Anrhydeddu yr arwres hel arian cinio ddiwedd y miswedi ei gyhoeddi 15:48 GMT+1
Ffynhonnell y llun, Llun teuluCafodd Nansi Williams ei lladd pan gwympodd tomen o wastraff lo ar Ysgol Pantglas a'r cartrefi cyfagos ar 21 Hydref 1966
Bydd menyw a fu farw wrth achub plant yn ystod trychineb Aberfan yn cael ei hanrhydeddu â phlac porffor i gydnabod ei dewrder, 60 mlynedd ers y trychineb.
Cafodd Nansi Williams ei lladd pan gwympodd tomen o wastraff lo ar Ysgol Pantglas a'r cartrefi cyfagos ar 21 Hydref 1966.
Dywedodd Paul Harries, sydd wedi siarad am y tro cyntaf am ei brofiad, iddo ef a phedwar o blant eraill gael eu hachub gan Nansi a'i bod hi yn "arwres".
Bydd cofeb sy'n cydnabod ei dewrder yn cael ei dadorchuddio yn Aberfan ddiwedd y mis.

Am y tro cyntaf erioed, mae Paul Harries wedi dewis siarad am ei brofiad yn nhrychineb Aberfan er mwyn talu teyrnged i ddwerder Nansi Williams
Ymhlith y rhai oedd yn yr ysgol y bore hwnnw roedd Nansi Williams, 44, a oedd yn casglu arian cinio gan y disgyblion.
"Pe na bai Nansi Williams wedi bod yno, yn lle i 116 o blant farw y bore hwnnw, fe fyddai 121 wedi marw," meddai Paul Harries.
Dywedodd Mr Harries, sydd bellach yn 66 oed, iddo erioed siarad â'r cyfryngau am ei brofiad o'r drychineb o'r blaen.
"Yr unig reswm rwy'n siarad am yr hyn digwyddodd nawr yw bod angen adrodd stori Nansi a chydnabod yr hyn a wnaeth hi," meddai.
Y bore hwnnw, roedd Mr Harries wedi cerdded o'r ysgol fabanod i neuadd yr ysgol iau i dalu swllt am ei ginio ysgol.
Roedd ef a phedwar plentyn arall gyda Nansi, a oedd yn casglu'r arian cinio.
"Ni chafodd yr ysgol fabanod ei tharo o gwbl gan y tomenni," meddai.
Ond gan bod y plant wedi gorfod teithio i neuadd yr ysgol i dalu'r arian cinio, roedd y pump yng nghanol y dinistr.
Dywedodd Mr Harries na allai gofio'r eiliad pan gwympodd yr adeilad o'u cwmpas.
"Rwy'n cofio cael fy nghodi o'r rwbel," meddai.
"Cefais fy rhuthro'n syth i'r ysbyty gyda'r pedwar plentyn arall a oedd wedi'u claddu gyda mi."
Dim ond yn ddiweddarach y dysgodd beth oedd Nansi wedi'i wneud, wrth i'w fam a'i dad adrodd y stori.
"Dywedon nhw, 'Bu farw [Nansi] wrth amddiffyn y pump ohonoch chi'."



























