Creu arwyddion cynhwysol i roi croeso i bawb i'r Eisteddfod

Mae'n dau fab hyfryd sy'n awtistig wedi newid y ffordd ni'n edrych ar bethau, medd Sophie a DannieFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae meibion Sophie a Danny "wedi newid y ffordd ni'n edrych ar bethau", medden nhw

GanSara Down-Roberts
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Wrth i ardal yr Eisteddfod Genedlaethol groesawu pobl o bob cwr mae arwyddion cwbl unigryw i'w gweld yn Aberteifi - arwyddion braille sydd â chod QR yn cynnwys iaith arwyddo.

Syniad Sophie Edwards-Abott a'i gŵr Danny oedd creu'r arwyddion, a hynny am eu bod yn teimlo ei bod yn hynod bwysig "bod y croeso yn un cynhwysol".

"Mae'n dau fab hyfryd yn awtistig - yr hynaf yn bedair oed a'r ieuengaf yn ddwy oed a does 'na'r un ohonyn nhw'n siarad," meddai Sophie wrth siarad â Cymru Fyw.

"Mae anabledd yn rhywbeth sy'n agos iawn at ein calonnau.

"Mesur gwirioneddol cymuned yw nid sut mae hi'n trin y mwyafrif, ond sut mae hi'n croesawu pawb."

Arwydd braille yn AberteifiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yr arwydd mewn braille yn Aberteifi ac mae'r ddraig yn cynnwys cod QR sy'n arddangos y croeso mewn iaith arwyddo

Dywedodd Danny eu bod yn "ceisio ystyried anabledd a hygyrchedd lle bynnag y gallwn".

"Felly eleni, roeddem am greu arddangosfeydd sy'n dathlu nid yn unig ni fel cenedl, ond hefyd cymuned o bobl sy'n aml yn cael eu hanwybyddu neu eu trin fel pobl eilradd.

"Yn gyffredinol er bod lot o siarad am fod yn gynhwysol - yn amlach na pheidio does yna ddim digon o sylw i anghenion pobl fel ein plant ni ac eraill sy'n byw â chyflyrau."

Felly gyda chymorth maer Aberteifi, Olwen Davies a'r pwyllgor addurno lleol mae'r arwyddion bellach i'w gweld ar hyd y dref.

Sian Buddug Williams, athrawes arbenigol yng Ngheredigion, sydd wedi cydlynu'r gwaith ac yn gyfrifol am yr arwyddo.

Disgrifiad,

"Ychwanegiadau bach ydyn nhw, ond rydym yn gobeithio y byddant yn helpu i wneud i'n tref a'n Eisteddfod deimlo ychydig yn fwy croesawgar a hygyrch i bawb," ychwanegodd Sophie.

"Mewn byd lle gallwch fod yn unrhyw beth mae'n bwysig bod yn garedig, amyneddgar a chynhwysol.

"Rwy'n gwybod mai cam bach yn unig yw hwn, ond mae pob sgwrs yn dechrau yn rhywle. Drwy agor y sgwrs, gallwn helpu i newid y ffordd y mae pobl yn meddwl, annog eraill i ystyried hygyrchedd o'r cychwyn cyntaf, ac yn ddelfrydol, creu byd mwy cynhwysol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Felly, pan welwch ein dreigiau o amgylch y dref, arhoswch am eiliad. Sganiwch y codau QR, rhowch gynnig ar ddarllen y Braille, ac yn bwysicaf oll, sgwrsiwch gyda'ch plant, eich teulu a'ch ffrindiau.

"Mae pob sgwrs yn helpu i feithrin dealltwriaeth, derbyniad a charedigrwydd."

Mae River a Hunter bellach yn 2 a 4 oedFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hunter a River bellach yn 4 a 2 oed

Dywed Sophie a Danny bod cael Hunter a River wedi newid eu byd yn llwyr a'u bod wrth eu bodd yn byw "bywyd gwahanol i'r hyn roedden nhw wedi'i ddychmygu".

"Mae'r ddau fachgen yn hyfryd - mae'n bwysig ein bod ni a phobl yn ein cymunedau ni yn delio gyda'u hanghenion nhw.

"Gadewch i ni wneud cynhwysiant yn norm. Gadewch i ni siarad am anabledd yn agored, heb ofn na lletchwithdod, oherwydd mae'n rhan o fywyd bob dydd.

"Po fwyaf y byddwn yn siarad, y mwyaf y byddwn yn deall. Po fwyaf y byddwn yn deall, y mwyaf croesawgar, derbyniol a chynhwysol y daw ein cymunedau.

"Os bydd ein harddangosfeydd yn annog un sgwrs arall, un weithred garedig arall, neu'n helpu un person arall i deimlo eu bod yn cael eu gweld a'u cynnwys, yna byddant wedi cyflawni'n union yr hyn yr oeddem yn gobeithio y byddent yn ei wneud."

Bydd Eisteddfod y Garreg Las yn cael ei chynnal yn Llantwd o 1-8 Awst 2026.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.