Sut mae cyrraedd Maes Eisteddfod y Garreg Las?

- Cyhoeddwyd
Mae'r aros bron ar ben ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026 - ond sut mae cyrraedd y Maes?
Os ydych chi'n bwriadu teithio ar fws, trên, car neu feic - mae'r holl gyfarwyddiadau a'r wybodaeth sydd ei angen arnoch chi ar gael yma.
Dod ar drên?
Mae Trafnidiaeth Cymru'n rhedeg bysiau gwennol rheolaidd i'r Maes o orsaf Caerfyrddin, gyda'r bws olaf yn gadael y Maes i ddychwelyd i orsaf Caerfyrddin ar gyfer trên:
22:41 i Gaerdydd (Llun i Gwener);
21:34 (dydd Sadwrn);
21:15 (dydd Sul).
Mae'r gwasanaeth bws gwennol am ddim ac mae modd darllen yr amserlen yma, dolen allanol.
Mae nifer o orsafoedd trên eraill sy'n cysylltu â bysiau, ac mae modd dal trên i orsaf Abergwaun er mwyn cerdded i'r orsaf fysiau yn y dref a dal bws T5 sy'n mynd heibio'r Maes.
Dod ar fws?
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth bws TrawsCymru T5 i fynd yn uniongyrchol i'r Eisteddfod yn Llantwd.
Mae TrawsCymru wedi cynyddu pa mor aml mae'r gwasanaeth T5 yn gweithredu rhwng Aberteifi ac Abergwaun rhwng 1 ac 8 Awst.
Mae gwasanaeth bws 430 yn darparu cysylltiad rhwng Arberth ac Aberteifi drwy Grymych.
Bydd y gwasanaeth yn rhedeg yn ddyddiol yn ystod yr Eisteddfod, gyda phob gwasanaeth yn teithio'r holl ffordd i ac o Arberth.
Bydd bws ychwanegol hwyr gyda'r nos hefyd yn gadael yn uniongyrchol o'r Maes am 23:15.
Mae gwasanaeth bws 460 yn darparu cysylltiad rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi drwy Gastellnewydd Emlyn - o ddydd Llun i Sadwrn yn unig.
Newidiwch yn Aberteifi ar gyfer cysylltiad ymlaen i'r Maes ar wasanaeth T5 neu'r bws gwennol.
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth bws fflecsi i deithio o amgylch yr ardal tra byddwch yno.
Bydd gwasanaeth bws gwennol (Bws yr Arglwydd Rhys) yn rhedeg yn rheolaidd rhwng Sgwâr Finch a'r Maes o 07:00 tan 00:00.
Mae'r gwasanaeth am ddim ac yn gadael y sgwâr ar yr awr i deithio i'r Maes ac yn gadael y Maes i ddychwelyd i Aberteifi bob hanner awr wedi.
Cyrraedd mewn car?
Os ydych yn gorfod teithio mewn car i'r Eisteddfod, y cyngor yw dilyn yr arwyddion 'Eisteddfod' melyn i gyrraedd y Maes.
Mae Maes B, y maes carafanau a gwersylla teuluol, Hwyrnos a maes pebyll Maes B, ynghyd â'r meysydd parcio i gyd yn agos at Faes yr Eisteddfod.
O'r gogledd a'r canolbarth:
Bydd traffig yn teithio i'r Maes ar yr A487, gan deithio i'r de o Aberystwyth, ymlaen i Synod Inn, heibio Aberteifi, cyn cyrraedd y safle, i'r gogledd o Lantwd ar yr A487.
O dde Cymru:
Bydd arwyddion clir yn cael eu gosod o gyffiniau Caerfyrddin ymlaen.
O'r ardal hon, dilynwch yr A40 i gyfeiriad cylchfan Pemblewyn. Yno, cewch eich cyfeirio i gymryd yr A478 tua'r gogledd.
Parhewch hyd at y groesffordd gyda'r B4332, trowch i'r chwith a theithio tua'r gorllewin.
Dilynwch yr B4332 am tua dwy filltir, trowch i'r dde a dilyn y ffordd tuag at yr A487, nes cyrraedd y gyffordd gyda'r A487.
Ar ôl cyrraedd yr A487, ewch tua'r gogledd i gyfeiriad Aberteifi.
Parhewch am filltir nes cyrraedd y lleoliad, yn Llantwd.
Dod ar feic?
Mae hyd at 400 safle beic cloadwy wedi'u lleoli wrth ymyl y Ganolfan Groeso.
Y cyngor yw i chi gymryd gofal wrth feicio i'r Maes gan fod yr A487 yn gallu bod yn brysur.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.