Cwest newydd yn achos dyn wnaeth ddianc o uned iechyd meddwl yn 1994

Anthony Whittle
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Anthony Whittle ei ddarganfod yn farw yn 1994 ar ôl dianc o uned iechyd meddwl ym Mangor

GanSion Tootill
Yn gohebu oLlys y Crwner, Caernarfon
  • Cyhoeddwyd

Mae cwest newydd i farwolaeth dyn yn 1994 wedi clywed y bu farw ar ôl dianc o uned iechyd meddwl ym Mangor.

Clywodd y cwest fod Anthony Whittle yn dioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd a'i fod wedi cael ei gludo i Uned Seiciatrig Hergest yn Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd ei deulu eu bod wedi clywed sŵn uchel fel "crash a bang" wrth iddo ddianc drwy ffenest ei ystafell yn yr uned ddiogel ac yna dros y to.

Cafodd Mr Whittle ei ddarganfod yn farw'r diwrnod canlynol ger yr A55 yn Llandygai.

Mae cwest newydd yn cael ei gynnal ar ôl i'r Uchel Lys benderfynu nad oedd y gwrandawiad gwreiddiol yn 1995 yn ddigonol.

Dianc o Uned Hergest

Symudodd Mr Whittle o'i gartref yn Burnley ym mis Hydref 1994 i astudio coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd wedi cael trafferth gyda'i iechyd meddwl yn ei arddegau cyn cael diagnosis o sgitsoffrenia paranoiaidd yn 19 oed, ond yn ôl ei frawd, Christopher Whittle, roedd wedi "setlo'n dda" yn ei wythnosau cyntaf yn y brifysgol.

Clywodd y cwest fod hynny wedi newid yn raddol ac erbyn diwedd Tachwedd roedd yn ffonio adref "ddwy neu dair gwaith y dydd" ac yn aml "mewn dagrau".

Ar ôl sgwrs gyda'i rieni, cytunodd Anthony i deithio adref ac aeth ei dad, Robert Whittle, a'i frawd i'w gyfarfod yng ngorsaf Caer, ond ni gyrhaeddodd.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, daeth yr heddlu o hyd iddo ar draeth Prestatyn ar ôl adroddiadau ei fod yn crwydro'r ardal gyda throwsus gwlyb ac un esgid.

Yn ôl yr heddlu, roedd yn "dioddef o orbryder, yn sgrechian ac yn crio'n ddi-baid".

Dywedodd wrthyn nhw ei fod "yn gallu cerdded ar ddŵr" ac y byddai Duw yn ei "arwain at y cwch pysgota". Cafodd ei gludo i Uned Hergest am asesiad seiciatrig.

'Wedi dychryn yn ofnadwy'

Dywedodd ei frawd, Christopher, wrth y gwrandawiad yng Nghaernarfon: "Dywedodd ei fod yn ein caru ni, ond dywedodd ei fod wedi newid."

Wrth aros yn y dderbynfa, dywedodd ei frawd fod y teulu wedi clywed "sŵn ffenest yn chwalu mewn ystafell gerllaw".

"Daeth y meddyg yn ôl a dweud bod Anthony wedi dianc drwy'r ffenest a dros y to."

Dywedodd y meddyg ar ddyletswydd y noson honno, Dr Tom McMonagle, bod Anthony "wedi dychryn yn ofnadwy" pan gyrhaeddodd yr uned a'i fod wedi ceisio dianc.

Siaradodd ag Anthony am gyfnod cyn ei adael mewn ystafell i siarad â'i dad a'i frawd.

"Fy marn ar y pryd oedd ei fod mewn ystafell heb unrhyw ffordd allan heblaw drwy'r drws, ac roeddwn i'n sefyll yn y coridor.

"Roedd dyfais ar y ffenest i'w hatal rhag agor yn rhy bell.

"Cyn i mi allu mynd yn ôl i'r ystafell, daeth rhywun o rywle arall i ddweud eu bod wedi gweld person yn mynd dros y to, yn gwisgo ei sanau.

"Roeddwn i'n synnu ei fod wedi llwyddo i fynd allan drwy'r ffenest heb ei thorri... doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn bosib."

Sylwodd ar fainc oedd "wedi cael ei defnyddio fel ysgol" i ddringo i'r to er mwyn dianc.

Cafodd Anthony Whittle ei ddarganfod yn farw'r bore wedyn.

'Brwydro am gyfiawnder'

Ychwanegodd Christopher Whittle fod y teulu wedi "brwydro am flynyddoedd am ymchwiliad newydd ac am gyfiawnder", ar ôl bod yn anhapus gyda'r gwrandawiad gwreiddiol.

Roedd ei rieni wedi eu torri gan farwolaeth Anthony, meddai. Bu farw'r ddau yn eu 90au cyn y cwest newydd.

Clywodd y cwest fod Anthony yn hoff iawn o fod yn yr awyr agored, yn pysgota yn y môr, a'i fod yn chwaraewr rygbi a bocsiwr talentog.

Dywedodd Christopher Whittle ei fod yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig ar ôl bod yn nhrychineb stadiwm Hillsborough yn 1989, a bod marwolaeth ei frawd wedi achosi trawma pellach.

Mae'r cwest yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig