Y rhedwraig o Ben Llŷn sy'n casau rhedeg

Kelly Ann Booth WilliamsFfynhonnell y llun, Kelly Ann Booth Williams
GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

O athletwyr brwd i bobl mewn gwisg ffansi, bydd degau o filoedd o bobl yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd heddiw.

Ac yn eu plith mae un rhedwraig o Ben Llŷn sy' wedi rhedeg nifer fawr o rasys erbyn hyn – ond dal i fynnu bod hi'n casau rhedeg.

Er bod hi wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd bob blwyddyn ers 2018 mae Kelly Ann Booth Williams yn dweud: "Dwi actiwali ddim yn licio rhedeg i fod yn onest. Ond ar ôl gorffen bob ras dwi yn edrych am y nesa'."

Colled

Kelly a'i mam Gwen Booth, fu farw yn 66 oed yn 2015Ffynhonnell y llun, Kelly Ann Booth Williams
Disgrifiad o’r llun,

Kelly a'i mam Gwen Booth, fu farw yn 66 oed yn 2015

Dechreuodd Kelly redeg ar ôl colli ei mam i ganser y pancreas yn 2015, meddai: "'Nes i benderfynu bod fi isio gwneud rhywbeth i hel pres at Pancreatic Cancer Action UK a ges i ryw syniad gwirion am redeg Marathon Llundain.

"O'n i 'mond newydd gael babi rhif pump a ges i le pan o'n i ddim wedi disgwyl cael lle.

"Y pella' o'n i 'di gwneud oedd 5km ar y pryd ond ges i le a 'nes i actually treinio i hwnnw er mai dim ond naw wythnos oedd gen i achos 'mod i wedi cael lle munud olaf gan fod rhywun 'di disgyn allan.

"A wedyn, 'swn i ddim yn deud bod fi 'di cael y bug rhedeg, ond 'nes i enjoio hwnnw, yr awyrgylch a phob dim arall. O'dd o jest yn briliant."

Cwblhaodd Kelly y marathon mewn rhyw bump awr: "Dw i'n meddwl bod y ffaith bod fi'n gwneud o er cof am Mam 'di cario fi drwy hwnna i ddweud y gwir."

Mi wnaeth colled teuluol arall arwain at Kelly'n parhau i redeg er mwyn codi arian at achosion da: "Wnes i golli 'mrawd wedyn yn sydyn so 'nes i redeg yr ail marathon Llundain i Asthma and Lung UK yn 2023.

"Yn y blynyddoedd cyntaf o redeg, o'n i'n hel pres at ganser ond mae'n job hel pres o hyd so 'dan ni'n gwneud o i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas erbyn hyn."

Mae Kelly a'i gŵr wedi codi dros £20,000 at achosion da erbyn hyn ac mae rhedeg hefyd wedi ei helpu gyda'r galar: "Er bod fi'n casau o mae o'n helpu. Ac hefyd pan ti'n mynd allan a rhedeg, mae o'n helpu efo iechyd meddwl.

"Ac mae'n rhoi rhyw fath o ffocws. Ac oeddwn i'n gwybod fod 'na bobl wedi rhoi pres ac oedd rhaid ti gyrraedd y diwedd wedyn.

"A ti'n falch am gyrraedd y diwedd."

Medalau KellyFfynhonnell y llun, Kelly Ann Booth Williams
Disgrifiad o’r llun,

Medalau Kelly

Llynedd roedd hi'n 10 mlynedd ers i Kelly golli ei mam felly penderfynodd redeg 10 ras yn 2026 gan gynnwys Hanner Marathon y London Landmarks, Hanner Marathon Sir Fôn a 10k Llandudno.

Mae hi'n benderfynol o gwblhau y Super Half sy'n cynnwys hanner marathon yng Nghaerdydd, Copenhagen, Lisbon, Berlin, Prague a Valencia. Eleni mae wedi cwblhau Hanner Marathon Copenhagen mewn ychydig dros ddwy awr ac yn rhedeg Hanner Marathon Valencia bythefnos ar ôl Hanner Marathon Caerdydd.

Meddai: "Ar ôl Valenica fyddai 'di gwneud hanner y Super Half. Mae'n rhywbeth i anelu ato ac mae gen ti chwech mlynedd i neud o."

Kelly a Rhys ei gŵrFfynhonnell y llun, Kelly Ann Booth Williams
Disgrifiad o’r llun,

Kelly a Rhys ei gŵr

Cefnogaeth

Wrth i Kelly hyfforddi am ei marathon cyntaf yn Llundain, dechreuodd Rhys ei gŵr redeg am y tro cyntaf ers dyddiau ysgol.

Meddai: "Wnaeth o ddweud un diwrnod 'na'i ddod efo ti am training run. Ac oedd o heb redeg ers ysgol ond wnaeth o benderfynu, 'Wow, dw i'n actually licio hwn.'

"Ac ers hynny mae o 'di dechrau rhedeg. A dw i ddim wedi rhedeg efo fo wedyn achos mae o'n ffast.

"Mae'r gŵr wrth ei fodd efo rhedeg."

Mae Rhys wedi cwblhau Ultra y Kerry Way yn Iwerddon ym mis Awst eleni gan redeg 140 milltir.

Newid byd

Nid yn unig mae cychwyn rhedeg wedi helpu Kelly gyda'i galar ond mae hefyd wedi arwain at newid byd gan arwain ati'n sefydlu cwmni Ffitrwydd Llŷn sy'n cynnig hyfforddiant a dosbarthiadau ffitrwydd yn yr ardal.

Meddai: "Dwi wedi disgyn i fewn i ffitrwydd oherwydd hyn i gyd. Do'n i'm yn neud dosbarthiadau ffitrwydd cyn colli Mam a 'mrawd.

"Ond erbyn hyn dw i wedi cwblhau cwrs [i fod yn hyfforddwr] oherwydd wnes i jyst dechrau rili joio cadw'n heini.

"Ac oedd 'mrawd i o hyd yn deud, "Pam na wnei di neud cwrs a gwneud o dy hun?" Ar ôl i fi golli fo, es i ati i wneud y cwrs. A dim ond oherwydd hynny, mae'n siwr, neu 'swn i ddim ar y lôn yma.

"Mae 'na rhywbeth da wedi dod allan o bopeth."

Kelly gyda siec i elusen Pancreatic Cancer ActionFfynhonnell y llun, Kelly Ann Booth Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kelly wedi codi dros £20,000

Felly, ydy Kelly'n argymell rhedeg i'w chleiantiaid er nad yw hi ei hun yn mwynhau?

Meddai: "Mae 'na rhai ohonyn nhw sy'n dod i ddosbarth yn gwneud y rasus. Ac mae 'na eraill sy' jest isio gwneud y weight training.

"Mae pawb yn wahanol.

"Ac os 'dyn nhw ddim yn licio rhedeg, dw i jyst yn deud cerdded. Mae hwnnw'n ddigon da. Jyst cerdded i fyny'r elltydd yn 'neud digon o les."

Wedi cwblhau gymaint o rasus amrywiol, mae gan Kelly un ffefryn clir: "Wnes i fwynhau Hanner Marathon Sir Fôn lle ges i personal best o 2awr 7munud.

"A fedri di ddim curo marathon Llundain achos mae'r awyrgylch yn amazing. Ond Caerdydd ydy'r ffefryn. Dw i'n licio Caerdydd achos mae'r awyrgylch jyst yn brilliant. Mae pawb jyst yn pwsho chdi 'mlaen.

"'Dan ni'n rhywle bob penwythnos bron."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.