Sepsis: 'O'n i'n gwybod fod rhywbeth difrifol o'i le'

Catrin JonesFfynhonnell y llun, Catrin Jones
GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Roedd hi'n fore arferol yn ffermdy Catrin Jones yn Rhagfyr 2023 gyda'r teulu'n paratoi i fynd i siopa am goeden Nadolig pan yn sydyn iawn dechreuodd hi deimlo'n ddifrifol wael.

Heb yn wybod i'r dylanwadwraig o Geredigion roedd ganddi sepsis yn deillio o lid y fron (mastitis).

Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw, mae Catrin wedi rhannu ei phrofiad o'r salwch ac o fyw gyda syndrom ôl-sepsis.

Meddai: "O'n i'n hollol iawn pan ddeffrais i'r bore hwnnw. Daeth e allan o nunlle - dechreuais i deimlo'n flinedig ac yn sâl iawn."

O fewn rhyw 20 munud roedd iechyd Catrin wedi gwaethygu, meddai: "Roedd e mor sydyn ac o'n i'n teimlo mor wael 'nes i benderfynu ffonio 111.

"Y prif beth oedd y blinder a'r diffyg egni.

"Yna dechreuodd y crynu. Doedd gen i ddim rheolaeth dros fy nghorff. O'n i'n ysgwyd bron fel pe bawn i'n cael ffit. Roedd e'n llethol, a do'n i erioed wedi teimlo mor oer yn fy mywyd."

Catrin JonesFfynhonnell y llun, Catrin Jones

"Dyna pryd ffoniais fy mhartner Aled a dweud wrtho am ddod mewn o'r fferm.

"Erbyn iddo gyrraedd 10 munud wedyn, o'n i'n gorwedd ar y soffa a phrin yn gallu codi fy mhen.

"Y peth arall oedd bod fy nwylo a'm traed wedi colli pob teimlad, oedd yn teimlo'n rhyfedd iawn.

"O'n i'n gwybod fod rhywbeth difrifol o'i le.

"Y ffordd dwi'n ei ddisgrifio yw oedd e fel pe bai'r tân yn fy mola yn diffodd.

"Roedd gen i deimlad cryf iawn y gallwn i farw ac o'n i jest yn gwybod bod rhywbeth difrifol yn bod."

'Mor bwysig gwrando ar eich corff'

Gan fod Catrin yn edrych mor sâl, mynnodd ei phartner fynd â hi'n syth i Ysbyty Bronglais lle cychwynnodd y meddygon driniaeth sepsis ar unwaith.

Dywedodd: "O'r dechrau hyd at y pwynt hwnnw, dim ond rhyw awr oedd wedi mynd heibio. Roedd popeth wedi digwydd mor gyflym.

"Mae'n anhygoel meddwl bod chi'n paratoi i fynd i brynu coeden Nadolig un funud, ac wedyn yng nghanol argyfwng meddygol y funud nesaf."

Gyda dau blentyn dan dair blwydd oed, roedd Catrin dal i fronfwydo a llid y fron oedd wedi achosi'r sepsis.

"Dwi'n meddwl bod llawer o bobl yn cymryd yn ganiataol bod rhaid i haint fod wedi bod yna ers tipyn a'ch bod chi wedi ei anwybyddu cyn iddo droi'n sepsis.

"Ond yn fy achos i, roedd profion gwaed yn dangos ei fod yn haint newydd iawn. Doedd fy marcwyr haint ddim yn uchel iawn, ond cafodd fy nghorff ymateb enfawr iddo serch hynny.

"Dyna pam mae mor bwysig gwrando ar eich corff a pheidio ag anwybyddu'r symptomau.

"Yn fy achos i, ro'n i'n crynu'n ofnadwy, yn teimlo'n hynod o oer, ac yn teimlo fel petawn i'n mynd i farw."

Mae symptomau eraill sepsis yn cynnwys dryswch, lleferydd aneglur, llai o wrin, diffyg anadl difrifol a newidiadau yn lliw y croen.

Meddai Catrin: "Dyma'r pethau sy'n bwysig i bobl fod yn ymwybodol ohonyn nhw.

"Roedd e'n brofiad brawychus.

"Dw i'n cofio gorwedd yno a meddwl bod siawns na fyddwn i'n gweld fy mhlant eto.

"Ac mae hynny wedi bod yn beth anodd iawn i ddod i delerau ag e wedyn hefyd."

Syndrom ôl-sepsis

Mae syndrom ôl-sepsis yn effeithio ar bron i 50% o'r rhai sy'n profi sepsis ac mi oedd Catrin yn un o'r rheiny.

Meddai: "Mae'n gallu bod yn wirioneddol ofnadwy. Y broblem yw nad oes digon o gydnabyddiaeth nac o gefnogaeth iddo.

"Mae sepsis yn salwch acíwt sy'n cael ei drin yn yr ysbyty. Ond wedyn mae llawer o bobl yn cael eu gadael i ymdopi â'r effeithiau hirdymor ar eu pen eu hunain.

"Mae rhai pethau amdana i heddiw na fydd byth yn mynd nôl i fel oedden nhw.

"Roedd y flwyddyn gyntaf ar ol cael sepsis, neu hyd yn oed y 18 mis cyntaf, yn anodd iawn."

Catrin JonesFfynhonnell y llun, Catrin Jones

Pan gyrhaeddodd Catrin adref, roedd hi'n cymryd y byddai'n mynd yn syth yn ôl i fywyd arferol. Ond roedd hi'n wan iawn, fel mae'n sôn: "Y noson gyntaf honno, o'n i'n methu cerdded i fyny'r grisiau. Roedd y blinder mor ofnadwy.

"Ar ôl cael cawod, byddwn i'n gorwedd ar y soffa am ddwy awr.

"Am ryw fis wedyn, roedd angen rhywun gyda fi bron drwy'r amser oherwydd doedd gen i ddim y nerth i ofalu am fy hun."

Gyda'i system imiwnedd wedi cael ergyd, roedd hi'n dal pob math o heintiau, yn ogystal â phrofi blinder difrifol, gwendid a phoen yn y cymalau.

Meddai: "Dwi wedi colli teimlad yn fy mysedd a peth o fy ngwallt hefyd. Ar ben hynny, roedd effeithiau ar fy ymennydd.

"Y ffordd orau o'i ddisgrifio yw bod popeth wedi arafu.

"Os oedd rhywun yn siarad gyda fi, roedd hi'n cymryd amser i fi brosesu beth oedden nhw'n dweud a dod o hyd i'r geiriau cywir.

"Mae'n well o lawer erbyn hyn, ond dydy e ddim yn ôl i fod 100%.

"Roedd hi'n gyfnod unig iawn. Pan o'n i'n mynd at y meddyg teulu, o'n i'n teimlo nad oedd neb yn deall beth o'n i'n mynd drwyddo."

Yn y diwedd daeth Catrin o hyd i'r elusen UK Sepsis Trust.

Meddai: "Dyna pryd sylweddolais fod enw i'r hyn oedd yn digwydd i fi. Roedd hynny'n hollol allweddol o ran gwella ac fe helpodd fi i ddeall bod yr hyn o'n i'n brofi yn normal, a mod i ddim ar fy mhen fy hun.

"Mae syndrom ôl-sepsis bron fel rhyw fath o limbo. Dy'ch chi ddim wedi marw, ond yn y misoedd cynnar dy'ch chi ddim yn teimlo fel eich bod chi'n byw'n iawn chwaith."

Heddiw

Bron i dair blynedd wedi'r salwch, mae Catrin yn teimlo ei bod wedi troi cornel: "Dw i'n dweud 'mod i tua 80% yn well erbyn hyn. Mae bywyd yn dda eto.

"Dw i'n gallu gwneud fy ngwaith, bod yn fam, mynd allan, cael hwyl a mynd i'r gampfa.

"Ond mae rhai pethau wedi aros. Dw i'n dibynnu mwy ar lyfr nodiadau erbyn hyn gan nad yw fy nghof cystal. Dwi dal yn methu teimlo blaen fy mysedd.

"Ac mae rhai symptomau'n debyg o fod gyda fi am byth. Ond chi yn addasu ac mae bywyd yn teimlo'n dda eto."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig