Ail Symudiad: Teyrngedau celf i Richard a Wyn Jones

'Sefyll ar y sgwâr': Richard a Wyn Jones
- Cyhoeddwyd
Ymhlith y paratoadau ar gyfer Eisteddfod Y Garreg Las mae pobl yr ardal wedi bod yn brysur yn addurno eu milltir sgwar i groesawu ymwelwyr i'r brifwyl yn Llantwd.
Ac yng nghanol y celfwaith mae nifer o deyrngedau wedi bod i Richard a Wyn Jones, y ddau frawd o'r ardal fu farw yn 2021.
Roedd cyfraniad y ddau i fyd cerddoriaeth ac i ddiwylliant yng Nghymru yn fawr, drwy'r grŵp pync poblogaidd Ail Symudiad ac hefyd drwy sefydlu label recordiau annibynnol Fflach a stiwdio recordio yn Aberteifi.
Meddai Dafydd Jones, mab Wyn: "Mae gweld yr holl gelfwaith a'r palets wedi'u addurno fel teyrnged i Ail Symudiad wir yn amazing, a dwi mor ddiolchgar i bawb sydd wedi mynd i'r ymdrech i greu rhywbeth er cof am dad a Wyn.
"Er bod nhw'n codi tamaid o hiraeth, mae fe'n twymo'r galon i weld faint oedden nhw'n ei olygu i bobl yr ardal. Diolch yn fowr i chi gyd."
Dyma flas o'r teyrngedau gan bobl ardal y Garreg Las:
Sioe Sefyll ar y Sgwâr yn deyrnged i Richard a Wyn o Ail Symudiad
Mari Elen, un o'r awduron, yn trafod y sioe gyda Ffion Emyr














Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
