Mari Grug yn cipio tair gwobr yng Ngwobrau Podlediadau Cymraeg 2026

Mari Grug - llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni - chafodd wybod ei bod wedi ennill tair gwobr am ei phodlediad sy'n trafod byw gyda chanser
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd a'r darlledwr, Mari Grug, wedi cipio tair gwobr yng Ngwobrau Podlediadau Cymraeg 2026.
Mewn seremoni yn y Babell Lên ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ddydd Sadwrn fe enillodd wobr Podlediad y Flwyddyn, ar gyfer ei phodlediad 1 mewn 2.
Fe ddaeth i'r brig hefyd yn y categorïau Cyflwynydd y Flwyddyn a phodlediad Iechyd, Lles a Ffordd o Fyw y flwyddyn.
Mae'r podlediad yn trafod byw â chanser, a gobaith Mari o ddangos bod bywyd yn mynd yn ei flaen ac i gleifion beidio â cholli gobaith.
Cafodd tri o'r gwobrau eraill eu rhoi i Francesca Sciarrillo am ei phodlediadiadau i ddysgwyr - enillodd un ar y cyd gyda Stephen Rule, y Doctor Cymraeg am y podlediad Dim Ond Geiriau.

Mae Mari yn cyflwyno'r rhaglenni Heno a Prynhawn Da
Ym mis Gorffennaf 2023, fe ddatgelodd Mari, oedd yn 38 oed ar y pryd, ei bod hi'n derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron metastatig.
Mae'r canser erbyn hyn wedi lledu, a dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae hi wedi rhannu ei phrofiad personol o fyw gyda'r cyflwr ar ei phodlediad.
Mae hi'n awyddus iawn i ddangos "bod bywyd yn gallu cario 'mlaen er bod canser y fron metastatig arna i, a phrofi 'mod i'n gallu bod yn fam, yn wraig, yn ffrind, yn gyflwynydd wrth fyw gyda chanser cam 4.
"Dwi eisiau i bobl wybod os y cewch chi ddiagnosis o ganser metastatig, peidiwch â cholli gobaith.
"Byddwch yn realistig, ie, ond peidiwch â meddwl 'dyna ni'. Mae triniaethau'n datblygu drwy'r amser. Chi'n gallu byw bywyd llawn gyda'r cyflwr.
"Dwi jest eisiau gweld fy mhlant yn cyrraedd cerrig milltir eu bywydau, a gwneud y mwyaf o'r amser sydd gen i gyda nhw," meddai mewn datganiad gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
'Siapio'r sgwrs genedlaethol'
Dywedodd Aled Jones, trefnydd y gwobrau, fod "podlediadau yn ffynnu, fel cyfryngau creadigol ac fel sianel fasnachol, ac maent yn siapio'r sgwrs genedlaethol.
"Mae Gwobrau Podlediadau Cymru yn dathlu'r bobl sydd y tu ôl ac o flaen y meicroffon, gan roi cydnabyddiaeth i bobl creadigol, cynhyrchwyr a chyflwynwyr.
"P'un a ydynt yn rhan o sefydliad mawr neu'n bodlediwr unigol, mae Gwobrau Podlediadau Cymru wedi rhoi cyfle iddynt ddangos eu sgiliau."

Enillodd Francesca Sciarrillo y wobr Talent Newydd
Enillwyr y gwobrau:
Podlediad Y Flwyddyn: Lleisiau Cymru: 1 Mewn 2 gyda Mari Grug
Cyflwynydd: Mari Grug - pod Lleisiau Cymru: 1 Mewn 2 gyda Mari Grug
Podlediad Iechyd, Lles a Ffordd o Fyw: Lleisiau Cymru: 1 Mewn 2 gyda Mari Grug
Pod Newydd: Dim Ond Geiriau: Francesca Sciarrillo a Stephen Rule (Doctor Cymraeg)
Talent Newydd: Francesca Sciarrillo
Podlediad i Ddysgwyr: Sgwrsio
Podlediad Chwaraeon: 'Di'r Helmed Yn Ffitio gan Cynan Anwy
Podlediad Ffeithiol: Hanes Mawr Cymru
Podlediad Cymunedol: Sgwrsio
Podlediad Y Celfyddydau: Sut i Ddarllen (gan Cyngor Llyfrau)
Podlediad Adloniant a Cherddoriaeth: Hanes Mawr Cymru
Dewis Y Gwrandawyr: Siarad Siop gyda Mari a Meilir
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2025
