Y gŵr o Abergynolwyn wnaeth roi'r T yn Chat GPT

Fel un o arloeswyr y genhedlaeth newydd o systemau AI, mae Llion Jones yn teithio'r byd i drafod y dechnoleg
- Cyhoeddwyd
Tra'n tyfu i fyny yn Abergynolwyn yn ne Eryri roedd Llion Jones wrth ei fodd â chyfrifaduron.
Ond yn ôl yn 2002 pan gafodd Llion le ar gwrs Gwyddor Gyfrifiadurol a Deallusrwydd Artiffisial ym Mhrifysgol Birmingham, doedd gan y dewin cyfrifiaduron ifanc ddim clem beth oedd AI, na'r dyfodol fyddai o'i flaen.
Ychydig a wyddai bryd hynny y byddai'n cael ei gydnabod fel un o'r tîm a roddodd y T yn Chat GPT; meddalwedd gan gwmni Open AI sy'n gallu ysgrifennu traethodau, creu lluniau ac ateb cwestiynau.
Eglurodd Llion ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru: "Ro'n i'n gwybod 'mod i eisiau astudio rhywbeth â chyfrifiaduron yn y brifysgol ond pan es i i brifysgol yn Birmingham 'nes i weld bod rhywbeth o'r enw Computer Science ac Artificial Intelligence.
"Doedd gen i ddim syniad beth oedd Artificial Intelligence a 'nath nhw siarad amdano fo ac o'n i jest yn meddwl fod o'n syniad diddorol iawn a bo' fi isio trio creu cyfrifiadur oedd yn meddwl fel person."
Dechrau ei yrfa yn nyddiau cynnar AI
Dyna'n union a wnaeth Llion. Fe raddiodd â gradd Meistr o Brifysgol Birmingham yn 2009, cyn gweithio i Google a dod yn un o awduron y papur Attention Is All You Need, a gyflwynodd fecanwaith y Transformer, sef y "T" yn ChatGPT.
Dyma'r ymennydd cyfrifadurol sy'n helpu'r deallusrwydd artiffisial i ddeall cyd-destun ac ystyr geiriau mewn brawddeg.
Bellach mae Llion yn byw yn Tokyo ac wedi sefydlu ei gwmni technoleg ei hun, Sakana AI, gyda chyn-ymchwilydd Google arall.
Ac yntau newydd dderbyn dwy radd er anrhydedd o brifysgolion Birmingham a Bangor am ei waith arloesol ym myd AI, mae Llion yn dweud ei fod "reit shocked".
Dywedodd: "Pan es i i brifysgol rodden ni ynghanol be' oedden ni'n ei alw yn 'WinterAI'.
"Be' mae hynna yn feddwl ydy doedd yna ddim pres ynddo fo na diddordeb ynddo fo achos doedd pobl ddim yn meddwl fod o'n gweithio.
"Roedd rhaid i ni aros nes tua 2012 cyn i bethau ddatblygu go iawn. 'Nath rywun ddangos bod cyfrifiaduron ddigon pwerus a fod gynnon ni ddigon o ddata fel bod o'n gallu dechrau gweithio rŵan."

Llion Jones yn rhoi sgwrs 'Ted' ar ddeallusrwydd artiffisial
Yn ôl Llion, doedd o erioed wedi "trio edrych am be' sy' am fod yn waith da neu 'neud pres", chwilio "am bethau diddorol i'w gwneud" yw ei fwriad wedi bod erioed.
Fel un a raddiodd yn 2009 a'r byd yng nghanol Y Dirwasgiad Mawr, doedd ffeindio gwaith ddim yn hawdd am beth amser. A doedd dim hygrededd bod dyfodol na defnydd i AI ar y pryd.
"Oedd o'n anodd iawn ffeindio unrhyw waith.
"'Nath o gymryd hanner blwyddyn o drio cyn i fi allu ffeindio gwaith yn Birmingham gyda chyfrifiaduron yn sgwennu côd."
Ond yn y cyfamser, roedd Llion hefyd wedi anfon ei CV at gwmni Google gan holi am waith yn Llundain.
Ar ôl blwyddyn a hanner yn codio yn Birmingham, daeth e-bost gan Google yn gofyn i Llion roi cais arall i mewn am swydd gyda nhw.
"O'n i'n meddwl pam ddim felly 'nes i 'neud cyfweliad dros y ffôn. Ges i wybod fy mod i wedi pasio y cyfweliad ffôn a chael rhywun yn dweud ''Dan ni'n fflio ti i Califfornia'.
"Nes i ofyn 'Pam ti'n fflio fi holl ffordd i Califfornia tra mae'r gwaith yn Llundain?' a 'nath o ddeud, 'di'r gwaith ddim yn Llundain, mae'n Califfornia - ydy hynna'n broblem?
"A wnes i feddwl wrth fy hun 'wel maen nhw am fflio fi i America, pam ddim? Wna i fynd i weld America, wna i ateb cwestiynau nhw a mynd adre'.
"Do'n i ddim yn meddwl bod dim am ddigwydd ond wedyn wythnos ar ôl fi fynd adre ges i wybod fy mod wedi cael cynnig y swydd yn Califfornia!"
'Gwirioni bob dydd' ar y datblygiadau
Gyda agwedd eofn 'pam lai' Llion, symudodd i Galiffornia gan weithio i un o brif gwmnïau technolegol y byd, Google.
Yn 2022 fe lansiodd Open AI y meddalwedd poblogaidd Chat GPT.
Ond heb waith Llion a'i gyd-ymchwilwyr yn Google, efallai na fyddai ffenomen Chat GPT wedi codi ei ben.
Ac yn ôl Llion, mae'r datblygiadau ym myd deallusrwydd artiffisial "yn symud yn gyflym iawn."
Ychwanegodd: "Dwi'm yn siŵr be' mae'n edrych fel i bobl o'r tu allan ond hyd yn oed i rywun fel fi sydd yn gweithio yn AI, dwi'n gwirioni bob diwrnod ar be' 'dan ni'n gallu 'neud 'wan doeddan ni methu 'neud mis yn ôl."
Beth sydd gan Llion i'w ddweud wrth unrhyw un sy'n bryderus am AI?
"Dwi'n meddwl bo' fi yn gweld y bygythiadau, ond technoleg ydy o.
"Mae yna o hyd ddwy ochr i bob peth. Sut mae pobl yn ei ddefnyddio fo ydy y broblem, nid y dechnoleg ei hun."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd5 Chwefror
