'Heriau' i gynghorau wrth geisio ehangu gofal plant am ddim

Merch fach yn chwaraeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwil ar gyfer rhaglen Politics Wales yn awgrymu mai dim ond tri chyngor sydd hyd yma wedi cyflawni'r ymrwymiad blaenorol o ran gofal plant am ddim

GanElliw Gwawr
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorau'n wynebu heriau sylweddol wrth geisio ehangu'r cynnig gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed, oherwydd diffyg adnoddau a staff.

Mae llywodraeth newydd Plaid Cymru yn addo ehangu'r gofal plant am ddim yn sylweddol dros y pedair blynedd nesaf, gydag addewid i ddarparu 20 awr yr wythnos i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.

Ond mae ymchwil ar gyfer rhaglen Politics Wales yn dangos bod cynghorau'n ei chael hi'n anodd cyflawni ymrwymiad llawer mwy cyfyngedig y llywodraeth flaenorol, o 12.5 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed.

Hyd yn hyn dim ond tri chyngor sydd wedi gwneud hynny, gyda rhai'n awgrymu y gallai gymryd blynyddoedd i'w gyflawni.

Christine Sharp
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Christine Sharp, sy'n rhiant yn Y Bont-faen, mae'n bwysig bod y cymorth ar gael i bobl ymhob ardal

Dywed Christine Sharpe, rhiant o'r Bont-faen ym Mro Morgannwg, nad yw hi'n "meddwl ei fod yn deg".

"Mae sefyllfa pawb yn wahanol, mae sefyllfa gwaith pawb yn wahanol, a dyw hi ddim yn bosib rhagweld beth yw sefyllfa rhieni, felly mae'n eithaf pwysig bod cymorth ar gael i bobl ymhob ardal."

Nod y llywodraeth Lafur flaenorol oedd i gyflwyno'r gofal yn gyntaf i'r ardaloedd mwyaf difreintiedig, drwy gynllun Dechrau'n Deg, cyn ehangu'r cynnig yn raddol i bawb.

Ond mae rheolwr Cylch Meithrin Y Bont-faen, Sarah Clanfield, yn dweud nad yw hi dal yn glir pryd y bydd y cynnig yn cael ei ehangu i'w hardal nhw.

"Rwy'n credu bod yna addewid y byddai wedi bod yma erbyn hyn, ond yn anffodus dyw e ddim.

"Dwi'n credu oherwydd yr ardal a'r côd post ein bod ni yn olaf ar y rhestr.

"Yn anffodus mae hynny'n cael effaith ar gryn dipyn o'n rhieni, fyddai wrth eu bodd yn gallu cael mynediad at y cynnig yna, ac yn anffodus dydyn nhw ddim yn gallu ar hyn o bryd."

Yn ôl amcangyfrif gan Lywodraeth Cymru - erbyn mis Ebrill eleni dim ond dwy ran o dair o blant dwy oed yng Nghymru oedd wedi cael cynnig y gofal am ddim.

Ond wrth edrych ar gynghorau unigol mae'n glir bod yna anghydraddoldeb mawr ar draws Cymru.

Mae Merthyr, Abertawe a Chasnewydd eisoes yn cynnig y 12.5 awr am ddim i bob plentyn dwy oed.

Ond yn Sir Fynwy dim ond 44% o blant cymwys sy'n cael cynnig gofal plant am ddim ar hyn o bryd.

Rhwng 54 a 59% yw'r canran ym Mro Morgannwg, Ceredigion, Gwynedd a Sir Gaerfyrddin

Mae ardaloedd eraill fel Caerffili, Torfaen a Chonwy wedi cyrraedd 70-80% o blant.

Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth a'r Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams gyda phlant, rhieni a staff mewn meithrinfaFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Mae llywodraeth newydd Cymru wedi addo ehangu yn sylweddol y gofal plant am ddim yng Nghymru dros y pedair blynedd nesaf

Mae'r rhan fwyaf o gynghorau wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn aros am gadarnhad o gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru, nid yn unig ar gyfer y gofal ei hun ond hefyd i dalu am ddarpariaeth newydd neu estynedig.

Mae cynghorau hefyd yn dweud bod diffyg llefydd gofal plant yn rhwystr mawr, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig lle mae nifer y plant yn gostwng.

Mae dod o hyd i staff gofal plant cymwys hefyd yn broblem, yn ôl Jonathan Broadbery o Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd.

"Bydd gan lawer o bobl staff sydd wedi'u cymhwyso i Lefel 3, sy'n dal i fod yn lefel dda o gymhwyster ar gyfer deall datblygiad plant, rôl chwarae mewn dysgu.

"Ond, ar gyfer cyflwyno Dechrau'n Deg, mae'r gofyniad am staff efo cymwysterau uwch, felly mae'n rhaid i bobl naill ai sicrhau eu bod yn recriwtio'r staff hynny, neu weithio gyda'u timau presennol i hyfforddi pobl ymhellach."

Mae hyn yn effeithio ar ba mor gyflym y gellir cyflwyno cynnig y llywodraeth.

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn dweud y gallai gymryd hyd at fis Ebrill 2028, tra bod eraill yn dweud na ellir rhoi unrhyw amserlen o gwbl.

Mae na bryder ei fod bellach wedi troi'n loteri côd post, er gwaethaf y ffaith "nad oes unrhyw ran o Gymru lle mae pob plentyn yn byw mewn tlodi, ac nad oes unrhyw ran o Gymru lle nad oes unrhyw blant yn byw mewn tlodi".

Dr Steffan Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflawni'r hyn y mae'r llywodraeth newydd yn ei addo yn mynd i fod yn "her", yn ôl Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan

Yn ôl Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan, os bydd y llywodraeth yn parhau i dargedu ardaloedd penodol "byddwn yn parhau i golli plant".

"Does dim amheuaeth o gwbl y bydd yr ehangu llawn y mae'r llywodraeth newydd wedi ei addo yn her.

"Gwneud yn siŵr bod y gweithlu yno, bod y llefydd yno.

"Ond does dim rheswm na ddylem fod yn uchelgeisiol chwaith."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod eisoes yn gweithio gydag ymgynghorwyr arbenigol a'r sector ehangach i gyflwyno'r system estynedig cyn gynted â phosib.

Maen nhw'n dweud y bydd yn cael ei gyflwyno'n raddol, gan sicrhau bod y gweithlu cywir yn ei le, ac y bydd rhieni'n cael eglurder ynglŷn â phryd y bydden nhw'n gallu cael mynediad at y system newydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.