Efa Gruffudd Jones yn ymddiswyddo o'i rôl fel Comisiynydd y Gymraeg

Efa Gruffudd jones
GanLlion Higham
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Efa Gruffudd Jones yn ymddiswyddo o'i rôl fel Comisiynydd y Gymraeg am "resymau personol" yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mewn datganiad dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei fod wedi derbyn ei hymddiswyddiad ac yn "diolch iddi am ei holl waith".

Cafodd ei phenodi ddiwedd 2022, gan ddechrau ar y swydd yn Ionawr 2023 fel olynydd i'r diweddar Aled Roberts.

Ar y pryd dywedodd ei bod yn "fraint" cael y swydd, ac mai ei dymuniad oedd "gweld Cymru lle mae pobl yn gallu mwynhau defnyddio'r Gymraeg bob dydd".

Daeth swydd y comisiynydd i fodolaeth drwy Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Nod y swydd yw "hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg" yn ôl eu gwefan, sy'n nodi uchelgais bod Cymru'n "wlad lle gall pobl fyw eu bywydau yn Gymraeg".

Yn wreiddiol o Dreforys, roedd Jones yn brif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac Urdd Gobaith Cymru cyn cael swydd y comisiynydd.

Yn y datganiad gan Lywodraeth Cymru dywedodd Mr ap Iorwerth y "bydd proses benodi gyhoeddus lawn yn awr yn cael ei chynnal ar gyfer penodi Comisiynydd newydd".

Does dim sôn am y dirprwy gomisiynydd presennol yn natganiad y llywodraeth ond mae "Ms Gruffudd Jones wedi penodi Lowri Williams yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, a fydd felly yn arfer swyddogaethau'r Comisiynydd hyd nes bydd y broses benodi wedi dod i ben".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.