Dyn, 61, wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw, 47, gafodd ei 'thrywanu'

Bu farw Eleanor Barnfield yn dilyn digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 61 oed wedi'i gyhuddo o lofruddio Eleanor Barnfield, menyw 47 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae Clifford Foster, sydd hefyd o Ben-y-bont ar Ogwr, i fod i ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Gwener.
Bu farw Eleanor Barnfield ar ôl digwyddiad ar Heol Coety ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun, 19 Hydref, a arweiniodd at ymchwiliad llofruddiaeth.
Dywedodd Heddlu De Cymru "nad yw'r achos yn cael ei ymchwilio fel digwyddiad domestig", a'u bod yn "annog y cyhoedd i beidio â dyfalu am yr amgylchiadau gan fod achos llys bellach yn weithredol".

Roedd ymgyrch heddlu sylweddol yn yr ardal nos Lun
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Heol Coety am 12:43 ddydd Llun yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad car.
Dywedodd yr heddlu fod Eleanor Barnfield, oedd yn gyrru'r car, wedi dioddef anafiadau nad oedd yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad, a chafodd ei chludo i'r ysbyty lle bu farw'n ddiweddarach.
Y gred yw ei bod wedi cael ei thrywanu.
Mewn teyrnged flaenorol, disgrifiodd teulu Eleanor Barnfield hi fel "y person mwyaf caredig, mwyaf cariadus a mwyaf dewr yn y byd".
Dywedon nhw mai hi oedd "popeth i ni", ac y byddai ei theulu a'i ffrindiau "yn ei charu ac yn ei cholli'n fawr am byth."
Roedd Eleanor Barnfield yn gweithio i gymdeithas dai Valleys to Coast, a dywedodd ei phrif weithredwr, Jo Oak, fod ei marwolaeth wedi cael "effaith ddofn" ar y rhai a oedd yn ei hadnabod ac yn gweithio gyda hi.
Mewn datganiad, dywedodd yr uwch-swyddog ymchwilio, Claire Lamerton, fod ei meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau Eleanor Barnfield, a'u bod yn "cael cymorth gan swyddogion arbenigol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
