Teulu Elfyn Evans 'mor, mor browd ohono - mae o'n haeddu fo'

Dywedodd Elfyn Evans ei fod yn falch bod rheswm i gefnogwyr ddathlu ar ôl teithio mor bell i'w weld yn rasio
- Cyhoeddwyd
Mae teulu Elfyn Evans - y Cymro cyntaf erioed i ennill Pencampwriaeth Ralïo'r Byd - wedi disgrifio'u balchder wedi ei lwyddiant.
Trwch blewyn oedd yn gwahanu'r gyrrwr o Ddinas Mawddwy a'i brif wrthwynebydd, Oliver Solberg, ar drothwy y cymal olaf yn ras olaf y tymor yn Sardinia ddydd Sul.
Ond gafodd Solberg ddamwain ger y llinell derfyn gan olygu bod Evans o'r diwedd yn bencampwr ar ôl dod yn ail ar bum achlysur rhwng 2020 a'r llynedd.
Dywedodd Evans ei hun bod y gefnogaeth iddo yn Yr Eidal wedi bod yn "anhygoel".
"Ma' gym'int 'di bod allan yma i'n cefnogi ni a diolch yn fawr i bawb oedd allan," meddai. Dwi'n falch bo' fi heb dragio pawb allan i ddim byd!
"Mae wedi bod yn benwythnos caled - falle ddim y penwythnos 'dwi mwya' prowd o, mewn ffor', ond wrth gwrs ga'th y bencampwriaeth ddim ei ennill yn unig yn y rownd yma.
"Ma' 'na lot o adege reit crucial er'ill 'di bod drwy'r flwyddyn ac ma' hynna 'di cyfrannu ar y canlyniad yn y diwadd."
Roedd teimladau Elfyn Evans "ar hyd y lle", meddai ar ôl ennill y bencampwriaeth
Dywedodd tad Elfyn, y cyn-bancampwr ralïo Prydeinig, Gwyndaf Evans, fod ei emosiynau "i fyny a lawr fel io-io" ar ddiwedd y cymal
Roedd yntau, fel ei fab, wedi ofni bod y fantais gyda Solberg - nes i ddamwain ei orfodi oddi ar y ffordd.
"O'n i 'di ysgwyd llaw efo Elfyn [pan yr oedd Solberg] hanner cilometr cyn y diwedd... fel welais i Oliver yn mynd off, nes i hitio het Elfyn a hygio fo a d'eud 'Ti'n champion!'
"Mae isio bod â chrydfer mental ofnadwy.... bron trwy'r tymor, d'eud y gwir, ond yn enwedig yn y ras ola'."

Gwyndaf Evans yn llawn cyffro wedi buddugoliaeth ei fab
Dywedodd gwraig y gyrrwr buddugol, Donna Evans ei bod "mor, mor hapus iddo fo".
"Ers i ni fod efo'n gilydd, dyma be' mae o wedi anelu ato, a mae o 'di cyrra'dd yna rŵan.
"Ma'r gwaith mae o'n rhoi mewn, mae o'n trio yn bob rali - mae o'n haeddu fo. 'Dan ni mor, mor prowd ohono fo."

Dywedodd Donna Evans bod ei gŵr yn haeddu gwireddu breuddwyd oes wedi'r holl waith caled
Roedd yr awyrgylch yn Sardinia "yn hollol anhygoel", yn ôl un cefnogwr oedd yno i weld y fuddugoliaeth hanesyddol a'r tro annisgwyl ar y diwedd.
Fe newidiodd y sefyllfa, medd Dylan Sion Richards o ardal y Bala, "o feddwl bod hi drosodd, i ddathlu mawr!"
Roedd wedi teithio'n arbennig i weld rownd olaf y bencampwriaeth gyda chriw o aelodau Clwb Moduro'r Bala, gan adael eu gwesty am 06:00 er mwyn gweld y rasio o 06:30 ymlaen.
"I gymharu â ralis lleol, roedd hyn yn agoriad llygad mawr," meddai.
"Dydy'r teledu ddim yn gallu 'neud i rywun wir werthfawrogi'r gwirionedd."

Roedd ymateb y dorf ar ddiwedd y ras yn gwneud i rywun deimlo'n falch o fod yn Gymro, medd Dylan Sion Richards (ail o'r chwith)
O "sylweddoli fod brwydr 'mlaen" wedi i'r Cymro eu pasio am yr eildro, aeth y criw at ardal diwedd y cymal.
"Roeddwn i'n sefyll wrth y llinell derfyn, gyda bechgyn Bala ar un ochr a bechgyn Llanrwst ar yr ochr arall," meddai Dylan.
"Pan ddaeth Oliver Solberg i lawr y ffordd, mi roedd 1.3 eiliad yn gyflymach.
"Edrychom ni ar ein gilydd a dweud "Amen". Roedd Solberg yn hedfan lawr lannau Sardinia fel dyn gwyllt.
"Yna, yn sydyn, daeth hofrennydd teledu yn hedfan tuag at y llinell derfyn, ond doedd dim car rali i'w weld! Roedd Solberg wedi mynd oddi ar y ffordd!"
'Mor falch o fod yn Gymro'
Roedd "gwaeddi mawr gan y dorf", meddai Dylan, "yna tawelwch llwyr… yna, dyma ffan Estonian yn gafael yn fy ysgwydd... a'r geiriau 'Elfyn is Champion' yn dod o'i geg!"
"Wrth gerdded yn ôl i fyny at y car, o'n i'n teimlo fel petawn i wedi ennill y bencampwriaeth fy hun!
"Roedd cefnogwyr o bob rhan o'r byd yn fy llongyfarch, gyda high fives a gwên fawr gan bawb. Nath hynny fi deimlo mor falch o fod yn Gymro.
"Oedd pobl yn gweiddi 'Galles, Galles!' ac yn canu enw Elfyn Evans yr holl ffordd yn ôl i'r maes parcio.
"Profiad anhygoel, rhywbeth na fyddai byth yn ei anghofio! Sôn am ysbrydoli cenhedlaeth! Briliant," Ychwanegodd Dylan Richards.
'Ymlacio rŵan ac ennill un arall'
Yn siarad ar Dros Frecwast o Sardinia fore Llun, dywedodd Phil Pughe oedd yn arfer bod yn gyd-yrrwr i Elfyn ei fod "e'n anhygoel i fod 'na".
"O'dd gweld o'n 'neud o o'n blaenau ni yn anghredadwy de. Dwi jest mor falch bod o 'di ennill, mae o 'di haeddu o ers blynyddoedd, chware teg."
Roedd Phil yn gyd-yrrwr i Elfyn pan enillodd y bencampwriaeth ieuenctid yn 2012.
"Mae o 'di bod yn bride's maid ambell waith", meddai, gan gyfeirio at y pum gwaith y gorffennodd yn ail.
"Ond mae o ar dop y byd 'wan a dwi'n gobeithio neith o gario ymlaen."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd Elfyn yn medru "ymlacio rŵan ac ennill un arall".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 awr yn ôl
