Colli rhaglen Dros Ginio a hefyd Dros Frecwast ar foreau Sadwrn 'yn ergyd drom'

Radio Cymru
GanJacob Morris
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae Newyddion S4C yn deall y bydd rhaglenni Dros Ginio a Dros Frecwast ar foreau Sadwrn yn diflannu o Radio Cymru.

Mae'n debyg hefyd y gallai fod diswyddiadau gorfodol o fewn BBC Cymru.

Fe fyddai'n "ergyd drom" i'r Gymraeg golli rhaglenni sy'n trin a thrafod materion cyfoes, yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Doedd BBC Cymru ddim am gadarnhau na gwneud sylw ar y mater heddiw.

'Yn dyngedfennol i'r iaith'

"Mae hyn yn ergyd drom i ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru," meddai Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

"Mae'r cyfleoedd i drin a thrafod materion cyfoes yn mynd yn brin fel maen nhw, heb sôn amdanyn nhw drwy'r Gymraeg."

"Fe fyddai colli'r ddwy raglen yma, os mai dyma ddechrau ar y broses yma, yn dyngedfennol i'r iaith, ac fe fyddwn yn poeni'n fawr y gall rhaglenni eraill gael eu torri dros y blynyddoedd nesa' 'ma."

Yn ôl cyn-Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, mae'n "bwysig ein bod yn gallu siarad gyda'n gilydd fel Cymry ac fel Cymry Cymraeg".

"Os nad yw'r BBC yn gallu darlledu yn ein dwy iaith genedlaethol ni, wel beth yw pwynt y BBC?"

Yn ôl y darlledwr a'r darlithydd newyddiaduraeth, Gwenfair Griffith, mae'r gynulleidfa yn gweld "colli rhaglenni o safon".

"Ma' hyn yn dod, os y' chi'n meddwl am y cyd-destun, wedi blynyddoedd o doriadau; ni 'di colli Taro'r Post yn barod, colli Manylu, colli llawer o newyddiaduraeth yn barod," meddai.

"Ni wedi gweld effaith colli rhaglen Bore Sul ar ddydd Sul, mae'r gynulleidfa yn gweld colled rhaglenni o safon ar Radio Cymru a dyw hyn ddim yn newyddion da i newyddiaduraeth Gymraeg."

Mae Newyddion S4C yn deall i staff gael gwybod mewn cyfarfodydd gyda rheolwyr ddydd Mercher y byddai diswyddiadau gorfodol.

Ar draws y gorfforaeth, mae'n rhaid gwneud toriadau o ryw 2,000 o swyddi dros y blynyddoedd nesaf.

O ran BBC Cymru, mae'n debyg bod angen arbed rhyw £9 miliwn, gyda tharged o gael gwared ar 50 o swyddi.

Yn gynharach eleni, fe ddywedodd BBC Cymru y byddai cyfle i staff gymryd diswyddiad gwirfoddol, ac mae'n debyg i nifer fanteisio ar hynny.

Doedd BBC Cymru ddim am wneud sylw ar hynny.

Mae Llywodraeth y DU yn arwain Adolygiad Siarter Frenhinol y BBC 2025–27, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a fydd yn pennu cylch gwaith, trefniadau llywodraethu a threfniadau cyllido'r BBC o 2028 ymlaen.

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C ei bod "mewn cysylltiad â'r BBC i drafod yr heriau parhaus" ac yn "gweithio'n agos gyda nhw i geisio lleihau'r effaith ar gynulleidfaoedd a'r sector yng Nghymru".

Fe ychwanegon nhw: "O ystyried yr effaith ar wasanaethau yng Nghymru, mae'n amlwg bod yn rhaid i Gymru bellach gael llais yn y penderfyniadau a fydd yn effeithio ar gynaliadwyedd y BBC a'i threfniadau cyllido yn y dyfodol."

Mae BBC Cymru a Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.