Cymru gyfan bellach mewn sychder swyddogol

PontypriddFfynhonnell y llun, Weather Watchers/Emma
  • Cyhoeddwyd

Mae statws sychder bellach wedi cael ei ymestyn i gynnwys Cymru gyfan, wrth i'r cyfnod o dywydd sych a phoeth barhau.

Daw'r datganiad diweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dilyn cyfarfod brynhawn Iau o aelodau Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, sy'n cynnwys cynrychiolwyr CNC, y Swyddfa Dywydd a Llywodraeth Cymru.

Y disgwyl ydy mai'r mis yma fydd y mis Gorffennaf sychaf ers dechrau cadw cofnodion 190 o flynyddoedd yn ôl.

Roedd statws o sychder eisoes wedi ei ddatgan ar gyfer hanner Cymru ar 23 Gorffennaf - ardaloedd yng Ngwynedd, Ynys Môn, Dyfrdwy, Clwyd a Hafren Uchaf.

Pwll, Sir GaerfyrddinFfynhonnell y llun, Weather Watchers/Bryn Cariad
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diffyg glaw wedi creu amodau heriol iawn i lawer o ffermwyr

Mae lefelau sawl afon yn agosáu at eu hisaf ar gofnod, ar ôl i'r wlad weld tua 8% yn unig o'r glaw sydd i'w ddisgwyl ar gyfartaledd ym mis Gorffennaf, wedi sawl ton o wres a chyfnod sychach na'r arfer ers mis Ebrill.

Rhybuddiodd corff Afonydd Cymru bod llif isel sawl afon yn achosi "problemau sylweddol" i fywyd gwyllt, tra bod undebau amaeth yn dweud bod cnydau'n methu a da byw o dan straen.

Bydd datgan statws sychder ar gyfer Cymru gyfan yn golygu y bydd yna ragor o fonitro afonydd, a chyngor cryfach i'r cyhoedd o ran defnyddio dŵr

'Amodau'n parhau i ddirywio'

Wrth gyhoeddi'r statws sychder dywedodd CNC bod diffyg glaw a thymheredd uchel parhaus wedi golygu bod yr amodau amgylcheddol wedi parhau i ddirywio ledled Cymru.

Dywedodd Rhian Thomas, rheolwr dŵr a natur cynaliadwy CNC: "Mae difrifoldeb y gwres, a'r diffyg eithriadol o law, yn golygu bod hwn yn ddarlun sy'n newid yn gyflym yng Nghymru.

"Mae ein timau'n monitro rhagolygon a llifoedd afon yn agos, ac yn ymateb i ddigwyddiadau a phryderon amgylcheddol cynyddol ar draws Cymru.

"Mae'r effaith ar yr amgylchedd, ein tirwedd a'r byd amaeth yn amlwg i'w gweld, gyda llawer o'n timau'n parhau i ddelio ag ôl-effeithiau tanau gwyllt helaeth sydd wedi dinistrio coedwigoedd, glaswelltiroedd a chynefinoedd arbennig."

Gyda statws sychder hefyd wedi'i gyhoeddi ar gyfer llawer o ardaloedd yn Lloegr ar 29 Gorffennaf, mae CNC yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr o ran afonydd trawsffiniol fel Gwy a Dyfrdwy i sicrhau bod ganddyn nhw ddarlun llawn o iechyd afonydd.

Llyn Aled Isaf yn Sir ConwyFfynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae lefelau'r rhan fwyaf o afonydd Cymru yn isel, neu'n eithriadol o isel erbyn hyn

Dydy'r datganiad o sychder drwy'r wlad ddim yn golygu bod yna fygythiad ar hyn o bryd i gyflenwadau dŵr ar gyfer tai a busnesau, gyda chwmnïau dŵr yn dweud bod lefelau mewn cronfeydd yn sefydlog ar ôl dechrau gwlyb i'r flwyddyn.

Ond mae CNC yn dweud ei bod hi'n bwysicach nag erioed i bobl ddefnyddio dŵr yn ddoeth.

"Mae pob diferyn rydyn ni'n ei wastraffu yn llai o ddŵr i'n hafonydd a'n bywyd gwyllt pan maen nhw ei angen fwyaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig