd Sadwrn wedi gwaethygu'n sylweddol, er bod yr amodau wedi gwella rhywfaint gyda'r nos.

Y bwriad yw trosglwyddo lleoedd y rhedwyr i ras y flwyddyn nesaf.

Dinbych y PysgodFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/sophieprothero1997
Disgrifiad o’r llun,

Glaw trwm yn Nhinbych-y-pysgod wrth i rybudd melyn am law fod mewn grym ledled Cymru

Mae'r tywydd garw hefyd wedi effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth.

Ddydd Gwener, rhybuddiodd Trafnidiaeth Cymru y gallai gwasanaethau rhwng Caerdydd ac Amwythig gael eu canslo neu eu gohirio ar ôl i goeden ddisgyn ar y lein yn ardal Cwmbrân.

Mae rhai gwasanaethau trên wedi'u canslo neu'n wynebu oedi ddydd Sadwrn oherwydd y tywydd, a gallai Storm Boelo achosi rhagor o darfu wrth i law trwm ledaenu ar draws Cymru.

Mae Stena Line hefyd wedi canslo rhai teithiau fferi rhwng Caergybi a Dulyn.

Difrod ar hyd yr arfordir

Mae Storm Austen wedi achosi difrod mewn rhannau o arfordir Cymru.

Ym Mhorth Amlwch, mae gwaith adnewyddu hen Adeilad y Derfynfa Forol wedi'i atal dros dro ar ôl i'r storm ddifrodi trawst newydd yn y to.

Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn fod contractwyr yn gweithio i sicrhau bod y safle'n ddiogel, ac mae'r cyngor yn annog pobl i gadw draw o'r ardal hyd nes y rhoddir rhybudd pellach.

Mae'r gwaith adnewyddu yn rhan o raglen ehangach i adfywio Amlwch.

Yn Llangrannog, mae bwyty Tafell a Tân wedi gorfod cau dros dro ar ôl i wyntoedd chwythu llawer iawn o dywod oddi ar y traeth ac ar draws blaen yr adeilad.

Yn Aberaeron, mae giatiau llifogydd wedi'u cau, yn ôl Cyngor Ceredigion, sydd wedi cynghori pobl i fod yn ofalus wrth deithio ac i gadw draw o arfordiroedd gwyntog.

Rhybudd am lifogydd

Mae'r Swyddfa Dywydd yn disgwyl i law ledaenu ar draws y DU drwy gydol dydd Sadwrn, gan ddod â thywydd gwlyb i'r rhan fwyaf o ardaloedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi tri rhybudd llifogydd a 29 rhybudd cynnar o lifogydd ledled Cymru.

Mae'r rhybuddion llifogydd mewn grym ar gyfer Afon Elái ac Afon Tywi.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae lefelau afonydd yn codi yn yr ardaloedd hyn, gyda llifogydd i dir isel, ffyrdd ac eiddo'n ddisgwyliedig neu eisoes yn digwydd mewn rhai mannau. Disgwylir i'r glaw barhau tan yn hwyrach nos Sadwrn mewn rhai ardaloedd.

Gallai'r glaw trwm gynyddu'r perygl o lifogydd, yn enwedig ar ffyrdd, a gallai achosi oedi i wasanaethau trafnidiaeth.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn argymell bod pobl yn gwirio a yw eu heiddo mewn perygl o lifogydd ac yn ystyried paratoi cynllun a phecyn argyfwng os oes angen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig