Meigryn cronig: O'n i'n teimlo'n anobeithiol, dywedodd meddyg mod i'n ddramatig

Dywedodd meddyg bod Lauren yn bod yn "ddramatig" pan soniodd am effaith difrifol meigryn arni
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi son am sut mae byw gyda meigryn cronig wedi cael effaith mor ddifrifol ar ei hiechyd meddwl nes iddi deimlo ar un adeg nad oedd hi eisiau byw yn rhagor.
Mae Lauren Evans, 29 o Abertawe, yn dweud bod diffyg cefnogaeth gan y gwasanaeth iechyd wedi gwneud iddi deimlo'n anobeithiol wrth geisio ymdopi â meigryn cronig.
Pan ddywedodd wrth feddyg ei bod yn teimlo'n isel ofnadwy oherwydd poen annioddefol, dywedodd y meddyg wrthi ei bod yn bod yn "ddramatig".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio i wella mynediad at wasanaethau niwrolegol ledled Cymru.

Roedd Lauren yn saith oed pan gafodd feigryn am y tro cyntaf
Roedd Lauren yn saith oed pan gafodd feigryn am y tro cyntaf, gan ddechrau eu cael nhw'n rheolaidd.
Ond pan oedd hi'n 24 oed, aeth y cyflwr yn gronig, gan olygu ei bod yn dioddef o feigryn bob dydd.
"Roeddwn i'n deffro bob dydd naill ai mewn poen neu'n poeni pryd y byddai'r boen yn dechrau," meddai.
Treuliodd lawer o amser yn ymchwilio i' achos ei meigryn, gan wario cannoedd o bunnoedd ar wahanol driniaethau, o fitaminau i driniaethau ceiropracteg, yn y gobaith y byddai rhywbeth yn helpu.
Yn ôl y GIG, mae triniaethau ar gael i helpu pobl i reoli symptomau meigryn.

Dywedodd Lauren ei bod wedi ysgrifennu nodyn at ei theulu yn dweud nad oedd hi'n gallu byw gyda'r boen bellach
Roedd Lauren yn hyfforddi i fod yn wyddonydd biofeddygol, ond roedd goleuadau llachar ac amgylchedd prysur Ysbyty Singleton yn Abertawe yn golygu ei bod yn dioddef o feigryn bob dydd.
Dywedodd ei bod yn aml yn teimlo nad oedd rhai o'i chydweithwyr yn ei chymryd o ddifrif, gyda rhai hyd yn oed yn awgrymu ei bod yn ffugio ei chyflwr.
Er ei bod yn ffodus bod ei rheolwr yn gefnogol, a bod rhai cydweithwyr yn fodlon diffodd y goleuadau i'w helpu, dywedodd fod eraill yn gwneud sylwadau cas.
"Roedd rhai'n dweud, os nad o' chi'n gallu cymryd gwyliau, i ddweud bod gennych chi feigryn a pheidio dod i'r gwaith.
"Doedd hynny ddim yn wir o gwbl. Felly, roeddech chi'n brwydro nid yn unig gyda'ch iechyd corfforol, ond gyda'r holl effaith ar eich iechyd meddwl hefyd."
'Doeddwn i ddim yn gallu byw gyda'r boen'
Dywedodd Lauren na fyddai byth yn gweithio pe bai'n mynd adref bob tro roedd meigryn yn dechrau.
"Doedd dim un diwrnod heb boen, ac os oedd diwrnod yn dechrau heb boen, roeddwn i'n aros iddo ddechrau."
Er mwyn ceisio rheoli ei symptomau newidiodd Lauren ei horiau gwaith, gan ddechrau am 08:00 a gorffen am 16:00 fel y gallai gyrraedd adref i gymryd ei meddyginiaeth.
"Hyd yn oed wedyn, roeddwn i mewn poen annioddefol," meddai.
"Doeddwn i ddim yn gallu gwneud cynlluniau oherwydd roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n dioddef yn y nos. Roeddwn i'n treulio fy mhenwythnosau yn gwella."
Dywedodd fod y salwch hefyd wedi effeithio ar ei pherthynas, a wnaeth arwain iddi deimlo'n unig.

Pan mae meigryn yn effeithio ar Lauren, dywedodd bod un llygad yn cau'n rhannol, ac yn chwyddo
Roedd yn "gyfnod tywyll" meddai Lauren, gan gyrraedd pwynt o feddwl: "Alla i ddim gwneud hyn am flwyddyn arall."
Aeth Lauren yn ôl at ei meddyg teulu i geisio dod o hyd i driniaeth arall.
"Roeddwn i'n dweud fy mod i wedi rhoi cynnig ar gymaint o bethau. Oedd unrhyw beth arall i drial?
"Dywedais wrthi fy mod i'n dechrau teimlo'n hunanladdol, ac alla i byth anghofio'r geiriau ddaeth allan o'i cheg, oherwydd dechreuais i grio ar unwaith.
"Dywedodd hi: 'Mae hynny'n swnio braidd yn ddramatig, on'd yw e?'"
Dywedodd Lauren ei bod wedi ysgrifennu nodyn at ei theulu yn dweud nad oedd hi'n gallu byw gyda'r boen bellach.
Cafodd ei chyfeirio at niwrolegydd, ond bedair blynedd yn ddiweddarach, mae Lauren yn dweud ei bod dal yn aros am apwyntiad.
Yn hytrach, mae'n derbyn llythyrau ac yn gorfod trafod y cynnwys gyda'i meddyg teulu.

Ers newid ei gyrfa, mae Lauren yn dweud bod ei bywyd yn hollol wahanol
"Yn y diwedd, fe gyrhaeddais i bwynt isel iawn a bu'n rhaid i mi weld y tîm argyfwng," meddai Lauren.
Cafodd ei rhoi ar absenoldeb salwch am fis, ac yn raddol dechreuodd sylwi bod ei meigryn yn gwella.
Penderfynodd ei bod hi'n bryd gadael ei gyrfa fel gwyddonydd biofeddygol. Mae hi bellach yn gweithio i gwmni yswiriant ac yn dweud ei bod yn teimlo fel person gwahanol wrth i symptomau ei meigryn dod yn llai a llai amlwg.
"Dwi erioed wedi gwneud cymaint o hobïau yn fy mywyd," meddai.
Mae hi bellach yn mwynhau gwneud gemwaith a phaentio, ac mae'n bwriadu rhedeg 50 cilometr ym mis Medi er budd elusen.
Er bod ei meddyginiaeth newydd yn gweithio'n dda, mae hi'n dal i boeni am y dyfodol.
"Pe bai pethau'n mynd yn ddrwg eto, dwi wir ddim yn gwybod at bwy y byddwn i'n troi."
Gwrthododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wneud sylw.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng meigryn a chur pen?
Mae profiadau fel rhai Lauren yn llawer rhy gyffredin, yn ôl Dr Katy Munro, meddyg teulu sy'n arbenigo mewn cur pen yng Nghanolfan Genedlaethol Meigryn, ac sy'n cyflwyno'r podlediad Heads Up.
"Rydyn ni'n ceisio cael gwared ar y rhagdybiaeth mai cur pen drwg iawn yn unig yw meigryn", meddai.
Yn ôl Dr Munro, mae cur pen yn un symptom o feigryn, ond gall pobl hefyd brofi symptomau fel aflonyddwch gweledol, chwydu, diffyg teimlad, poen yn yr abdomen a phendro.
Meigryn: Croesawu cymorth drwy gyffur newydd
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2024
Meddygon yn dweud 'mae'r cyfan yn dy ben' er poen cyson
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2025
Mae difrifoldeb y cyflwr hefyd yn amrywio o berson i berson. Gall rhai pobl brofi meigryn yn llai aml, tra bod eraill yn dioddef o feigryn cronig, sy'n golygu eu bod yn dioddef o leiaf 15 diwrnod y mis, gyda symptomau meigryn ar o leiaf wyth o'r diwrnodau hynny.
Dywedodd hefyd bod symptomau yn gallu dod yn amlach os nad yw pobl yn cael triniaeth effeithiol.
"Os ydych chi'n cael meigryn ac yn goddef y boen, ac yna'n cael un arall ac yn ei ddioddef eto, mae eich ymennydd yn mynd yn fwy sensitif," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod yr effaith y gall meigryn ei gael ar fywydau pobl, a bod canllawiau ar gael i helpu staff y GIG i wneud diagnosis a rheoli cyflyrau gan gynnwys meigryn.
Cysylltwyd â Llywodraeth y DU am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.