Lansio ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl canfod corff mewn fan oedd ar dân

Cafodd y corff ei ganfod mewn fan ym Mhrestatyn
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi cael ei lansio ym Mhrestatyn, yn ôl Heddlu'r Gogledd, ar ôl i gorff gael ei ganfod mewn fan.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Gas Works Lane am tua 23:30 nos Sul, yn dilyn adroddiad bod fan ar dân a chafodd corff ei ganfod yn y fan.
Dydy corff y person heb gael ei adnabod ar hyn o bryd.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Chris Bell fod swyddogion yn "gweithio'n gyflym i geisio adnabod y person".
Ar ôl adnabod y corff, "bydd swyddogion arbenigol wedi'u hyfforddi yn cefnogi teulu'r person cyn gynted â phosibl".
"Rydyn ni'n deall y gall y digwyddiad yma achosi pryder yn y gymuned leol a hoffwn roi sicrwydd i'r cyhoedd bod presenoldeb gweladwy gan yr heddlu yn yr ardal.
"Hoffwn apelio ar unrhyw un oedd yn ardal Gas Works Lane ym Mhrestatyn rhwng 22:45 a 23:45 ddoe, a welodd neu glywodd unrhyw beth anarferol, i gysylltu â ni."