Dyn wnaeth aflonyddu AS yn hiliol am ei fod yn 'Sais' wedi ei ddedfrydu

Henry Tufnell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Glover wedi bod yn aflonyddu'r AS Llafur Henry Tufnell (uchod)

GanGwydion Edwards
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei ddedfrydu am aflonyddu hiliol yn erbyn Aelod Seneddol Llafur, a hynny am ei fod yn "Sais".

Fe adawodd Michael Glover, 59, nodyn wrth ddrws swyddfa AS dros Ganol a De Sir Benfro, Henry Tufnell, yn Hwlffordd. Aeth i'r dafarn y diwrnod canlynol gyda bwyell.

Yn y llythyr, dywedodd ei fod "wedi cael golwg o gwmpas" cartref Mr Tufnell, ac wedi "gadael ychydig o anrhegion".

Dywedodd Mr Tufnell ei fod yn teimlo'n anghyfforddus bod y diffynnydd wedi dweud ei fod yn gwybod lle'r oedd yn byw gyda'i deulu, gan gynnwys ei fabi ifanc.

Cafodd Glover ddedfryd o chwe mis o garchar, ond fe wnaeth y barnwr ohirio'r ddedfryd am flwyddyn.

'Ar bigau' pan i ffwrdd yn gweithio

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Glover, sy'n ddefnyddiwr cadair olwyn a hefo "anawsterau iechyd meddwl cymhleth", yn teimlo'n "rhwystredig" oherwydd oedi yn ei gais am fathodyn glas.

Roedd deunydd CCTV wedi dal Glover ar 10 Mawrth yn rhoi tâp i lynu bag, oedd yn cynnwys y llythyr, ar ddrws blaen swyddfa ei Aelod Seneddol lleol.

Yna, mi wnaeth "stumiau" at y camera cyn gyrru i ffwrdd.

Llys Goron AbertaweFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Michael Glover yn rhithiol yn Llys Goron Abertawe

Ar 11 Mawrth, mi gariodd Glover fwyell mewn bag plastig i dafarn, gan ei chodi o flaen aelod o'r cyhoedd.

Cafodd ei arestio ar y diwrnod hwnnw, gan bledio'n euog yn ddiweddarach i ddau gyhuddiad.

Ar ran Mr Tufnell, dywedodd ei fargyfreithiwr: "Mae gwybod bod Glover yn gwybod ble'r ydw i, fy ngwraig a fy mhlentyn ifanc yn byw, wedi gwneud i mi ailfeddwl rhai pethau - fel diogelwch fy nghartref."

Ychwanegodd ei fod yn gorfod bod yn ofalus bod ei larymau a'i gamerâu CCTV yn gweithio, a'i fod yn teimlo "ar bigau" pan i ffwrdd yn gweithio, "yn meddwl tybed os ydyn nhw [ei deulu] yn saff".

Cyfnod 'hynod heriol'

Yn amddiffyn, dywedodd Joseph Hocquard fod Glover wedi bod yn y ddalfa ers pedwar mis am dorri gorchymyn y Gwasanaeth Prawf, gan ddweud ei fod yn gyfnod "hynod heriol" oherwydd ei iechyd meddwl a'i anableddau.

Ymddangosodd Glover yn rhithiol gyda'i fargyfreithiwr o gelloedd y llys oherwydd "problem dechnegol" gyda lifft yr adeilad.

Dywedodd y barnwr wrtho fod "Aelodau Seneddol yno i ymgyrchu dros eu hetholwyr".

"Mae ganddyn nhw'r hawl i fyw eu bywydau dydd i ddydd, heb orfod wynebu'r math o fygythiadau ac aflonyddu a wnaethoch chi… boed nhw'n Saeson ai peidio."

Dywedodd hefyd y byddai codi bwyell yn gyhoeddus wedi bod yn "hynod frawychus i'r rhai o'i gwmpas", ond nad oedd ganddo "fwriad i niweidio unrhyw un".

Dywedodd wrth y llys mai "rhwystredigaeth" a "dirywiad yn ei gyflwr meddyliol" wnaeth arwain at y troseddu, gan ei fod yn ceisio cael bathodyn glas.

Ychwanegodd ei fod yn fodlon ei fod wedi dangos edifeirwch am y ddwy drosedd, a'i fod angen cymorth a meddyginiaeth ar gyfer ei anghenion.

Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, mae Glover hefyd wedi cael gorchymyn i dalu gordal dioddefwr o £154, a gorchymyn sy'n ei atal rhag cysylltu â'r AS am bum mlynedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.