Ffrae wrth i ASau Reform alw am wahardd gorchuddion wyneb Mwslimaidd

protest y tu allan i'r SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyn y ddadl yn y siambr cafodd protest ei chynnal y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd

GanIfan YwainBBC Cymru FywaDavid DeansGohebydd Gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Roedd 'na ffrae yn y Senedd nos Fercher ar ôl i aelodau Reform alw am wahardd defnydd o orchuddion wyneb Mwslimaidd, megis y burka.

Dywedodd aelodau'r blaid eu bod yn "wrth-Brydeinig", eu bod yn galluogi menywod Mwslimaidd i guddio eu hwynebau ac yn cynrychioli "diwylliant estron".

Roedd ymateb chwyrn i'r sylwadau hynny ymhlith aelodau Plaid Cymru a Llafur - gyda'r dirprwy brif weinidog, Sioned Williams yn cyfeirio at bolisïau'r Natsïaid yn yr Almaen yn y 1930au.

Yn ôl Cyngor Mwslimaidd Cymru, mae'r sylwadau yn arwydd o "agweddau awdurdodaidd".

Mae Reform UK wedi dweud yn y gorffennol eu bod o blaid gwahardd gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus - gan gynnwys burkas a balaclafas.

Wrth agor y drafodaeth nos Fercher, dywedodd yr Aelod Reform dros etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr, Jason O'Connell fod balaclafas "yn cael eu defnyddio gan ddynion ifanc fel ffordd o guddio rhag yr awdurdodau".

"Ac wrth i lywodraethau ar hyd y DU anwybyddu hyn, mae Reform yn dweud mai digon yw digon - nid oes lle i orchuddion wyneb yng nghymdeithas Cymru a Phrydain."

Ychwanegodd: "Does dim problem gennym ni gydag Islam na Mwslimiaid... ond mae problem gennym ni gyda phobl yn ceisio cuddio eu hwynebau.

"Ry'n ni'n meddwl yr un peth am brotestwyr sy'n gorchuddio eu hwynebau - a hynny o ba bynnag adain wleidyddol."

Dywedodd Francesca O'Brien, aelod Reform arall, fod y burka yn "wrth-Brydeinig"

"Dyw pob diwylliant ddim yn hafal... gallwn ni ddim parhau i fewnforio diwylliannau estron i'r wlad yma a disgwyl iddyn nhw integreiddio."

Yn ôl Joe Martin, aelod arall o'r blaid, mae'r burka a'r nigab yn "enghreifftiau sy'n dangos nad yw Islam ffwndamentalaidd yn gydnaws â diwylliant y gorllewin."

Jason O'ConnellFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Jason O'Connell o Reform wnaeth alw am drafodaeth ar y mater nos Fercher

Mae'r burka yn ddilledyn sy'n cael ei wisgo gan rai menywod Mwslimaidd sy'n gorchuddio'r wyneb a'r corff.

Mae'r burka yn gorchuddio mwy o'r wyneb na'r nigab - fêl sy'n cadw'r ardal o amgylch y llygaid yn glir.

Pensgarff yw'r hijab sydd, fel rheol, yn gorchuddio'r pen a'r gwddf ond yn gadael y wyneb yn glir.

'Pwy sy'n penderfynu os yw dynes yn llai Cymreig?'

Dywedodd y dirprwy brif weinidog, Sioned Williams fod y drafodaeth yn ddiweddglo "cywilyddus" i ddiwrnod trist a ddechreuodd wrth goffáu trychineb Aberfan.

Fe wnaeth hi gyhuddo aelodau Reform yn y Senedd o gymysgu rhwng y rhai hynny sy'n achosi anrhefn a thrais mewn protestiadau gyda'r bobl "sy'n cael eu targedu gan yr ymddygiad bygythiol hwnnw".

"Dydw i ddim yn derbyn fod unigolyn yn gwisgo gorchudd wyneb am resymau crefyddol yn golygu nad ydynt yn credu mewn gwerthoedd Prydeinig neu Gymreig.

"Dylen ni chwaith ddim awgrymu fod rhywun yn perthyn llai oherwydd bod eu daliadau crefyddol yn wahanol i eraill."

Ychwanegodd: "Fe wnaeth yr Iddewon yn yr Almaen Natsiaidd orfod wynebu Deddfau Nuremberg yn y 1930 - cyfres o gyfreithiau oedd yn golygu nad oeddynt yn cael eu hystyried yn Almaenwyr rhagor ac arweiniodd yn y pendraw at erlid a lladd.

"Pwy sy'n penderfynu os yw dynes yn llai Cymreig, neu'n llai Prydeinig os yw hi'n gwisgo gorchudd wyneb?"

protest y tu allan i'r SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu Sioned Williams (dde) yn siarad yn y brotest y tu allan i'r Senedd

Fe ofynnodd Carrie Harper, AS Plaid Cymru yn Fflint Wrecsam, i aelodau Reform: "Sut allwch chi hawlio eich bod chi'n amddiffyn menywod pan rydych chi'n ceisio rheoli'r hyn mae menywod Mwslimaidd yn gallu neu ddim yn gallu ei wisgo?"

Dywedodd Kiera Marshall, AS Plaid Cymru yn etholaeth Caerdydd Penarth, fod dynes Fwslimaidd yn yr ardal wedi cael ei hymosod arni yng nghanol dydd oherwydd yr hyn yr oedd hi'n ei wisgo.

Yn ôl Huw Thomas o Lafur Cymru, doedd o heb glywed Reform yn condemnio "y mobs mewn masgiau wnaeth darfu ar ganolfannau'r RNLI yn ne Lloegr fis diwethaf".

'Safbwyntiau peryglus o genedlaetholgar'

Cyn y ddadl yn y siambr, cafodd protest ei chynnal y tu allan i'r Senedd gydag aelodau Plaid Cymru a Llafur yn ymuno a'r gwrthdystwyr.

Un o'r rhai fy'n protestio oedd Suwayba Hussein o Gaerdydd, a wnaeth gyhuddo Reform o ddefnyddio'r ddadl er mwyn rhoi llwyfan i islamaffobia.

"Ry'n ni ond yn trio byw ein bywydau, ry'n ni'n integreiddio yn dda, a'r oll mae hyn am ei wneud yw cynyddu'r islamaffobia ry'n ni'n ei weld mewn cymdeithas fodern," meddai.

Yn ystod y ddadl, mynnodd Jason O'Connell fod cyhuddiadau o hiliaeth ac islamaffobia yn "hen, yn aneffeithiol, ac yn amlwg yn anghywir".

Dywedodd Dr Abdul Azim Ahmed o Gyngor Mwslimaidd Cymru: "Roedd y ddadl yma'n arwydd clir o'r agweddau dychrynllyd o awdurdodaidd sydd gan rai aelodau Reform UK, yn ogystal â'r cenedlaetholdeb eithafol (ultranationalist) ynglŷn â diwylliant a pherthyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.