Teulu bachgen a laddwyd yn 'dorcalonnus' ar ôl lleihau dedfryd gyrrwr

Kaylan HippsleyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kaylan Hippsley dridiau ar ôl cael ei daro gan gar ym mis Chwefror 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu bachgen 13 oed a gafodd ei ladd ar ôl cael ei daro gan gar yn dweud eu bod wedi eu "chwalu" ar ôl cael gwybod bod dedfryd y gyrrwr a achosodd ei farwolaeth wedi'i lleihau ac y gallai gael ei ryddhau ar drwydded.

Bu farw Kaylan Hippsley dridiau ar ôl cael ei daro gan gar oedd yn cael ei yrru gan Harley Whiteman yn Hirwaun, Rhondda Cynon Taf, ar 29 Chwefror 2024.

Yn wreiddiol, cafodd Whiteman ei ddedfrydu i chwe blynedd a naw mis yn y carchar, a'i wahardd rhag gyrru am wyth mlynedd a phedwar mis.

Ond ar ôl i deulu Kaylan apelio yn erbyn y ddedfryd, penderfynodd barnwyr yr Uchel Lys gynyddu'r ddedfryd i naw mlynedd.

Harley WhitemanFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gallai Harley Whiteman gael ei ryddhau ar drwydded yn yr hydref

Er i'r ddedfryd gael ei hymestyn, mae teulu Kaylan bellach wedi cael gwybod bod dedfryd Whiteman wedi'i lleihau i bedair blynedd, ac y gallai gael ei ryddhau ar drwydded yn yr hydref.

Maen nhw'n dweud bod y posibilrwydd y bydd yn treulio llai o amser yn y carchar nag yr oedden nhw wedi'i ddisgwyl yn "dorcalonnus".

Roedd Whiteman wedi bod yn yfed alcohol ac yn cymryd cocên cyn y gwrthdrawiad.

Fe adawodd leoliad y digwyddiad cyn dychwelyd yn ddiweddarach, lle bu'n rhegi ar aelodau'r cyhoedd oedd yn ceisio helpu'r bachgen, oedd wedi'i anafu'n ddifrifol.

Mae cael eich rhyddhau ar drwydded yn golygu bod troseddwr yn treulio gweddill ei ddedfryd yn y gymuned o dan amodau llym a goruchwyliaeth.

Gall torri'r amodau hynny arwain at gael ei alw'n ôl i'r carchar.

Julie Craig
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julie Craig fod y newyddion am leihau'r ddedfryd yn "gwbl dorcalonnus" i'r teulu

Dywedodd Julie Craig, cyfnither Kaylan, fod y teulu wedi cael galwad gan y gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr bythefnos yn ôl yn eu rhybuddio y byddai amodau carchar Whiteman yn newid.

"Rydyn ni wedi cael llythyr gan y gwasanaeth carchardai yn dweud bod ei ddedfryd wedi'i hadolygu fel rhan o Ddeddf Dedfrydu 2026 ac, o ganlyniad, wedi'i lleihau i bedair blynedd, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf hanner y ddedfryd honno yn y carchar," meddai.

Dywedodd y gallai hynny olygu y bydd Whiteman yn cael ei ryddhau ar drwydded yn yr hydref.

"Mae'n anodd credu y bydd yn cael dod yn ôl i'r gymuned ar ôl dim ond dwy flynedd," meddai.

"Mae'n gwbl dorcalonnus. Mae mam-gu Kaylan, a oedd yn warcheidwad cyfreithiol iddo, wedi'i chwalu."

Ychwanegodd nad yw hi wedi gallu dychwelyd i'r cartref yr oedd hi'n ei rannu gyda Kaylan ers iddo gael ei ladd.

"Mae hyn fel ergyd arall i ni," meddai.

Kaylan Hippsley
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kaylan Hippsley ei ddisgrifio fel bachgen "disglair a deallus" oedd yn chwaraewr rygbi a phêl-droed talentog

Dywedodd Ms Craig ei bod am weld y penderfyniad yn cael ei wrthdroi.

"Rwy'n deall bod angen gwneud newidiadau oherwydd bod y carchardai'n llawn, ond nid bai'r dioddefwyr yw hynny," meddai.

"Bydd gan Harley Whiteman weddill ei fywyd o'i flaen, ond dim ond 13 oed oedd Kaylan.

"Dwi am i hynny gael ei ystyried wrth wneud y penderfyniadau hyn - mae'n anghywir.

"Os yw'n golygu adeiladu carchardai newydd yna dyna sydd angen iddyn nhw ei wneud."

Mewn ymateb, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod am "atal mwy o droseddwyr rhag cael eu rhyddhau'n gynnar", ond na fyddai hynny'n bosibl heb "beryglu'r carchardai rhag cyrraedd eu capasiti a methu gweithredu'n effeithiol".

Ychwanegodd llefarydd: "Pe bai hynny'n digwydd, ni allai'r heddlu arestio, ni allai llysoedd gadw troseddwyr yn y ddalfa a byddai troseddoldeb heb ei wirio ar ein strydoedd."

Dywedodd fod y llywodraeth yn adeiladu mwy o leoedd mewn carchardai, yn ehangu'r defnydd o dagio electronig ac yn cynyddu'r gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig