Galw am 'adfer hyder' yn rôl Comisiynydd y Gymraeg a chael penodiad 'yn fuan'

Siân Howys
Disgrifiad o’r llun,

Siân Howys yw is-gadeirydd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, sy'n galw am Gomisiynydd newydd yn fuan

GanManon Wiliam
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am benodi Comisiynydd y Gymraeg newydd "yn fuan" sydd ag "ymrwymiad dwfn i hawliau" iaith, yn dilyn ymddiswyddiad Efa Gruffudd Jones.

Daeth cyhoeddiad ddydd Mawrth gan Lywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn ymddiswyddiad Efa Gruffudd Jones am "resymau personol" a'u bod yn "diolch iddi am ei holl waith".

Daeth cadarnhad hefyd fod Lowri Williams wedi ei phenodi yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae'r gymdeithas eisiau gweld Comisiynydd newydd sy'n canolbwyntio ar "reoleiddio cadarn", ymchwilio i gwynion a dwyn sefydliadau i gyfrif am eu dyletswyddau o ran y Gymraeg.

Mae'r gymdeithas hefyd yn galw am adfer annibyniaeth swyddfa'r Comisiynydd ac ymestyn safonau'r Gymraeg i fwy o sefydliadau, gan gynnwys banciau ac archfarchnadoedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod ac yn parchu annibyniaeth y rôl ar Weinidogion Cymru" a bydd "proses benodi gyhoeddus lawn ar gyfer penodi Comisiynydd newydd yn cael i chynnal cyn gynted â phosibl".

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Ymddiswyddodd Efa Gruffudd Jones fel Comisiynydd y Gymraeg am resymau personol, yn ôl Llywodraeth Cymru

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd is-gadeirydd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, Siân Howys, fod angen penodiad "trylwyr ond buan" er mwyn sicrhau sefydlogrwydd yn y swydd.

Dywedodd fod swydd y Comisiynydd yn "allweddol o ran sicrhau hawliau pobl i siarad a defnyddio'r Gymraeg, ac wrth gwrs i dderbyn gwasanaethau o safon yn y Gymraeg".

Ychwanegodd fod angen i ddisgrifiad swydd y Comisiynydd newydd osod "disgwyliadau clir" o ran "rheoleiddio cadarn a dychwelyd at ddyletswyddau craidd y swydd".

Ym mis Awst, mynegodd Cymdeithas yr Iaith bryderon am yr hyn a ddisgrifiodd fel "methiannau'r Comisiynydd i reoleiddio'n briodol", gan gynnwys y "lefel isaf erioed o ymchwiliadau i gwynion" a phryderon am annibyniaeth y swyddfa.

Disgrifiad,

"Gwbl angenrheidiol gweld penodiad llawn a buan" yn ôl Cymdeithas yr Iaith

Dywedodd Siân Howys hefyd fod angen i'r Comisiynydd newydd fod yn "feiddgar ac yn uchelgeisiol" er mwyn helpu i "fynd i'r afael â'r anawsterau ni'n profi o ddydd i ddydd ynglŷn â diffyg statws y Gymraeg a'r angen i ymestyn cyrhaeddiad y safonau".

"Mae'r Gymraeg mewn argyfwng, yndydi? Felly, rydyn ni angen gallu sicrhau'r holl bethau angenrheidiol yma i droi'r llanw - addysg Gymraeg i bob plentyn, ac yn y blaen."

Croesawodd Cymdeithas yr Iaith benodi Lowri Williams yn Ddirprwy Gomisiynydd, ond dywedodd y gymdeithas fod angen penodi Comisiynydd parhaol yn fuan er mwyn "adfer hyder" yn y swyddogaeth reoleiddiol, "gan ail-sefydlu annibyniaeth y Comisiynydd."

Aeth Siân Howys ymlaen i ddweud fod y gymdeithas yn credu mai cyfrifoldeb y Comisiynydd yw rheoleiddio ac ymchwilio i gwynion am wasanaethau Cymraeg, gan fod "yn gadarn ar y cyrff a'r sefydliadau eu hunain, nid ar unigolion i ddefnyddio'r Gymraeg."

Yn ôl Siân, dim ond cyfran o'r cwynion a gyflwynwyd oedd yn cael eu hymchwilio.

"Gwelon ni gwymp yn yr ymchwilio i bron i chwarter yn unig o gwynion yn cael eu cyflwyno yn cael eu hymchwilio iddyn nhw a diffyg dilyniant ar gamau gweithredu.

"Fe gyflwynon ni gwynion am fod pobl yn cwyno i ni."

Dywedodd fod y gymdeithas am weld Comisiynydd sydd â hanes cryf o "sefyll gyda phobl yn hytrach na sefydliadau."

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gyfnod newydd nawr gyda llechen lan ac rydyn ni'n gosod y disgwyliadau'n glir ynglŷn â rhywun sydd yn medru bod yn bencampwr neu'n bencampwraig dros y Gymraeg a phobl Cymru, ac sydd yn mynd i fod yn heriol gyda'r sefydliadau."

'Angen adfer hyder yn y rôl'

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn galw am ymestyn safonau'r Gymraeg i fwy o feysydd, gan gynnwys banciau, archfarchnadoedd a meysydd parcio preifat.

Yn eu datganiad, dywedodd y gymdeithas fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud "addewidion uchelgeisiol i ehangu a chryfhau hawliau" iaith.

Ychwanegodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith, fod angen Comisiynydd sy'n barod i ddefnyddio pwerau'r gyfraith er mwyn sicrhau bod sefydliadau'n cyflawni eu dyletswyddau o ran y Gymraeg.

"Rhaid cael Comisiynydd sy'n barod i fynd â'r sefydliad yn ôl at ei swyddogaeth graidd o sefyll dros hawliau i'r Gymraeg.

"Mae angen penodiad Comisiynydd parhaol fydd yn adfer hyder yn y rôl fel rheoleiddiwr difrifol, annibynnol - rhywun sydd â'r awch a'r ymrwymiad i arfer grym y gyfraith er lles y Gymraeg."ei bod yn "gwbl ymrwymedig" i ddiogelu hawliau siaradwyr Cymraeg.

Yn ôl ym mis Awst pan gododd Cymdeithas yr Iaith bryderon fe ddywedodd Comisiynydd y Gymraeg nad yw'r dystiolaeth yn cefnogi'r awgrym eu bod yn llai parod i ymchwilio i gwynion.

"Ers mis Tachwedd mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno 76 o gwynion at fy sylw, a dim ond chwech o'r rheiny sydd wedi arwain at benderfyniad i beidio ag ymchwilio," meddai Efa Gruffudd Jones ar y pryd.

Dywedodd ei bod yn "gwbl ymrwymedig i barhau i ddefnyddio pob un o'r pwerau sydd ar gael imi i ddiogelu hawliau siaradwyr Cymraeg".

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg rôl bwysig i hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg, gan gynnwys rheoleiddio cydymffurfiaeth â dyletswyddau statudol, a diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg.

"Rydym yn cydnabod ac yn parchu annibyniaeth y rôl ar Weinidogion Cymru. Mae'r annibyniaeth honno'n egwyddor bwysig er mwyn galluogi'r Comisiynydd i arfer ei swyddogaethau statudol yn effeithiol.

"Bydd proses benodi gyhoeddus lawn ar gyfer penodi Comisiynydd newydd yn cael i chynnal cyn gynted â phosibl."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.