Cymuned yng Ngwynedd am brynu tafarn i ddod â'r pentref 'yn ôl at ei gilydd'

Fe wnaeth Tafarn Penbont yn Llanrug gau ym mis Hydref y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae menter gymunedol wedi cael ei sefydlu i brynu a rhedeg tafarn er mwyn dod â phentref Llanrug yng Ngwynedd "yn ôl at ei gilydd".
Fe wnaeth Tafarn Penbont yng nghanol y pentref gau y llynedd ac mae wedi bod ar werth ers sawl mis.
Felly, mae grŵp o tua 20 o bobl leol wedi dod at ei gilydd i ffurfio Menter Gymunedol Penbont mewn ymgais i'w brynu, ail-wneud yr adeilad a'i agor fel tafarn a hwb cymunedol.
Dywedodd ysgrifennydd y fenter, Efa Lewis Roberts eu bod yn gobeithio codi £500,000 trwy werthu cyfranddaliadau a cheisio am grantiau, ond bod £300,000 yn ddigon i brynu'r adeilad a chychwyn ar y gwaith sydd ei angen.

Mae angen "tipyn o waith" ar yr adeilad yn ôl ysgrifennydd y fenter, Efa Lewis Roberts
Bydd y system gyfranddaliadau yn cael ei hagor i'r cyhoedd yr wythnos nesaf, meddai Efa.
Mae "angen tipyn o waith" ar yr adeilad ei hun, meddai, ac mae disgwyl i'r cynlluniau gymryd rhwng tri a phum mlynedd i'w cwblhau - er bydd y tafarn yn agor yn rhannol wrth i'r gwaith ddechrau.

Cysyniad AI Tafarn Penbont, nid dyluniad terfynol
Y gobaith yn y pen draw yw gallu cynnig bwyd, ond mae'r fenter yn canolbwyntio ar ailagor y dafarn fel rhywle all bobl fynd i "wylio chwaraeon byw, chwarae dartiau a pool yn ogystal â gigs a sioeau", yn ôl Efa.
"Mae gofynion y gymuned wedi bod yng nghanol y broses ers i ni ddechrau," meddai.
"Mae 'na deimlad cryf iawn bod angen hyn yn y pentre' ac mae 'na gefnogaeth fawr gan y gymuned.
"Mae'r angen am hwb wedi codi mwy na'r angen am dafarn cymunedol. Mae Llanrug yn bentre' sydd wedi bod efo dau dafarn ers blynyddoedd maith ond dyda ni ddim efo hwb lle mae 'na gaffi lle all bobl ymgynnull heb orfod heirio rywle allan."

Cysyniad AI Tafarn Penbont, nid dyluniad terfynol
Dywedodd Efa ei bod yn "gobeithio gwneith ailagor y tafarn ddod â'r gymuned yn ôl at ei gilydd".
"Mae 'na lawer wedi stopio mynd allan ers i'r tafarn gau a 'da ni'n teimlo bo' nhw'n colli allan," meddai
"Fydd o'n help i'r henoed yn enwedig, dwi'n teimlo, achos does nunlle iddyn nhw ymgynnull ar y funud felly fydd o'n cynnig rhywbeth newydd yn y pentre' sydd wir ei angen."
Ychwanegodd eu bod yn gobeithio manteisio ar dwristiaeth yr ardal.
"'Da ni ar stepen ddrws Yr Wyddfa yma hefyd felly gobeithio bydd o'n denu pobl i'r pentref a wnawn ni elwo o hynna."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.