Cymdeithas yr Iaith yn galw am adolygu gwaith Comisiynydd y Gymraeg

Siân Howys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Siân Howys fod Cymdeithas yr Iaith yn galw am adolygiad o waith Comisiynydd y Gymraeg

GanGarry Owen
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn gofyn am adolygiad o waith Comisiynydd y Gymraeg.

Mae'r mudiad yn dweud bod y comisiynydd yn "gweithredu yn groes i'w phrif nod statudol".

Mae hyn yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan y gymdeithas, sydd yn ôl datganiad gan y mudiad yn dangos bod y cyn-brif weinidog Mark Drakeford wedi gorfod gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ddefnyddio'r gair "hawl" yn ei pholisi rheoleiddio.

Dywed y comisiynydd, Efa Gruffudd Jones, ei bod yn "gwbl ymrwymedig" i ddiogelu hawliau siaradwyr Cymraeg.

'Syndod a siom'

Dywedodd Sian Howys, is-gadeirydd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, ei bod wedi "synnu a siomi'n fawr bod gweinidog Llafur wedi gorfod dweud wrth y comisiynydd y dylai sôn am hawliau i'r Gymraeg".

Mae'r mudiad yn rhestru nifer o bryderon am y ffordd mae'r comisiynydd presennol yn ymgymryd â'i rôl, gan gynnwys yr hyn mae'n ei ddisgrifio fel "methiant i ymchwilio i fwyafrif helaeth y cwynion dilys a gyflwynwyd".

Efa Gruffudd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Efa Gruffudd Jones ar ei gwaith fel Comisiynydd y Gymraeg yn Ionawr 2023

Yn ôl y mudiad, gostyngodd canran yr ymchwiliadau i'w lefel isaf erioed yn 2024-25, sef 26%.

Mewn ymateb, dywedodd Efa Gruffudd Jones nad yw'r dystiolaeth yn cefnogi'r awgrym ei bod yn llai parod i ymchwilio i gwynion.

"Ers mis Tachwedd mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno 76 o gwynion at fy sylw, a dim ond chwech o'r rheiny sydd wedi arwain at benderfyniad i beidio ag ymchwilio," meddai.

Dywedodd ei bod yn "gwbl ymrwymedig i barhau i ddefnyddio pob un o'r pwerau sydd ar gael imi i ddiogelu hawliau siaradwyr Cymraeg.

"Dyna fu ffocws fy ngwaith hyd yma, a dyna fydd fy ffocws hyd ddiwedd fy nhymor fel comisiynydd."

Ychwanegodd nad ymchwilio i gwynion yn unig yw gwaith y comisiynydd, gan nodi ei bod wedi cyhoeddi adroddiad pum mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg, rhoi cyngor statudol i weinidogion, paratoi Safonau'r Gymraeg ar gyfer cymdeithasau tai, a chynnal ymgyrch genedlaethol i gryfhau gwasanaethau Cymraeg.

'Anfodlon iawn'

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod y comisiynydd wedi gwanhau ffocws rheoleiddiol ei swydd.

"Rydym yn anfodlon iawn â'r diffyg pwyslais gan y comisiynydd ar sicrhau hawliau iaith Gymraeg," meddai'r mudiad.

"Allwn ni ddim troi'r llanw o blaid y Gymraeg gydag ymddygiad fel hyn gan Gomisiynydd y Gymraeg."

Mae'r comisiynydd yn gwrthod hynny.

Llywodraeth CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "diogelu a chryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg yn flaenoriaeth"

Dywedodd y comisiynydd hefyd nad ei rôl yw "mabwysiadu safbwyntiau unrhyw fudiad ymgyrchu, nac unrhyw lywodraeth", ond gweithredu "yn unol â'r gyfraith a'r dyletswyddau a roddwyd i mi gan y Senedd".

"Mae'r egwyddor o hawliau iaith eisoes wedi'i gosod yn glir yn y Mesur.

"Fodd bynnag, mae'r hawliau iaith hynny yn cael eu gwireddu nid yn unig drwy eu datgan, ond drwy sicrhau bod sefydliadau'n newid eu hymddygiad.

"Dyna sut y daw hawliau yn realiti i ddefnyddwyr y Gymraeg."

'Hybu, hwyluso a rheoleiddio'

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod "diogelu a chryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg yn flaenoriaeth i ni.

"Mae gan y comisiynydd rôl bwysig i hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg, ac i reoleiddio cydymffurfiaeth â dyletswyddau statudol, sy'n cynnwys defnyddio ei phwerau gorfodi yn llawn pan fo angen hynny.

"Ein nod yw cydweithio'n adeiladol â'r comisiynydd er lles siaradwyr Cymraeg."

Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd, bydd y comisiynydd yn cynnal digwyddiad yn edrych yn ôl ar 10 mlynedd ers cyflwyno Safonau'r Gymraeg.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, mae'r safonau wedi trawsnewid y ddarpariaeth Gymraeg a helpu i sicrhau mwy o gysondeb gan roi hawliau cliriach.

Ond mae hi'n poeni bod "rhai o'r gwasanaethau pwysicaf y mae pobl yn eu defnyddio o ddydd i ddydd, gan gynnwys gwasanaethau'r Adran Gwaith a Phensiynau, a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi, yn parhau y tu allan i'r drefn".

Mae Efa Gruffudd Jones yn galw ar Lywodraeth Cymru i "weithredu ar ei hymrwymiad i ymestyn cwmpas y safonau i ragor o sefydliadau a sectorau".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.