Galwadau i baratoi'n well ar gyfer y risg o danau mawr

Roedd modd arogli mwg y tân ger Blaenafon yng Nghaerdydd - 30 milltir o'r safle
- Cyhoeddwyd
Mae angen ceisio rheoli tir yn well er mwyn lleihau'r risg o danau yn lledaenu, yn ôl arbenigwyr.
Fe wnaeth y gwasanaethau tân ac achub ymateb i 208 o danau gwyllt rhwng 16 a'r 28 o Orffennaf, ac mae 706 o danau gwyllt wedi eu cofnodi hyd yn hyn yn 2026.
Mae'r tân ar fynydd Garnclochdy, sydd bellach o dan reolaeth, yn un o dros 200 o danau gwyllt ar draws Cymru a Lloegr yn ystod y pythefnos diwethaf.
Yn sgil y mwg trwchus o'r tân mawr ym Mlaenafon bu'n rhaid i wersyllwyr adael eu pebyll i chwilio am loches mewn tŷ gerllaw.
"Roedd hi'n ofnadwy. Roedden ni'n tagu a pheswch," meddai Ruth Bint o Sir Rhydychen fuodd yn aros yng ngwersyll Willow Acres gyda'i theulu.
Mae cyfnod hir o dywydd sych wedi cyfrannu at natur heriol tanau gwyllt diweddar.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn bwriadu cynnal cyfarfod aml-asiantaeth i drafod y camau nesaf.

Mae Megan Thomas o Brifysgol Abertawe yn ymchwilio i sut mae gwahanol blanhigion yn llosgi
Yn ol yr Athro Stefan Doerr, o Brifysgol Abertawe, mae'r nifer o danau gwyllt dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn "drychinebus".
"Mae ein tirwedd mor losgadwy. Ar wahân i geisio addysgu'r cyhoedd ynglŷn â pheryglon tanau gwyllt, mae angen i ni reoli'r tir yn well er mwyn lleihau faint o lystyfiant fflamadwy sydd o'n cwmpas."
Dywedodd myfyriwr, Megan Thomas, sy'n astudio sut mae mathau gwahanol o blanhigion yn llosgi, bod llosgi o dan reolaeth yn ystod amodau mwy gwlyb yn un ffordd effeithiol o geisio rheoli'r risg o danau gwyllt.
Angen cynllunio o flaen llaw
Mae'r nifer o danau gwyllt yn ystod yr haf wedi cynyddu dros y degawd diwethaf yn ôl Craig Hope, diffoddwr tân yn y Rhondda ers dros 30 o flynyddoedd.
O ganlyniad mae'n "anoddach i'w diffodd a sicrhau nad ydyn nhw'n ailgydio o gymharu â thanau gwyllt yn y gwanwyn gan fod y tir yn fwy gwlyb bryd hynny," meddai.
"Mae angen i ni fod yn ofalus gyda sut rydyn ni'n rheoli ein adnoddau. Dyw hi ddim yn bosib parhau disgwyl i griwiau tân dreulio cymaint o'u hamser yn delio â thanau gwyllt achos mae hynny'n golygu nad ydyn nhw ar gael i ymateb i beryglon eraill yn y gymuned.
"Dyna pam fod angen buddsoddi mwy o arian mewn strategaeth tanau gwyllt a chynghorwyr tactegol tanau gwyllt sy'n gallu cynllunio'n ofalus o flaen llaw er mwyn ceisio lleihau'r risg o danau gwyllt," dywedodd Mr Hope.

Bu'n rhaid i deuluoedd adael eu pebyll yng ngwersyll Willow Acres wrth i fwg trwchus ledaenu
Dywedodd cyd-berchennog gwersyll Willow Acres, Simon Cockeram, ei fod wedi sylwi ar fwg trwchus o'r tân yn lledaenu ar draws y safle wrth i gyfeiriad y gwynt newid.
"Glywais i bobl yn peswch ac roedden nhw'n ei chael hi'n anodd anadlu felly es i draw at y pebyll a gofyn i'r bobl ddod mewn i'r tŷ i gysgu am y nos," meddai Mr Cockeram.
Mae Gwasanaeth Tân De Cymru wedi cydweithio â ffermwyr lleol yn ystod yr wythnos ddiwethaf i geisio rheoli'r tân sydd tua maint 300 o gaeau pêl-droed.
Dywedodd Ruth Bint ei bod yn ddiolchgar i berchnogion y gwersyll am adael iddyn nhw gysgu yn eu cartref.
"Fel arfer y cyngor yw i gau ffenestri a drysau, ond mae'n amhosib gwneud hynny pan rydych chi mewn pabell," meddai Ms Bint.
"Fe gysgais i mewn siwmper ar yr ail noson, rhag ofn i fi orfod rhedeg o'r babell eto."

Dywed Ruth Bint bod hi a'i theulu wedi mwynhau eu gwyliau yn ne Cymru er iddyn nhw orfod gadael y maes gwersylla
Wrth i'r amodau gwael barhau, fe benderfynodd Ms Bint a'i theulu a gwersyllwyr eraill adael y gwersyll er mwyn dod o hyd i westy.
Bu'n rhaid cau'r gwersyll am ychydig o ddiwrnodau - colled o £1,200 i'r busnes.
Dim hofrenyddion ar gael i ddiffodd tân mawr yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
Disgwyl mwg am ddyddiau wedi tanau gwyllt, gyda rhybudd i bobl fregus
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r risg o danau gwyllt wedi bod yn risg difrifol i nifer o ardaloedd ar draws y wlad am gyfnod hir a mae effeithiau newid hinsawdd yn golygu fod y risg hynny'n cynyddu, yn enwedig yn ystod yr haf.
"Mae hwn yn fater mae'r llywodraeth yn cymryd o ddifrif a rydyn ni'n ystyried sut allwn ni ddelio ag effeithiau hirdymor tanau gwyllt."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod yn cydweithio â'r llywodraeth a phartneriaid er mwyn gwella paratoadau sy'n gallu lleihau'r risg o danau gwyllt yn ogystal â gwella'r ymateb i ddigwyddiadau hefyd.