Anrhydeddau'r Orsedd 2026: Y canolbarth a'r gorllewin

Y corn gwlad yn ystod Seremoni'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025
- Cyhoeddwyd
Mae Gorsedd Cymru wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu yn 2026.
Dyma rai o'r bobl o'r canolbarth a'r gorllewin fydd yn cael eu hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd fis Awst a'r hyn sy'n cael ei nodi gan y Brifwyl amdanyn nhw.
Beth yw Gorsedd y Beirdd?
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022
GWISG LAS
Mae John Adams-Lewis, Aberteifi, wedi cyfrannu'n helaeth at fywyd Cymreig yr ardal ers degawdau. Fel athro, cynghorydd, Maer ac aelod blaenllaw o Gyngor Ceredigion, bu'n ddiysgog yn hyrwyddo'r Gymraeg mewn llywodraeth leol a bywyd dinesig. Mae ei arweinyddiaeth mewn mudiadau diwylliannol, crefyddol ac addysgol, ei gyfraniad i wyliau a gefeillio rhyngwladol, a'i wasanaeth gwirfoddol dyngarol wedi cryfhau statws yr iaith a chysylltiadau cymunedol yn lleol ac ymhellach. Mae'n parhau'n llais cadarn dros y Gymraeg a'i siaradwyr.

Bydd cyn bêl-droediwr Cymru, Joe Allen, rhan o'r tîm chwaraeodd yng Nghwpan y Byd yn 2022, yn cael ei anrhydeddu
Mae Joe Allen, Arberth, cyn-ddisgybl yn Ysgol y Preseli, wedi cael gyrfa bêl-droed eithriadol, gan chwarae'n broffesiynol o 16 oed, ennill Cwpan UEFA ddwywaith, capteinio ei glybiau a chynrychioli Cymru 77 gwaith, gan fod yn rhan o dîm hanesyddol Cwpan y Byd. Y tu hwnt i'r cae, mae'n llysgennad angerddol dros y Gymraeg, gan ei defnyddio'n gyson mewn cyfweliadau rhyngwladol, yn ymweld ag ysgolion, ac yn hyrwyddo'r iaith fel peth cyfoes a pherthnasol i bobl ifanc.
Mae Heledd Cynwal, Llandeilo, yn ddarlledwr a chyflwynydd blaenllaw sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ddiwylliant Cymru drwy'r cyfryngau. Mewn gyrfa eang ar Radio Cymru a thu hwnt, mae wedi cyflwyno rhaglenni plant, adloniant, hanes a phrif ddigwyddiadau cenedlaethol â graen, cynhesrwydd a phroffesiynoldeb. Mae ei dawn holi a'i dealltwriaeth ddofn o Gymru a'i phobl yn ennyn ymddiriedaeth cynulleidfaoedd amrywiol. Y tu hwnt i'w gwaith darlledu, mae'n gyfrannwr gweithgar yn y gymuned ac yn llysgennad pwerus dros y Gymraeg a bywyd diwylliannol Cymru.
Mae Nia Wyn Davies, Dre-fach, Llanybydder, yn gymwynaswraig eithriadol sy'n ganolog i fywyd diwylliannol a chymdeithasol ei hardal ers degawdau. Mae wedi cyfrannu'n ddiflino, yn wirfoddol ac yn dawel, i ystod eang o fudiadau Cymraeg gan gynnwys Papur Bro Clonc, Clonc360, eisteddfodau lleol a chenedlaethol, y Ffermwyr Ifanc a chorau. Mae wedi cyfrannu'n wirfoddol yn barhaus ers ei hieuenctid, gan gefnogi a chynnal diwylliant cymunedol Cymru.
Wedi'i eni a'i fagu yng Nghwmfelin Mynach, mae Wyn Evans wedi rhoi oes o wasanaeth di-dor i'w fro. Am 21 mlynedd bu'n cysodi a golygu Y Cardi Bach ar y cyd â'i wraig, Meirwen, gan ddangos ymrwymiad dwfn i'r Gymraeg a bywyd cymunedol. Bu'n drysorydd a diacon Capel Ramoth ers hanner canrif, yn llywodraethwr Ysgol Bro Brynach, yn gynghorydd cymuned ac yn weithgar mewn pwyllgorau eisteddfodau lleol. Trwy wasanaeth tawel a diymhongar, mae wedi cryfhau gwead cymdeithasol a diwylliannol ei ardal.
Mae Meirwen Evans, Cwmfelin Mynach, wedi rhoi gwasanaeth diflino i'w chymuned dros fwy na hanner canrif. Am 21 mlynedd bu'n cyd-gysodi a golygu papur bro Y Cardi Bach gyda'i gŵr, Wyn, gan gynnal llais a hunaniaeth y fro. Mae wedi gwasanaethu'n ffyddlon Ferched y Wawr, y capel lleol, y cyngor cymuned a chôr Corlan, ac wedi codi arian yn barhaus i eisteddfodau lleol. Mae ei chyfraniad tawel, cyson a gwirfoddol wedi bod yn allweddol i gynnal diwylliant a bywyd cymunedol ei bro.

Mae'r darlledwr Mari Grug yn derbyn y wisg las eleni
Mae Neville Evans, Ffos-y-ffin, wedi rhoi gwasanaeth eithriadol i fywyd diwylliannol a chymunedol Cymru dros ddegawdau, a'i ymrwymiad i'r Eisteddfod Genedlaethol yn ganolog i'w waith. Bu'n wirfoddolwr ac yn aelod staff mewn amryw rolau, gan gynnwys arwain ar foderneiddio system docynnau yr Eisteddfod yn 1995. Y tu hwnt i hyn, mae'n wirfoddolwr diflino yn y GIG ac yn gyfrannwr gweithgar a gwerthfawr i Theatr Felin-fach, capeli a bywyd lleol, gan ddangos ymroddiad diwyro i wasanaeth cyhoeddus a Chymreictod.
Wedi ei geni yn Hwlffordd, mae Angharad James yn eicon chwaraeon Cymru: y fenyw ieuengaf i ennill 100 cap i dîm pêl-droed menywod Cymru, a'r capten fu'n arwain y tîm ym Mhencampwriaethau Ewrop. Gyda 143 cap, gyrfa broffesiynol ryngwladol ac ymrwymiad dwfn i'w Chymreictod, bu'n hyrwyddwr amlwg i'r Gymraeg ar lwyfan byd-eang. Trwy ei statws, ei harweinyddiaeth a'i gwaith ysbrydoledig gyda merched ifanc, mae'n cynrychioli Cymru fodern ar ei gorau.
Magwyd Mari Grug, Sanclêr, ar fferm ym Mynachlog-ddu, ac mae wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd diwylliannol Cymru fel darlledwr poblogaidd ar S4C a Radio Cymru. O'i gwaith cynnar ar raglenni plant i'w rôl fel cyflwynydd Prynhawn Da a Heno, mae ei harddull gynnes a naturiol wedi ennill parch cynulleidfaoedd ledled Cymru. Yn Eisteddfodwr brwd ers yn blentyn, mae hi bellach yn feirniad profiadol. Y tu hwnt i'w gyrfa, dangosodd ddewrder eithriadol trwy rannu ei phrofiad o ganser, gan weithredu fel llais ysbrydoledig a llysgennad dros Ymchwil Canser Cymru.
Mae Wynfford James, Caerfyrddin, yn frodor o Ddyffryn Tywi, a wnaeth gyfraniad eithriadol i economi a diwylliant Cymru drwy gyfuno datblygiad gwledig â hyrwyddo'r Gymraeg. Fel cyfarwyddwr Antur Teifi, bu'n arloeswr ym maes telemateg, cyfieithu a mentergarwch gwledig, gan sefydlu cwmnïau a mudiadau dylanwadol. Ar lefel genedlaethol, bu'n flaenllaw yn natblygiad y sector bwyd a diod Cymreig gyda brand Gwir Flas. Y tu hwnt i'w waith proffesiynol, mae'n ffigwr allweddol yng Nghymdeithas yr Iaith ers degawdau, gan barhau i arwain ar gyswllt economi ac iaith.

Angharad James yw'r ieuengaf i ennill 100 cap i dîm pêl-droed menywod Cymru
Mae Jennifer (Jenny) Jenkins, Aberystwyth, wedi gwneud cyfraniad eithriadol, gwirfoddol a di-dâl i waith dyngarol yn lleol ac yn rhyngwladol. O wirfoddoli gyda Hwb Cymunedol Penparcau yn ystod COVID, i gludo cymorth hanfodol i Wcráin ers 2022, mae wedi gwneud degau o deithiau yn casglu a dosbarthu bwyd ac offer meddygol. Trwy gyfrwng y Gymraeg mae'n codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion a chymunedau, gan ennill bri i Gymru drwy ei dewrder a'i hymroddiad.
Arwel Jones, o Giliau Aeron, oedd trysorydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022, a dan ei arweinyddiaeth codwyd dros £463,000 – y swm mwyaf erioed ar y pryd, a hynny trwy gyfnod heriol y pandemig. Yn ogystal â chodi arian, mae Arwel hefyd yn frwd dros hanes lleol, ac mae'n siarad yn gyson gyda chymdeithasau a chlybiau ar amrywiaeth o bynciau. Ef a drefnodd ddathliadau amrywiol Cymru–Ohio yn 2018, sef cofio daugan mlwyddiant ers i dair mil o drigolion Ceredigion ymfudo i Ohio. Mae Arwel yn un o hoelion wyth ei fro, a'i gyfraniad i'r diwylliant lleol yn sylweddol ac amrywiol.
Yn wreiddiol o Lanybydder, mae Geraint Jones wedi cyflawni rôl hollbwysig i seremonïau'r Orsedd ers degawdau drwy ei waith gyda'r Eisteddfod Genedlaethol. Ers 2011 mae gofal dros Gylch yr Orsedd wedi bod yn ganolog i'w rôl, ac mae'n ei chyflawni gyda balchder, cywirdeb gofalus a pharch mawr at y traddodiad. O osod y Maen Llog a Cherrig yr Orsedd i gludo a diogelu gwisgoedd ac eiddo, mae ei sylw manwl a'i ymrwymiad y tu hwnt i ofynion swydd yn sicrhau bod seremonïau'r Orsedd yn urddasol, cywir a theilwng o'u harwyddocâd cenedlaethol.
Mae Natalie Jones, Sanclêr, wedi gwneud cyfraniad arbennig i'r Gymraeg, addysg a chynhwysiant yng Nghymru. Yn gyn-athrawes ac yn awr fel Rheolwr Addysg a'r Gymraeg yn S4C, mae'n sicrhau cynnwys Cymraeg o safon i blant a phobl ifanc ac yn cyfrannu at ddatblygu adnoddau addysgol cenedlaethol. Drwy ei gwaith gyda'r Welsh Black Music Awards ac EMWWAA, mae'n hyrwyddo Cymru amrywiol lle mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb. Yn awdur ac yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb a hawliau LHDTC+, mae'n llysgennad pwerus i werthoedd yr Orsedd.
Mae Tegryn Jones, Llangwm, Sir Benfro, yn arweinydd arloesol ym maes yr amgylchedd ac yn Brif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yn frodor o Lanbedr Pont Steffan, mae ganddo gefndir academaidd cryf a phrofiad helaeth ym meysydd addysg, ieuenctid a'r amgylchedd. Bu'n allweddol wrth ddatblygu Tirweddau Cymru a mentrau cenedlaethol ar newid hinsawdd. Mae'n weithgar yn ei gymuned, yn hyrwyddo'r Eisteddfod a'r Gymraeg, ac yn cyfrannu'n sylweddol y tu hwnt i ofynion ei swydd.

Mae Eurfyl Lewis, o Langlydwen ger Hendy-gwyn ar Daf, wedi rhoi gwasanaeth oes, yn broffesiynol a gwirfoddol, i fywyd Cymreig ei fro a Chymru gyfan. Fel Swyddog yr Urdd yn Sir Benfro bu'n genhadwr egnïol dros yr iaith a'r mudiad, ac ers hynny mae wedi arwain a gwasanaethu llu o sefydliadau crefyddol, diwylliannol a chymunedol. Yn ysbryd byrlymus o wasanaeth, cododd symiau sylweddol at achosion elusennol a chwaraeodd rôl allweddol yn llwyddiant ariannol Eisteddfod y Garreg Las. Mae ei ymroddiad diflino a'i weithredoedd caredig yn gwneud Eurfyl yn llysgennad eithriadol dros werthoedd craidd Cymru.
Mae Jean Lewis, Meidrim, yn ffigwr hanfodol ym mywyd cymunedol Tre-lech a thu hwnt, gan roi gwasanaeth diflino i Gymru, ei hiaith a'i diwylliant. Trwy ei gwaith gyda'r eglwys, addysg, y Ffermwyr Ifanc a mudiadau cymunedol, mae wedi meithrin hyder cenedlaethau o blant a phobl ifanc ac wedi ennill parch eang. Fel arweinydd, gwirfoddolwr a Chynghorydd Sir, dengys ymrwymiad dwfn i lesiant cymunedol, bywyd Cristnogol a hyrwyddo'r Gymraeg, gan ei gwneud yn llysgennad rhagorol dros werthoedd yr Orsedd.
Un o wragedd mwyaf diwyd ei chymuned yw Gwenda Mathias, Hermon, y Glog, sy'n dal i hyrwyddo'n dawel werthoedd Cristnogol ac elusennol ei bro. Mae'n cerdded filltiroedd lawer bob blwyddyn er mwyn codi arian i elusennau gwahanol, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru a Chymorth Cristnogol, yn ogystal â nifer o achosion lleol. Mae'n cerdded yn flynyddol dros y Preselau i gofio am y frwydr i'w cadw'n rhydd o filitariaeth yn 1946. Hyfryd yw cael cydnabod ei gwasanaeth gwirfoddol a diffwdan eleni trwy ei hurddo i'r Orsedd.
Mae Steve Perks, Caerfyrddin, wedi rhoi dros hanner canrif o wasanaeth eithriadol i athletau yng Nghymru fel athletwr, hyfforddwr ac arweinydd cenedlaethol a rhyngwladol. Ers 1984 mae wedi hyfforddi'n ddi-dor yng Nghaerfyrddin, gan ddatblygu dros 40 o athletwyr rhyngwladol, a chwarae rôl allweddol mewn llwyddiannau Olympaidd, Byd ac Ewrop. Yn addysgwr, ustus heddwch ac ymgyrchydd dros y Gymraeg ym myd chwaraeon, mae ei ddylanwad yn ddwfn, parhaus ac amhrisiadwy.
Yn wreiddiol o Adpar, Castellnewydd Emlyn, mae Denise Lewis Poulton, Llundain, wedi cyrraedd y brig ym myd cyfathrebu a'r sector corfforaethol yn rhyngwladol, heb golli ei hymrwymiad dwfn i Gymru. Trwy wasanaethu ar fyrddau diwylliannol a threftadaeth, gan gynnwys S4C a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae wedi defnyddio ei harbenigedd busnes er lles diwylliant Cymru. Yn ddiymhongar ond dylanwadol, mae ei gwaith yn cyfrannu'n sylweddol at gryfhau a chynnal sefydliadau Cymreig ar gyfer y dyfodol.
Dechreuodd Huw Roberts, Aberystwyth, ei yrfa gyda'r BBC ar Radio Cymru fel ymchwilydd, gan symud ymlaen i fod yn gynhyrchydd ac uwch-gynhyrchydd, ac yn gydlynydd darllediadau cyhoeddus mawr fel yr Eisteddfod Genedlaethol. Wedi 17 mlynedd, sefydlodd Gwesty Cymru, gan drawsnewid gwesty dwy seren yn hafan bum seren o Gymreictod a gydnabuwyd yn genedlaethol. Yn ddiweddarach, fel Uwch Reolwr Llety Preswyl Prifysgol Aberystwyth, derbyniodd wobr 2025–26 am hyrwyddo'r Gymraeg, am ei gyfraniad i'r iaith a'r gymuned Gymraeg.
Mae Glenys Ann Thomas, Caerfyrddin, wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Cymraeg lleol a chenedlaethol dros ddegawdau, ym myd addysg a gwirfoddoli. Yn athrawes Gymraeg uchel ei pharch yn Ysgol Dyffryn Aman, ysbrydolodd genedlaethau o ddisgyblion. Ar ôl ymgartrefu yng Nghaerfyrddin, bu'n ganolog i hybu'r Gymraeg drwy'r Urdd, Merched y Wawr (gan gynnwys fel eu Llywydd Cenedlaethol), y capel a phrif ddigwyddiadau Cymru. Gan weithio'n ddiflino ochr yn ochr â'i diweddar ŵr, Sulwyn, mae ei hymroddiad hael, di-dâl a pharhaus yn brawf o wasanaeth cwbl unigryw i'r iaith a'r genedl.
Magwyd Owen Thomas, Pen-bre, ym Mhorthtywyn a'i addysgu yn Ysgol y Strade cyn astudio yng Ngholeg Wadham, Rhydychen. Mae'n Gwnsler y Brenin ac yn fargyfreithiwr teuluol blaenllaw yn 9 Park Place, Caerdydd, gan arbenigo mewn achosion gofal plant. Ef yw'r unig KC yng Nghymru sy'n gwneud y gwaith hwn sy'n hyderus yn y Gymraeg, gan allu gweithio'n gwbl ddwyieithog. Bu'n arweinydd tîm, yn swyddog Cylchdaith Cymru a Chaer, ac mae'n aelod o Fainc Gray's Inn. Mae'n siarad yn rheolaidd mewn ysgolion am ddilyn gyrfa fel bargyfreithiwr, ac yn hyrwyddo mynediad i bobl ifanc heb gysylltiad â'r proffesiwn.
Bu Wyn Thomas, Castellnewydd Emlyn, yn athro ymarfer corff am dros 35 mlynedd yn Ysgol Maes yr Yrfa ac Ysgol Gyfun Emlyn, gan gyfoethogi ei waith drwy brofiad addysgu yng Nghanada. Gwnaeth gyfraniad eithriadol i'w gymuned fel un o sylfaenwyr Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn, cynghorydd sir, aelod o fyrddau a phaneli amrywiol, ac arweinydd mewn mudiadau diwylliannol, cymunedol ac eglwysig. Trwy gydol ei waith, mae wedi hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru gyda brwdfrydedd a chysondeb.
Mae Hubert Williams wedi ffermio ym Mhant Teg, Llangyndeyrn, ar hyd ei oes ac mae'n aelod selog o Gapel Bethel. Mae ei gyfraniad hanesyddol yn sefyll allan: ef yw'r unig aelod sydd ar ôl o'r mudiad a safodd yn llwyddiannus yn erbyn Corfforaeth Abertawe yn y 1960au, gan atal boddi Cwm Gwendraeth Fach – buddugoliaeth eiconig yn hanes Cymru. Mae'n parhau i rannu'r stori drwy areithiau a gweithgareddau ysgol, gan drosglwyddo gwers barhaol o undod, cymuned a gwrthsefyll er cof i'r genedl.
GWISG WERDD
Mae Eifion Daniels, Blaen-ffos, wedi rhoi "dou gant y cant" mewn nifer o feysydd dros y blynyddoedd: er enghraifft, fel Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Gadeiriol Crymych, fel cyn-gapten tîm Talwrn y Beca, fel awdur sioeau Aelwyd yr Urdd, ac fel sgriptiwr a chyd-gynhyrchydd gyda Chwmni Theatr Bro'r Preseli. Tra'n Brif Swyddog Gweinyddol Ysgol y Preseli, gwnaeth gyfraniadau allgyrsiol sylweddol, yn bennaf ym meysydd y Gymraeg a Chwaraeon. Pleser yw ei anrhydeddu eleni.
Brodor o ardal Llantwd – cartref yr Eisteddfod eleni – yw Ann Siriol Davies, sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i addysg a bywyd diwylliannol Cymraeg gogledd Sir Benfro. Fel athrawes gynradd a dirprwy bennaeth, ysgrifennodd gyfres Wili Sam (llyfrau i blant blynyddoedd cynnar) a bu hefyd yn allweddol mewn cydweithio clwstwr ysgolion. Yn Eisteddfodwr brwd ers ei hieuenctid, mae wedi rhagori fel cystadleuydd, hyfforddwraig, beirniad ac ysgrifennydd pwyllgorau lleol a chenedlaethol. Trwy waith diwyd gyda'r capel, Merched y Wawr, corau a mudiadau gwirfoddol, mae wedi trosglwyddo cariad at lefaru, cerddoriaeth a'r Gymraeg i genedlaethau newydd.
Magwyd Catrin Davies, Boncath, ym Mlaen-ffos ac mae wedi gwneud cyfraniad helaeth i addysg a bywyd cerddorol gogledd Sir Benfro. Yn athrawes gynradd ac uwch-arweinydd, bu'n meithrin Cymreictod a dawn gerddorol cenedlaethau o blant drwy'r Eisteddfod a'r Urdd. Fel cantores werin a cherdd-dant, mae wedi rhyddhau pedair CD, gan gynnwys yr albwm hwiangerddi, Dau Gi Bach. Trefnodd berfformiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol fel arweinydd Aelwyd Crymych. Trwy ei gwaith gwirfoddol helaeth gyda chôr, capel a gŵyl y fro, mae'n ganolog i fwrlwm diwylliannol ei hardal.
Mae'r llinell 'Gwlad beirdd a chantorion' fel petai wedi ei llunio'n arbennig ar gyfer Emyr Davies, Aber-porth. Yn gynganeddwr disglair, fei'i cyfrifir yn un o feirdd gorau ei genhedlaeth yng Nghymru. Mae wedi bod yn aelod o sawl tîm Talwrn dros y blynyddoedd. Ef a wahoddwyd i lunio Cywydd Croeso Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a bu'n un o feirniaid y Gadair yn yr eisteddfod honno. Ef yw cadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod y Garreg Las. Emyr hefyd yw arweinydd côr Ar ôl Tri, côr sydd wedi mwynhau llwyddiant cenedlaethol ar fwy nag un achlysur.
Mae Carys-Hedd yn ffigwr canolog ym mywyd diwylliannol Llandudoch ac ardal Aberteifi, gan ddod â phawb at ei gilydd drwy'r iaith a thraddodiadau Cymru. Drwy drefnu gigs bandiau Cymraeg, gweithdai canu gwerin, ac atgyfodi'r Fari Lwyd fel digwyddiad blynyddol, mae wedi cryfhau'r gymuned a diwylliant lleol. Trwy ei siop a'i phrosiectau creadigol fel Esgyn, mae'n defnyddio'i sgiliau gwnïo a gwirfoddoli i alluogi cymunedau i berchnogi ac ail-ddychmygu diwylliant Cymru mewn ffyrdd bywiog a chynhwysol.

Ers dysgu Cymraeg, mae Jo Heyde bellach yn barddoni ac yn aelod o dîm Talwrn Y Derwyddon
Mae Jo Heyde, Llundain, wedi dysgu Cymraeg ers 2018 ac wedi cyrraedd brig barddoniaeth Gymraeg. A hithau bellach yn rhannu ei hamser rhwng Dinbych-y-pysgod a swydd Hertford, mae wedi ennill sawl cadair leol, yn aelod o dîm Talwrn Y Derwyddon, ac wedi cyhoeddi cerddi, pamffled a chyfrol o farddoniaeth. Mae hefyd yn ymddiriedolwr Y Gymdeithas Gerdd Dafod, yn cydlynu 'Bardd y Mis' Radio Cymru, ac wedi golygu blodeugerdd. Mae ei hymroddiad yn deillio'n llwyr o gariad at y Gymraeg, gan ysbrydoli siaradwyr newydd a hyderus fel ei gilydd.
Anrhydeddir Jane James am ei chyfraniad eithriadol a pharhaus i fywyd diwylliannol, cerddorol a chymunedol Sir Benfro. Yn frodor o Dyddewi, mae wedi ymroi i hybu'r Gymraeg fel athrawes, arweinydd corau a chymanfaoedd, ac fel ysgrifennydd lleol yr Urdd ers 1971. Trwy gyngherddau dwyieithog, gweithgarwch eisteddfodol ac ymrwymiad cryf i elusennau lleol, mae ei gwaith wedi cryfhau Cymreictod, dwyieithrwydd a lles y sir gyfan.
Yn wreiddiol o Flaen-ffos, bu Wendy Lewis, Boncath, yn athrawes gynradd ac yn gyn-bennaeth Ysgol Gynradd Blaen-ffos. Bu'n addysgu yn yr ardal am flynyddoedd lawer cyn ymddeol. Yn gerddor a chyfeilydd medrus, mae wedi rhoi dros hanner canrif o wasanaeth fel organydd, athrawes biano a chyfeilydd i gorau a mudiadau lleol, gan gynnwys y Cylch a Chymanfa Ganu Gogledd Penfro. Mae'n ddiacon gweithgar ac yn gyfrannwr diflino i'w chapel, ei chymuned a diwylliant Cymreig ardal y Preseli.
Mae Bethan Miles, Aberystwyth, yn gerddor, cerddolegydd ac ymgyrchydd a wnaeth gyfraniad eithriadol i ddiwylliant Cymraeg a chyfiawnder cymdeithasol. Yn arbenigwr ar y crwth a cherddoriaeth cyfnod y Tuduriaid, mae ei gwaith academaidd a pherfformio wedi ysbrydoli cenedlaethau. Trwy Blas Hendre, bu'n noddwr hael i fywyd diwylliannol Aberystwyth, gan greu canolfan groesawgar ar gyfer creadigrwydd a thrafodaeth. Yn wirfoddol, mae wedi arwain ymgyrchoedd dros heddwch, hawliau dynol a gwrth-hiliaeth, gan ddefnyddio diwylliant fel grym i uno pobl.

Mae Ryland Teifi yn gerddor, actor a chyflwynydd
Daw Keri Morgan o Gwm Gwendraeth ac mae wedi ei ymgartrefu yng Nghwm Aman ers blynyddoedd, gan wneud cyfraniad eithriadol i'w gymuned a diwylliant Cymru. Yn gyn-brifathro, cyd-berchennog Siop y Cennen am gyfnod, ac aelod blaenllaw o'r byd gwerin, mae'n gerddor, bardd a pherfformiwr brwd gyda'r grŵp Jac y Do a sawl menter ddiwylliannol arall. Trwy wirfoddoli, cyfansoddi, perfformio ac arwain, mae'n gweithredu'n ddiwyd i drosglwyddo'r Gymraeg, ei llên a'i thraddodiadau gwerin i'r genhedlaeth nesaf.
Ganwyd Meinir Jones Parry, Caerfyrddin, yn Aberteifi, a'i gwreiddiau'n ddwfn ym mro'r Garreg Las. Am dros dri degawd mae wedi cyfrannu'n sylweddol at fywyd cerddorol Cymru fel cyfeilydd, beirniad ac addysgwr. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol yn ei harddegau gyda Chantorion Teifi, ac ers hynny bu'n cydweithio â phrif gorau ac unawdwyr Cymru. Yn raddedig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, bu'n bennaeth cerddoriaeth, tiwtor prifysgol, arholwr, a beirniad eisteddfodol yng Nghymru a thramor. Mae hefyd wedi cefnogi mudiadau ac achosion da yng ngorllewin Cymru drwy gynnig ei gwasanaeth fel cyfeilydd yn rhad ac am ddim.
Mae Eleri Roberts, merch fferm o Henllan Amgoed, wedi gwneud cyfraniad hirhoedlog ac amhrisiadwy i ddiwylliant cerddorol a chymunedol Cymru, yn arbennig ym maes cerdd dant. Yn raddedig yn y Gymraeg, bu'n gweithio i sefydliadau cenedlaethol allweddol gan wasanaethu'r maes llyfrau a diwylliant Cymraeg hyd at 2024. Fel gosodydd, hyfforddwraig ac arweinydd corau, mae wedi meithrin cenedlaethau o gantorion, gan sicrhau trosglwyddo'r traddodiad cerdd dant. Trwy waith gwirfoddol helaeth, hyfforddiant ac arweinyddiaeth, bu'n warchodwraig ddiwyd i'r iaith a threftadaeth gerddorol Cymru.
Mae Ryland Teifi, Ffostrasol ac Iwerddon, yn artist dawnus sydd wedi rhagori ym myd cerddoriaeth, drama a theledu Cymraeg fel canwr, actor a chyflwynydd. Yn gyfansoddwr caneuon gwreiddiol ac yn feistr ar sawl offeryn, bu'n perfformio'n lleol ac yn rhyngwladol, gan weithredu fel llysgennad dros gerddoriaeth werin Gymraeg ers mudo i Iwerddon. Yn gyn-enillydd Cân i Gymru a BAFTA Cymru, mae wedi cyfrannu'n ddiwyd at wyliau, elusennau a theatr Gymraeg, ac mae'n parhau i greu a pherfformio yn Gymraeg gyda balchder.

Roedd Gillian Elisa yn un o gast gwreiddiol Pobol y Cwm
Mae Gillian Elisa Thomas, Llanbedr Pont Steffan, yn actor, cantores a digrifwr profiadol sydd wedi cyfrannu'n helaeth at fyd adloniant yng Nghymru am dros hanner can mlynedd. Dechreuodd berfformio pan oedd yn yr ysgol, cyn mynd ymalen i hyfforddi yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. Bydd llawer yn cofio Gillian Elisa yn chwarae rhan Sabrina, yn un o gast gwreiddiol Pobol y Cwm, ochr-yn-ochr â rhai o'r mawrion fel Rachel Thomas, Harriet Lewis a Charles Williams. Mae hi'n dal i berfformio'n gyson hyd heddiw ar lwyfannau a sgriniau Cymru a Lloegr. Hi oedd mentor Ruth Jones yn y rhaglen deledu Cariad at Iaith.
Yn hanu'n wreiddiol o Landudoch, mae Jane Watts yn organydd o fri rhyngwladol sydd wedi perfformio ledled y byd. Hi oedd y Gymraes gyntaf i roi datganiad organ yn y Royal Festival Hall ac i ennill gwobr Perfformiwr y Flwyddyn Coleg Brenhinol yr Organyddion yn 1986. Yn 1991 daeth yn organydd a chyfeilydd y Bach Choir o dan Syr David Willcocks, y fenyw gyntaf i ddal y swydd. Mae'n dychwelyd i Gymru'n rheolaidd, yn cyfrannu at yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi recordio'n helaeth ac ymddangos droeon yn y Proms.
Mae Efan Miles Williams, Lledrod, yn ffigwr blaenllaw ym mywyd diwylliannol ei ardal, gan gyfuno ei rôl fel pennaeth ysgol ag arweinyddiaeth angerddol yn y gymuned. Mae'n gyfrannwr amlwg i gerddoriaeth werin a chorawl, eisteddfodau lleol a chenedlaethol, y papur bro, y capel a'r cyngor cymunedol. Trwy fenter, creadigrwydd ac ymrwymiad tawel, mae'n cysylltu'r ysgol a'r gymuned, gan wneud iaith, hanes a thraddodiadau Cymru yn fyw ac yn berthnasol i bawb.
O deithio'n eang cyn ymgartrefu yng Ngheredigion, mae angerdd Eiri Thrasher, Llandysul, dros y Gymraeg yn heintus. Ers symud i'r fro ugain mlynedd yn ôl, mae wedi ymroi i ddysgu ac ysbrydoli eraill, gan gyd-sefydlu grŵp dysgwyr CYD sy'n ffynnu'n gymdeithasol, yn ieithyddol ac yn greadigol. Trwy drafod, ysgrifennu, canu, gemau a chymdeithasu, mae'n meithrin hyder a chariad at y Gymraeg ymhlith dysgwyr o bob oed, gan gyfrannu'n sylweddol at gryfhau'r iaith a'r diwylliant.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.