Penderfyniadau ariannu 'hynod anodd' o'n blaenau - Gweinidog Cyllid

Elin JonesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gweinidog Cyllid Plaid Cymru, Elin Jones AS nad ydyn nhw "yn mynd i wneud yr un fath a'r llywodraeth flaenorol"

GanTeleri Glyn Jones Gohebydd Gwleidyddol BBC CymruacElin ClarkeBBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae 'na benderfyniadau "hynod anodd" yn wynebu Llywodraeth Cymru er mwyn ariannu ymrwymiadau maniffesto allweddol.

Wrth siarad ar raglen Politics Wales dywedodd Gweinidog Cyllid Plaid Cymru, Elin Jones AS nad oedd pobl wedi pleidleisio am "estyniad o bolisïau Llafur" ac nad ydyn nhw "yn mynd i wneud yr un fath a'r llywodraeth flaenorol".

Mae'r llywodraeth newydd wedi dod o dan bwysau cynyddol yr wythnos hon i esbonio sut y bydda nhw'n talu am un o'u prif bolisïau o gynnig gofal plant am ddim i holl blant o naw mis i bedwar blwydd oed.

Er yn cydnabod y "bydd 'na newidiadau i'r gyllideb" wnaeth y Gweinidog ddim ymhelaethu ar sut y bydda nhw'n talu am y polisi sy'n debygol o gostio hyd at £400m dros bedair blynedd.

Awgrymodd Elin Jones AS y byddai rhagor o wybodaeth yn dod i'r amlwg yn ystod yr wythnosau nesa', cyn i'r gyllideb atodol gael ei gyhoeddi ar 23 Mehefin.

Mae'n arferol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyllideb atodol yn ystod yr haf er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau i'r sefyllfa ariannol yn ystod blwyddyn ariannol.

Wrth siarad yn gyffredinol am y pwysau ariannol ar Lywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog Cyllid fod y rhagolygon ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn "heriol" gan ychwanegu "tebygol, yn fwy heriol nag oeddwn i'n ei ddisgwyl."

Mae'r blaid Lafur Cymreig wedi taro nôl gyda'u llefarydd ar gyllid, Huw Thomas AS yn dweud: "Mae'n ffantasi i ddweud nad oedd Plaid Cymru yn ymwybodol o faint yr her ariannol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru."

"Roedd Plaid Llafur Cymru bob amser yn onest am yr her. Dywedodd yr IFS wrtho ni am yr her. Roedd gan Plaid Cymru, hyd yn oed, fynediad at lyfrau (ariannol) y llywodraeth."

'Maniffesto sydd ddim wedi'i gyllido'

Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru wedi dweud, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, y bydd angen iddyn nhw ail-flaenoriaethu rhan o'r £7bn wnaeth y llywodraeth Lafur flaenorol wario ar daclo tlodi plant er mwyn talu am eu cynnig gofal plant.

Gwadodd Elin Jones eu bod yn "datgymalu etifeddiaeth" Llafur ond dywedodd mai "newid gêr ar ble ry' ni o safbwynt cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yw'r hyn dwi am weld".

Ar ôl ennill 43 sedd yn y Senedd yn yr etholiad fis Mai mae Plaid Cymru chwe sedd yn brin o fwyafrif felly bydd rhaid gweithio gyda phlaid arall er mwyn pasio cyllideb.

Awgrymodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Llafur Chris Weaver, na fyddai'n gyfforddus gyda gweld Aelodau Senedd Llafur yn cefnogi cyllideb pe byddai'r "gwaith ffantasig sydd wedi digwydd yng Nghymru" i fynd i'r afael a thlodi plant "yn cael ei ddatgymalu i dalu am ymrwymiad maniffesto sydd ddim wedi'i gyllido".

'Mae gan bobl Cymru'r hawl i wybod sut bydd yn cael ei ariannu'

Cwestiynu amcangyfrif Plaid Cymru o £400m ar gyfer eu polisi gofal plant wnaeth Llyr Powell AS o Reform UK gan ddweud fod eu "cyfrifon mewnol" nhw yn awgrymu "os yw'r rhai sy'n derbyn cynnig y llywodraeth fel maen nhw'n ei obeithio, gallai fod tua £580m".

Ychwanegodd: "Mae hwn yn bolisi pwysig wnaeth Plaid Cymru roi yn flaenllaw ac mae gan bobl Cymru'r hawl i wybod sut bydd yn cael ei ariannu.

"Allwn ni ddim rhoi siec wag iddyn nhw na throsglwyddo'r cyfrifoldeb i arweinydd cyngor pan maen nhw eisoes dan straen."

Yr wythnos hon mi wnaeth Sam Rowlands AS y Ceidwadwyr amddiffyn penderfyniad y grŵp i gefnogi gwelliant Plaid Cymru mewn pleidlais yn y Senedd ar ofal plant.

"Yn gywir roedd cynnig Plaid Cymru yn beirniadu Reform am iddyn nhw beidio cyfeirio at ofal plant yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad ac yn ymrwymo i gyhoeddi eu ffigyrau cyn gwyliau'r haf. Mi roedda' ni'n teimlo fod hynny'n rhesymol," meddai.

"Be sy'n bwysig yma, wrth gwrs, ydi fod gan rieni beth sicrwydd ar gyfer dyfodol gofal plant, ar gyfer pobl sydd am ddechrau teulu, ac ar gyfer unrhywun sy'n meddwl tyfu eu teulu, dyna'r mater sydd angen ei daclo ar hyn o bryd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.