Gallai gymryd 'canrifoedd' i fyd natur adfywio wedi tanau gwyllt 2026

Llun dinistr tân gwyllt ym mynyddoedd RhinogyddFfynhonnell y llun, Pat O'Neill
Disgrifiad o’r llun,

Cymerodd bythefnos i ddiffodd tanau gwyllt ym mynyddoedd y Rhinogydd

GanSion Tootill
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Gallai gymryd "degawdau, os nad canrifoedd" i adfer llystyfiant a rhywogaethau prin sydd wedi cael eu dinistrio mewn tanau gwyllt ledled Cymru.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), dyma'r "flwyddyn waethaf erioed" o ran tanau gwyllt ar draws y wlad, gyda "miloedd ar filoedd o hectarau" o dir wedi'u colli.

Mae rhybudd y gallai colli mawndiroedd (peatland) yn enwedig arwain at fwy o lifogydd dros y blynyddoedd nesaf.

Yn ôl gwasanaethau tân ac achub Cymru a Lloegr mae 706 o danau gwyllt wedi eu cofnodi hyd yn hyn yn 2026.

Bu'n rhaid ymateb i 208 mewn cyfnod o bythefnos rhwng 16 a 28 Gorffennaf.

Yn ne Cymru mae criwiau'n parhau i frwydro'r fflamau ers i dân ddechrau yn Llanwynno, Rhondda Cynon Taf brynhawn Sadwrn.

Disgrifiad,

Tanau'n llosgi ar y Rhinogydd ger Trawsfynydd yn ddiweddar

Ym mynyddoedd y Rhinogydd ger Harlech yng Ngwynedd roedd un o'r dros 200 o danau gwyllt yng Ngorffennaf.

Cymerodd bron i bythefnos i'w diffodd, gyda'r angen am hofrennydd arbenigol i gynorthwyo'r gwaith.

Cyn ei ddiffodd, yr amcangyfrif oedd bod y tân yma yn unig wedi effeithio ar dros 950 hectar (2,350 erw) o dir.

Disgrifiodd Nick Thomas, Rheolwr Prosiectau Strategol CNC y sefyllfa fel un "hollol drychinebus i fywyd gwyllt".

"Mae wedi bod yn ofnadwy gydag effaith ar fywyd gwyllt, ffermwyr sy'n pori anifeiliaid ar y tir ac un o'r prif bethau yw ein bod ni wedi colli cymaint o bridd mewn llefydd gan fod y tanau mor ddwys."

Llun Nick Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Nick Thomas mae yna risg uwch o lifogydd yn dilyn colli mawndiroedd a llystyfiant sy'n atal dŵr rhag llifo o'r mynyddoedd

Un o'r prif golledion yn ôl Nick yw mawndir, sef ardaloedd yn cynnwys priddoedd llawn dŵr wedi'u creu o blanhigion marw.

"Mae mawndir yn tyfu tua 1mm y flwyddyn felly mewn canrif 10cm o mawndir 'da chi'n cael," meddai.

"Felly os chi'n colli'r pridd a'r holl fawndir mae'n meddwl ei fod yn mynd i gymryd degawdau os nad canrifoedd i'r pridd a'r llystyfiant ddod nôl.

"Heb y mawndir mae risg uwch o lifogydd achos does dim gyda chi'r llystyfiant yna i ddal y dŵr bellach."

Dyw'r priddoedd ddim yn gallu dal carbon bellach chwaith, sy'n gwaethygu newid hinsawdd, a'r effaith ar fywyd gwyllt."

"Mae yn poeni chi am y dyfodol."

Llun ardal sydd wedi llosgi ym mynyddoedd RhinogyddFfynhonnell y llun, Pat O'Neill
Disgrifiad o’r llun,

Mae llystyfiant a rhywogaethau prin wedi'u heffeithio gan y tanau

Gyda'r rhan fwyaf o danau gwyllt yn cael eu dechrau gan bobl, naill ai ar ddamwain neu ar bwrpas, mae Nick yn galw ar bobl i fod yn synhwyrol.

"Dimbarbeciws mewn tywydd fel hyn, dim tanau gwyllt, dim sbwriel neu boteli gwydr, achos mae pob un wedi bod yn ffactor sydd wedi dechrau tanau.

"Wedyn mae'n rhaid i ni reoli ein mynyddoedd ni'n well. Mae llawer o danwydd mewn sawl lle sy'n tyfu'n uchel, ac mae newid hinsawdd yn gwneud hynny'n waeth.

"Felly mae angen i ni edrych ar sut ni'n lleihau hynny."

'Ni all natur ymdopi... dro ar ôl tro'

Nid y Rhinogydd yw'r unig ardal yn y gogledd sydd wedi dioddef.

Ym mhentref Capel Ulo, Sir Conwy roedd rhaid i ddegau bobl adael eu cartrefi pan ddechreuodd tân ym Mwlch Sychnant ar 12 Gorffennaf.

Cafodd Canolfan Gadwraeth Pensychnant ei effeithio hefyd, gyda'r warchodfa natur yn colli tua thraean o'i 150 erw o dir i'r tân.

Llun dinistr tân gwylly Cwm SychnantFfynhonnell y llun, Pat O'Neill
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 50 erw o dir Canolfan Gadwraeth Pensychnant ei ddinistrio

I Julian Thompson, sydd wedi bod yn warden ers i'r ganolfan agor 36 mlynedd yn ôl, roedd gweld y dinistr yn "hynod o drist".

Er bod tanau wedi cael eu defnyddio ers canrifoedd fel ffordd o reoli ochr y mynydd, dywedodd Mr Thompson fod llosgi dan reolaeth fel arfer yn cael ei wneud yn y gaeaf.

"Gyda'r tân hwn yn digwydd yn yr haf ac yng nghanol cyfnod o sychder, roedd mor ddwys nes iddo losgi'r pridd i ffwrdd. Does dim mater organig ar ôl.

"Mae'r pridd wedi troi'n llwch hyd at y graig. Felly bydd yn cymryd amser hir iawn - degawdau dwi'n meddwl - i adfywio."

Er ei fod yn gobeithio bod yr adar wedi dianc, dywedodd Mr Thompson: "Pethau fel nadroedd, gwiberod, ymlusgiaid, ni allant ddianc, maen nhw wedi cael eu dinistrio.

"Bydd yr holl infertebratau wedi cael eu dinistrio.

"Mae nifer o wyfynod prin iawn... dau yn benodol - Gwladwr Cymreig a Thon Gwynedd - sy'n bresennol ym mynyddoedd Eryri a Meirionnydd yn unig.

"Dyma'r lle mwyaf adnabyddus amdanyn nhw. Ond ar ein tir... maen nhw wedi cael eu dinistrio."

Byddan nhw'n goroesi mewn rhai ardaloedd cyfagos, meddai, "ond mae eu cynefin wedi lleihau".

"Mae natur yn eithaf gwydn, ond ni all ymdopi â thrychinebau ar y raddfa hon dro ar ôl tro. Fydd hi ddim yn dal i ddod yn ôl."

Llun Gwyndaf Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwyndaf fod y mwg wedi "byrlymu lawr y dyffryn" tuag at ei dŷ

Mae Gwyndaf Pritchard yn un o wirfoddolwyr y ganolfan ac yn byw'n lleol.

Y cyntaf iddo wybod am y tân oedd pan ddeffrodd am yn gynnar yn y bore i "dŷ llond mwg".

Roedd yn "sioc enfawr" pan gafodd y cyfle i ymweld â'r ganolfan wedi i'r tân gael ei ddiffodd.

"Roedd gweld gymaint o ddifrod yn siom fawr, mae'r pentref yn sicr wedi dychryn," meddai.

"Mae'n ardal fendigedig ac maen nhw'n gweithio'n galed i watchad byd natur a be' sy' 'di digwydd yn yr wythnos diwetha, mae wedi difrodi Sychnant a'r tir.

"Glaw ydy'r peth da ni'n gobeithio am rŵan. Bydd na lot o waith yn symud ymlaen i gael pethau nôl at ei gilydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.