Rhaid parhau i adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig

Darren Millar yn annog Plaid Cymru i gyflawni'r "ddau brosiect hanfodol" er mwyn helpu i ddarparu economi gryfach
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y blaid Geidwadol yn y Senedd, Darren Millar, wedi galw ar lywodraeth Cymru i "fwrw 'mlaen" gydag adeiladu ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd ac adeiladu trydedd bont dros y Fenai.
Daw ei sylwadau ar ail ddiwrnod cynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham.
Mae disgwyl y bydd datganiad gan ddirprwy weinidog trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yfory - ynghylch ei gynlluniau ar gyfer yr M4 a'r drydedd bont.
Mewn datganiad dywedodd Mr Millar bod yr "amser ar gyfer siarad drosodd".
Dywedodd: "Mae'r atebion i'r tagfeydd o amgylch Casnewydd a dros y Fenai yn glir iawn.
"Rhaid i ni gael ffordd liniaru ar gyfer yr M4 a thrydedd bont dros y Fenai."
Ychwanegodd y byddai "unrhyw oedi pellach" yn effeithio ar yr economi ac yn cynyddu costau adeiladau.

Fe wnaeth llywodraeth flaenorol Cymru dan arweiniad Llafur gael gwared â'r cynlluniau i adeiladu ffordd liniaru i'r de o Gasnewydd yn 2019
Mae'r M4 o gwmpas Casnewydd a'r ddwy bont bresennol rhwng Gwynedd a Môn wedi achosi trafferthion traffig ers tro.
Ym mis Mehefin, dywedodd Mark Hooper wrth y Senedd y bydd yn ystyried opsiynau ar gyfer y drydedd bont, ond dywedodd na fydd yn adfywio'r cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4.
Cau Pont y Borth am gyfnod amhenodol ar gyfer gwaith atgyweirio
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2025
Pont arall dros y Fenai i gael ei hystyried eto
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2024
Roedd adolygiad yn 2023 yn argymell peidio â pharhau gyda'r cynlluniau ar gyfer trydedd bont, ond flwyddyn yn ddiweddarach dywedodd y gweinidog trafnidiaeth Llafur bryd hynny, Ken Skates, y gellid ystyried pont arall.
Bu cyhoeddiad ym mis Hydref 2025 gan Lywodraeth Cymru, yn datgan y bydd un o'r pontydd sy'n cysylltu Ynys Môn a Gwynedd yn cau am gyfnod amhenodol ar gyfer gwaith atgyweirio.
Mae Pont y Borth wedi gorfod cael ei chau nifer o weithiau er mwyn cynnal archwiliadau - yn sgil amheuaeth bod cerbydau dros bwysau wedi ei chroesi.
Ag ym mis Mai 2026 cafodd un o'r pontydd presennol ei chau nifer o weithiau o fewn 24 awr.
Yn yr un datganiad i'r Senedd fis Mehefin diwethaf, gwnaeth Mark Hooper ddweud nad oes bwriad adfywio cynllun blaenorol ar gyfer ffordd liniaru'r M4 - cynllun a gafodd ei wrthod gan y cyn-Brif Weinidog Llafur, Mark Drakeford, yn ôl yn 2019.
Dywedodd Hooper y byddai llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar fesurau i wella llif traffig.
Roedd maniffesto etholiad Senedd Plaid Cymru wedi addo i "ymdrin â thagfeydd ar yr M4 o gwmpas Casnewydd" ac mae'r prif weinidog Rhun ap Iorwerth wedi sôn bod angen datrys y trafferthion yn seiliedig ar y ffyrdd.
Dywedodd maniffesto Ceidwadwyr Cymru y byddai'r blaid yn adeiladu ffordd liniaru'r M4 ac yn adeiladu trydedd bont dros y Fenai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.