Galw am foratoriwm ar gau ysgolion Cymraeg yn 'un o gadarnleoedd' yr iaith

- Cyhoeddwyd
Mewn llythyr at lywodraeth Cymru, mae cadeiryddion tair ysgol gynradd yng Nghwm Gwendraeth sydd dan fygythiad wedi cyhuddo Cyngor Sir Gar o "daflu tanwydd pellach ar goelcerth sydd eisoes yn llosgi tu hwnt i reolaeth" wrth i gymunedau Cymraeg grebachu.
Mae ysgolion Pontiets, Bancffosfelen a Charwe yn wynebu ymgynghoriad posib ar eu dyfodol, ynghyd ag ysgol Blaenau ger Llandybie.
Yn eu llythyr at yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Addysg, Anna Brychan, mae llywodraethwyr y tair ysgol yng Nghwm Gwendraeth yn galw am "foratoriwm ar gau unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg" am y tro a gwrthod y syniad o gau ysgolion "yn un o gadarnleoedd y Gymraeg".
Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod eu rhaglen Moderneiddio Addysg yn canolbwyntio ar sicrhau bod y ddarpariaeth addysg yn Sir Gaerfyrddin yn gynaliadwy, yn effeithiol ac yn gallu diwallu anghenion dysgwyr cenedlaethau'r dyfodol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru: "Ni all Gweinidogion Cymru wneud sylw ar gynigion ad-drefnu ysgolion gan y gallai fod yn ofynnol iddynt wneud penderfyniad arnynt."

Dywedodd y llywodraethwyr fod cadw ysgolion cyfrwng Cymraeg Cwm Gwendraeth yn bwysig er "parhad yr iaith yn genedlaethol"
Yn eu llythyr at yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Anna Brychan, mae cadeiryddion y tair ysgol, Andrew Barlow, Elin Cullen a Tudur Jones, yn galw am "foratoriwm ar gau unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg" am y tro.
Maen nhw'n dweud bod angen i Lywodraeth Cymru roi argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar waith, "gyda'r bwriad canolog a thymor hir o sicrhau dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol."
Yn ôl y llythyr, mae Cwm Gwendraeth yn bwysig nid yn unig i hunaniaeth Gymraeg Sir Gaerfyrddin, ond hefyd i "barhad yr iaith yn genedlaethol", fel "un o gadarnleoedd y Gymraeg."
"Mae polisi Sir Gâr yn taflu tanwydd pellach ar goelcerth sydd eisoes yn llosgi tu hwnt i reolaeth, ac mae angen ymyrraeth frys rhag inni weld y cyfan yn mynd yn ulw," meddai'r llywodraethwyr.

Mae 48 o ddisgyblion yn Ysgol Bancffosfelen, sydd â chapasiti ar gyfer 98 o blant, ac mae pryderon am gyflwr rhai o adeiladau'r ysgol
Yn ôl dogfennau ymgynghorol y Cyngor ar yr ysgolion, mae 48 o ddisgyblion yn Ysgol Bancffosfelen, ond mae 41 o ddisgyblion sydd yn byw yn yr ardal yn mynychu ysgolion tu allan i'r dalgylch.
Mae plant Ysgol Carwe wedi gorfod symud i Ysgol Gwynfryn dros dro, oherwydd cyflwr yr adeilad.
Yn ôl y cyngor, mae yna 58 o ddisgyblion ond mae 120 yn dewis mynychu ysgolion tu allan i'r dalgylch. Mae yna 50.8% o lefydd gwag.
Yn Ysgol Pontiets, roedd yna 21 ar y gofrestr yn ol cofnodion diweddaraf PLASC, ond mae 38 sydd yn byw yn y dalgylch yn mynychu ysgolion eraill.

Mae gan Ysgol Pontiets 16 o ddisgyblion, er bod lle i 83 yn yr ysgol, ac mae ganddi ddiffyg ariannol o £80,469
Yn eu llythyr at Anna Brychan, mae Andrew Barlow, Elin Cullen a Tudur Jones yn dweud bod "polisi Sir Gâr yn taflu tanwydd pellach ar goelcerth sydd eisoes yn llosgi tu hwnt i reolaeth, ac mae angen ymyrraeth frys rhag inni weld y cyfan yn mynd yn ulw."
Yn benodol, maen nhw yn cyfeirio at "bwysigrwydd Cwm Gwendraeth, nid yn unig i Gymreictod y Sir, ond i barhad yr iaith yn genedlaethol" ac yn "erfyn arnoch i osod moratoriwm ar gau unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg, tan eich bod chi a'r cabinet wedi rhoi ar waith yr egwyddorion yr ydych wedi ymrwymo iddyn fel llywodraeth, ar sail argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg."
Yn y llythyr, maen nhw yn galw ar aelodau'r cabinet i "weithredu argymhellion y Comisiwn (Cymunedau Cymraeg)" yn ddi-oed "gyda'r bwriad canolog a thymor hir o sicrhau dyfodol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol."
Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod hi'n bwysig "ystyried sut mae ein hysgolion wedi'u trefnu i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn parhau i gefnogi disgyblion, staff a chymunedau ledled y sir" wrth i'r awdurdod wynebu heriau sy'n cynnwys "ysgolion sy'n gweithredu gyda nifer y disgyblion yn llawer is na'u capasiti a sefyllfaoedd ariannol anghynaliadwy."

Mae Elin Cullen yn rhybuddio y byddai cau Ysgol Pontiets yn cael effaith ddifrifol ar y Gymraeg yn yr ardal
Dywedodd Elin Cullen, un o lofnodwyr y llythyr, y byddai cau Ysgol Pontiets yn cael "effaith ofnadwy ar yr iaith Gymraeg" yn yr ardal.
"Efallai bod lle i ysgolion mawr mewn trefi, ond so ni moyn colli beth sydd gyda ni ym Mhontiets ac ym Mancffosfelen a hefyd yng Ngharwe," meddai.
"Unwaith chi'n colli ysgol, deiff hi byth nôl," ychwanegodd, gan ofyn, "beth sydd o'n blaen ni yn y dyfodol?
"Oes rhagor o ysgolion yn mynd i gau? A oes rhagor o bentrefi yn mynd i fod yn yr un sefyllfa â ni yng Nghwm Gwendraeth?"

Mae Meirion Prys Jones yn dweud nad yw cau neu uno ysgolion bach o reidrwydd yn gwanhau'r Gymraeg
Dywedodd cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, nad yw'n wir o reidrwydd y byddai cau ysgolion bach yn arwain at ddirywiad yn y Gymraeg.
Dywedodd fod enghreifftiau mewn rhannau eraill o Gymru lle'r oedd uno ysgolion "wedi arwain at gryfhau'r Gymraeg", gan ychwanegu bod plant "di-Gymraeg yn dod i'r ysgolion yn cael eu hintegreiddio yn effeithiol iawn mewn i ysgolion mwy o faint".
Fodd bynnag, dywedodd fod Cwm Gwendraeth yn ardal "ofnadwy o bwysig o ran y Gymraeg", gan ei bod "ar y ffin ieithyddol".
"Mae'r Gymraeg yn edwino tua'r gorllewin, ac ar hyn o bryd, mae hynny'n digwydd yng Nghwm Gwendraeth."
Awgrymodd y gallai ysgolion mwy, gyda mwy o adnoddau a chyfleoedd i ddisgyblion, helpu i ddiogelu'r Gymraeg, yn hytrach na "chynnal yr hyn sydd yna ar hyn o bryd."

Mae John Davies, cyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro, yn dweud mai'r gymuned sy'n cynnal ysgol, ac nid i'r gwrthwyneb
Mae John Davies, a fu'n arweinydd Cyngor Sir Penfro pan gaewyd ysgolion Blaenffos a Hermon er mwyn creu ysgol ardal yng Nghrymych, yn dweud bod angen "arweiniad cenedlaethol" wrth i niferoedd disgyblion ostwng.
"Dyw hi ddim lan i ysgolion i gynnal cymuned, mae hi lan i gymuned i gynnal ysgolion.
"Os nad yw'r plant yna does yna ddim opsiwn gyda chi."
Dywedodd fod gan gynghorwyr ac aelodau'r Senedd ddyletswydd i wneud penderfyniadau anodd am ddyfodol ysgolion, a bod "addysg plentyn yn dod yn gyntaf", er ei fod yn "deall pryder cymunedau, a'u gofid a'u poen".
'Dim rheswm i oedi'
Dywedodd Dr Huw Williams, rhiant a llywodraethwr yn Ysgol Pontiets, mai'r gostyngiad yn niferoedd y disgyblion yw'r "union reswm" dros alw am foratoriwm ar gau ysgolion.
Mae'n dweud bod angen "gweithredu yn fuan" er mwyn rhoi "egwyddorion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar waith" a datblygu "moratoriwm cenedlaethol" ar gyfer dyfodol ysgolion.
"Mae hynny yn rhywbeth sydd wedi bod yn addewid ers y llywodraeth ddiwethaf - does yna ddim rheswm i oedi."
Dywedodd hefyd fod y llywodraeth bresennol wedi cael cyfle i weithredu ar addewidion blaenorol ynghylch argymhellion y Comisiwn.

Mae adeilad Ysgol Carwe wedi bod ar gau ers Medi 2025
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ni all Gweinidogion Cymru wneud sylw ar gynigion ad-drefnu ysgolion gan y gallai fod yn ofynnol iddynt wneud penderfyniad arnynt.
"Mater i awdurdodau lleol yw cynllunio lleoedd mewn ysgolion. Rhaid ystyried yn ofalus unrhyw gynigion sy'n effeithio ar ysgolion gwledig, gan roi sylw llawn i'w heffaith addysgol, ieithyddol a chymunedol."
Mae Plaid Cymru wedi gwrthod sawl cais am gyfweliad gyda'r tri aelod sydd yn cynrychioli sedd Caerfyrddin.
Mae yna 3500 o lefydd gwag yn ysgolion Sir Gâr ac mi allai diffyg ariannol yr ysgolion gyrraedd cyfanswm o £16.4m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru y byddan nhw'n "adolygu" trefniadau Cyngor Sir Gar o oruchwylio cyllidebau ysgolion yn sgil y gorwario ac y byddan nhw yn cyflwyno adroddiad i'r cyngor yn y Gwanwyn blwyddyn nesaf.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan Newyddion S4C, cadarnhaodd y Swyddfa bod y gwaith yma yn ymwneud yn benodol gyda Sir Gâr yn sgil y "risg" sydd i'r cyngor sydd yn ymwneud â chyllidebau ysgolion.
Fe fydd Pwyllgor Craffu Addysg Sir Gâr yn cwrdd fore Gwener i drafod dogfen ymgynghorol ddiwygiedig sydd yn trafod cau Ysgol Bancffosfelen, ar ôl i'r cynghorydd lleol, Liam Bowen, ofyn i swyddogion ddiweddaru'r wybodaeth ynddi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref

- Cyhoeddwyd12 Hydref

- Cyhoeddwyd9 Hydref
