Pobl ifanc yn fwy tebygol o fwyta tecawê a phrydau parod - arolwg

Mae arolwg newydd wedi canfod fod oedolion ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o fwyta tecawê nag unrhyw grŵp oedran arall
- Cyhoeddwyd
Mae oedolion ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o fwyta bwyd tecawê, prydau parod a phrynu bwyd wrth fynd nag unrhyw grŵp oedran arall, yn ôl arolwg newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Canfu'r arolwg fod 26% o bobl rhwng 16 a 29 oed wedi bwyta bwyd tecawê ar o leiaf ddau ddiwrnod yn ystod yr wythnos cyn iddyn nhw gael eu holi.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yr ymddygiadau hyn yn gallu cynyddu'r risg o fod dros bwysau neu'n ordew.
Mae'r corff yn rhybuddio bod amgylcheddau bwyd sothach yn gallu gwneud dewisiadau iach yn anoddach i bobl ifanc.

Dywedodd 26% o bobl rhwng 16 a 29 oed eu bod wedi bwyta bwyd tecawê ar o leiaf ddau ddiwrnod yn ystod yr wythnos cyn cael eu holi
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod bwydydd fel tecawês a phrydau parod yn aml yn cynnwys lefelau uwch o fraster, siwgr a halen.
Yn ôl y corff, gall deietau sy'n cynnwys llawer o'r bwydydd hyn gynyddu'r risg o fod dros bwysau neu'n ordew, sy'n gysylltiedig â chyflyrau fel clefyd y galon, rhai mathau o ganser a diabetes math 2.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y canfyddiadau'n tynnu sylw at y ffordd y gall amgylcheddau bwyd sothach ddylanwadu ar arferion bwyta a risg pobl o ordewdra.
Yn ôl yr arolwg, roedd pobl ifanc 16 i 29 oed yn fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o fwyta cinio oddi cartref.
O'r oedolion ifanc oedd yn bwyta cinio oddi cartref, dywedodd 77% eu bod yn ei brynu wrth fynd, sef y ganran uchaf o unrhyw grŵp oedran.

Canfu'r ymchwil fod 35% o oedolion ifanc yn dweud eu bod yn gweini dognau mawr iddyn nhw eu hunain, o'i gymharu â 12% o bobl 70 oed a hŷn
Roedd oedolion ifanc hefyd yn fwy tebygol o adrodd am ymddygiadau bwyta a allai gyfrannu at ennill pwysau.
Dywedodd 35% o bobl rhwng 16 a 29 oed eu bod yn gweini dognau mawr iddyn nhw eu hunain, sef y ganran uchaf o unrhyw grŵp oedran.
Ar y cyfan, dywedodd dros hanner yr ymatebwyr (53%) nad ydyn nhw'n gadael bwyd ar eu plât yn aml hyd yn oed pan fyddan nhw'n teimlo'n llawn.
Yn gyffredinol, roedd gwrywod, pobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a'r rhai oedd yn ystyried eu hunain yn drymach o ran pwysau hefyd yn fwy tebygol o adrodd am ymddygiadau bwyta sy'n gysylltiedig â risg uwch o ordewdra.
'Angen gwneud hi'n haws'
Dywedodd Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod mwy na 60% o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew.
"Mae'r gwaith hwn wedi canfod mai oedolion ifanc a'r rhai sy'n byw mewn cymunedau mwy difreintiedig sy'n wynebu'r heriau mwyaf o ran gwneud dewisiadau bwyd iachach," meddai.
"Rydyn ni'n gwybod bod pobl eisiau gwneud dewisiadau bwyd gwell ond eu bod yn teimlo nad yw eu hamgylchedd o gymorth iddyn nhw.
"Mae angen i ni ei gwneud hi'n haws i bobl wneud dewisiadau iach drwy ddarparu iachach."

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, gall prydau parod gynnwys lefelau uwch o fraster, siwgr a halen
Dywedodd Dr Catherine Sharp, Prif Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod yr arolwg yn rhoi darlun cliriach o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar arferion bwyta pobl yng Nghymru.
"Mae deall sut mae hyn yn gweithio yn y byd go iawn yn hanfodol ar gyfer datblygu polisi effeithiol.
"Mae'r ymchwil yn dangos ble mae ymddygiadau sy'n gysylltiedig â risg uwch o fod dros bwysau neu'n ordew fwyaf cyffredin ac yn darparu tystiolaeth bwysig i gefnogi ymyriadau wedi'u targedu i wella iechyd yng Nghymru," meddai.
Cwblhawyd yr arolwg gan 1,460 o bobl ledled Cymru rhwng Awst a Medi 2024 fel rhan o banel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill

- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2025

