Cannoedd heb drydan yn sgil gwyntoedd cryf Storm Austen

ConwyFfynhonnell y llun, BBC WEATHER WATCHERS/Jonathan Cain
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn Llandudno ddydd Gwener

GanGwydion Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o bobl wedi colli trydan yn eu tai ddydd Gwener wrth i wyntoedd cryfion Storm Austen daro Cymru.

Am tua 12:00 roedd y Grid Cenedlaethol, dolen allanol yn adrodd bod bron i 2,000 o gartrefi heb drydan.

Roedd dros 500 o gartrefi wedi colli pŵer yn ardal Aberteifi, 280 ym Mrynbuga, 276 ym Maesycrugiau, 129 yn Nhan-y-groes a 120 yn Llanymddyfri.

Yn y gogledd mae cartrefi'n cael eu heffeithio ym Mhwllheli, Bontnewydd, Llanidloes, Bodelwyddan, Bae Cinmel a Phrestatyn, meddai SP Energy Networks, dolen allanol.

Mae dau rybudd melyn am dywydd garw mewn grym ar draws y wlad ar hyn o bryd.

Daeth y cyntaf i rym nos Iau am 22:00, gan effeithio ar ran helaeth o dde Cymru, a rhan fach o'r gogledd orllewin sy'n cynnwys Pen Llŷn ac Ynys Môn. Mae disgwyl iddo barhau tan 17:00 brynhawn Gwener.

Mae'r ail rybudd melyn yn effeithio gweddill Cymru, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'r gogledd a'r canolbarth, a rhan fach o'r de ddwyrain. Mae disgwyl i'r rhybudd hwnnw bara tan 21:00 nos Wener.

'Gofal arbennig o amgylch coed'

Mae'r giatiau llifogydd yn Aberaeron wedi cael eu cau, meddai Cyngor Ceredigion, gan gynghori pobl i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio, ac i gadw draw o arfordiroedd gwyntog.

Maen nhw hefyd yn cynghori trigolion i gadw llygad ar y rhagolygon y tywydd, yn enwedig cyn dechrau taith.

Ychwanegodd y cyngor bod angen "cymryd gofal arbennig o amgylch coed a strwythurau a allai gael eu heffeithio gan wyntoedd cryf".

Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, dolen allanol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig