Eisteddfod 2026: Cyhoeddi rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Mae Joe Allen, Mari Grug a Heledd Cynwal ymhlith y rhai sy'n cael eu hanrhydeddu eleni
- Cyhoeddwyd
Mae enwau'r bobl fydd yn cael eu derbyn i Orsedd Cymru drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las wedi eu cyhoeddi.
Mae'r rheiny sydd ar y rhestr flynyddol yn cael anrhydedd "am eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a'u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".
Ymhlith yr enwau cyfarwydd eleni mae'r pêl-droediwr Joe Allen a'r darlledwyr Heledd Cynwal a Mari Grug.
Hefyd ar y rhestr mae'r actores Gillian Elisa, un o sêr tîm pêl-droed merched Cymru, Angharad James, a'r cerddorion Ryland Teifi ac Aleighcia Scott.
Mae rhestr lawn o'r anrhydeddau isod:
Mi fyddan nhw'n derbyn gwisg werdd, las neu wen ar faes yr Eisteddfod yn Llantwd eleni, ar fore Llun 3 Awst a bore Gwener 7 Awst.
Dywedodd Aleighcia Scott ei bod yn ei dagrau ar ôl cael gwybod y newyddion
Dywedodd y gantores reggae Aleighcia Scott, a gyhoeddodd y gân reggae Gymraeg gyntaf i gyrraedd rhif 1 ar iTunes llynedd, bod cael ei hurddo ar ei "bucket list", ond ei bod wedi gorfod "checio eto a checio eto" pan gafodd yr e-bost ei gadarnhau.
Ychwanegodd ei bod yn ei dagrau ar ôl cael gwybod y newyddion: "I neud e nawr mae mor bwysig i fi, a mor bwysig i fi i ddangos pobl bod ti'n gallu neud e hefyd.
"Ar y dechrau o ddysgu Cymraeg, o'n i'n meddwl dwi moyn dangos pobl pwy bynnag wyt ti a ble bynnag ti'n dod, ti'n gallu dysgu Cymraeg hefyd."
Dywedodd bod gallu dangos i bobl eraill bod "ti'n gallu bod yn rhan o bopeth yn yr iaith Gymraeg, ac mae'n bwysig i bawb i fod yma hefyd".
"Dwi'n caru Cymraeg, dechreuais i ddysgu pedwar blwyddyn yn ôl, a mae mor bwysig i fi, nes i wastad moyn dysgu Cymraeg a nawr dwi just neud e.
"Dwi dal gyda mwy i ddysgu, a dwi'n gobeithio bydd pobl yn gweld fi a 'neud yr un peth."

Doedd Eurfyl Lewis "ffaelu credu fe" pan glywodd am gael ei dderbyn i'r Orsedd
Dywedodd Eurfyl Lewis o Langlydwen ger Hendy-gwyn ar Daf, a fu'n Swyddog yr Urdd yn Sir Benfro, ei fod yn teimlo "anrhydedd enfawr" o gael ei dderbyn i'r Orsedd.
"Wel, 'wen i ffaelu credu fe pan ges i'r e-bost ryw 10 diwrnod yn ôl," dywedodd.
"Buodd hi'n fraint ac anrhydedd i weithio i'r Urdd, bues i gyda'r Urdd bron i 30 mlynedd. Yn ystod y cyfnod 'na, 'wen i'n teimlo bod e'n bwysig bo' fi'n ceisio annog pobl ifanc a phlant, a'u hysbrydoli nhw i fanteisio ar bob cyfle."
Mae hefyd wedi arwain a gwasanaethu nifer o sefydliadau crefyddol a chymunedol, ac wedi codi arian at Eisteddfod y Garreg Las.
"Erbyn hyn dwi'n olygydd ac hefyd yn dosbarthu'r Cardi Bach, a fi yw cadeirydd y papur bro, mae e'n gallu hala amser ond dwi'n teimlo'n freintedig iawn bod y gymuned gyda fi. Ma' cymuned yn meddwl popeth i fi.
"Yn y flwyddyn ddiwetha, wrth gwrs, dwi wedi bod yn brysur iawn. A dwi'n gobeithio, gwaddol y steddfod i fi, yw y bydd pethe'n cadw i fynd am y blynyddoedd sydd i ddod."
Dywedodd y cerddor Ryland Teifi, sydd hefyd wedi actio a chyflwyno rhaglenni teledu, ei fod yn "fraint" cael ei dderbyn, ac yn "gymaint fwy o anrhydedd i fi wrth gwrs oherwydd mod i'n dychwelyd i fro fy mebyd".
Ychwanegodd mai "gogledd Sir Benfro, De Ceredigion yw ardal fy mhobl i", gan ddweud ei fod yn "edrych ymlaen i ddychwelyd a chael wythnos brysur iawn".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022
